Ganwyd Alun Pask ar 10 Medi 1937 ym Mhontllanfraith, Sir Fynwy, yr ail o dri mab David Gwyn Pask (1910-1979) a'i wraig Winifred Dovey (g. Bray, 1910-1976).
Cafodd Pask ei addysg yn Ysgol Ramadeg Pontllanfraith ac yng ngholeg Loughborough yn ystod y 1950au. Roedd yn alluog yn academaidd ac yn hoff iawn o chwaraeon. Chwaraeodd rygbi fel mewnwr yn gyntaf dros yr ysgol ramadeg ac Ysgolion Cwm Rhymni, ond newidiodd ei safle i'r rheng ôl yn ei flwyddyn olaf yn yr ysgol. Yn Ebrill 1955 chwaraeodd dros Ysgolion Uwchradd Cymru yn Toulon yn erbyn Ffrainc (colli 14-9) ac yng Nghaerdydd yn erbyn Lloegr (cyfartal 8-8).
Daeth Pask i sylw Clwb Rygbi Aberteleri trwy Haydn Morgan a oedd wedi chwarae yn ei erbyn mewn gêm rhwng Catrawd y Parasiwtwyr a Chyffinwyr De Cymru yng Nghyprus yn ystod Gwasanaeth Cenedlaethol Pask. Chwaraeodd am y tro cyntaf dros Aberteleri yn erby Penybont yn Rhagfyr 1956. Yn Ionawr 1959 roedd Pask yn aelod o dîm ar y cyd rhwng Aberteleri a Glyn Ebwy a gurodd Awstralia o 6 phwynt i 5 ym Mharc Aberteleri. Pan ddychwelodd i'r coleg yn Ebrill 1959 fel capten ysbrydolodd Loughborough i fuddugoliaeth annisgwyl yng nghystadleuaeth saith bob ochr Middlesex gan drechu Cymry Llundain yn y rownd derfynol yn Twickenham.
Daeth cyfnod cyntaf Pask yn gapten ar Aberteleri yn nhymor 1960-61, ac yn Nhachwedd 1960 roedd yn aelod o dîm ar y cyd rhwng Aberteleri a Glyn Ebwy a gollodd o drwch blewyn (0-3) yn erbyn De Affrica yn Eugene Cross Park. Ar ôl teithio fel eilydd dair ar ddeg o weithiau cynrychiolodd Gymru o'r diwedd ym Mharis ar 25 Mawrth 1961. Sgoriodd gais i ddod â Chymru'n gyfartal cyn yr egwyl ond y Ffrancwyr a enillodd gêm glòs (8-6). Y flwyddyn ganlynol yn erbyn yr un gwrthwynebwyr yng Nghaerdydd achubodd y dydd yn gofiadwy trwy gwrso a thaclo asgellwr Ffrainc Rancoule, gan sicrhau ei le ar daith y Llewod 1962.
Priododd Alun Pask â Marilyn Jakeways (g. 1939) yn 1962 a ganwyd iddynt dri mab, Richard Alun (g. 1967), Jonathan Michael (g. 1970) ac Andrew Damian (g. 1975). Ar y pryd roedd Pask yn athro chwaraeon yn Ysgol Gyfun Tredegar. Pan gafodd ei ddewis ar gyfer taith y Llewod i Dde Affrica y flwyddyn honno rhoddodd Pwyllgor Addysg Sir Fynwy ganiatâd iddo fynd ond gwrthododd dalu ei gyflog dros yr absenoldeb estynedig, a hynny am resymau gwleidyddol yng ngolwg llawer.
Chwaraeodd Pask yn y tair gêm brawf gyntaf yn erbyn De Affrica gan amlygu ei ragweliad, ei daclo a'i allu cyfro ar diroedd cadarn. Collodd y prawf olaf yn sgil anaf i'w asennau ond mae'r cais gwych a sgoriodd trwy blymio dros y llinell yn erbyn rhanbarth Western Province wedi ei gofnodi yn un o'r ffotograffau chwaraeon gorau erioed.
Yn 1964 gwahoddwyd Pask ynghyd â 17 o sêr eraill rygbi'r byd i fod yn rhan o ddathliad Jiwbilî Bwrdd Rygbi De Affrica. Chwaraeodd Pask ym mhob un o'r tair gêm ddathliadol, ond unwaith eto ataliodd Pwyllgor Addysg Sir Fynwy ei gyflog oherwydd y gwaharddiad lliw yn Ne Affrica. Ychydig ddyddiau wedi'r gêm olaf chwaraeodd Pask dros Gymru, a oedd ar eu taith dramor gyntaf, yn erbyn Boland; cafwyd gemau wedyn yn erbyn De Affrica, (colli 24-3) a Gweriniaeth Rydd yr Oren. Yn hwyrach y flwyddyn honno chwaraeoedd Cymru yn erbyn Fiji ym Mharc yr Arfau Caerdydd a sgoriodd Pask gais campus mewn buddugoliaeth i Gymru (28-22).
Roedd Alun Pask yn aelod allweddol o dîm Cymru a enillodd y Goron Driphlyg yn 1965, am y tro cyntaf er 1952, a Chymru oedd yn fuddugol ym mhencampwriaeth y gwledydd cartref yn 1965 a 1966. Pask oedd capten Cymru yn Twickenham yn 1966 gan chwarae wrth ochr ei gyd-chwaraewyr o glwb Aberteleri Haydn Morgan ac Allan Lewis, a'i gais ef yn yr ail hanner a sicrhaodd fuddugoliaeth i Gymru dros Loegr (11-6).
Disgwyliai llawer o bobl mai Pask a fyddai'n gapten ar Lewod Prydain 1966, ac roedd dicter mawr yng Nghymru pan gafodd blaenwr yr Alban Michael Campbell-Lamerton ei benodi'n gapten yn ei le. Er gwaetha'r helynt perfformiodd y tîm yn dda yn rhan Awstralia o'r daith gan guro'r tîm cenedlaethol yn y ddwy gêm brawf cyn i Seland Newydd yn rhoi yn eu lle trwy eu curo yn eu pedair gêm brawf. Chwaraeodd y Llewod ddwy gêm yng Nghanada ar ddiwedd taith flinderus o 35 gornest.
Chwaraeodd Alun Pask am y tro olaf dros Gymru yn erbyn Iwerddon yn 1967. Cafodd ei ddewis ar gyfer y gêm ym Mharis ychydig wythnosau wedyn ond bu'n rhaid iddo dynnu allan oherwydd y ffliw. Roedd wedi chwarae mewn 26 gêm ryngwladol yn olynol dros Gymru gan fod yn gapten ar chwe achlysur. Cyhoeddodd ei ymddeoliad o rygbi yng nghyfarfod blynyddol Clwb Rygbi Aberteleri ym Mehefin 1967.
Parhaodd Pask i ddysgu yn Ysgol Gyfun Tredegar, ac ymddeolodd o'r diwedd yn 1989 wedi 29 mlynedd yn yr ysgol. Gweithiodd i'r BBC yng Nghaerdydd a bu ar panel pan aeth Brian Hoey â'i raglen radio Sports Line Up o amgylch y wlad. Roedd hefyd yn gynhyrchydd chwaraeon i BBC TV a gweithiodd gyda Carwyn James a Peter Walker ar eu darllediadau prynhawn Sul.
Bu Alun Pask farw o anadlu mwg yn dilyn tân yng nghartef y teulu yn Lôn Pennant, Cwm Gelli, Y Coed Duon, ar 1 Tachwedd 1995. Cyhaliwyd y gwasanaeth angladdol yn Eglwys St. Augustine, Pontllanfraith, ac yn Amlosgfa Gwent ar 8 Tachwedd.
Dyddiad cyhoeddi: 2023-09-06
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.