Ganwyd Dilys Price yn Bournemouth ar 3 Mehefin 1932, yn unig blentyn i Thomas John Evans (1899-1973), yn enedigol o Dreherbert, ac Elizabeth M Evans (g. Gould, 1906-1963), o Aberaman ger Aberdâr. Bu ei thad yn y llu awyr yn ystod y Rhyfel Mawr, cyn iddo fynd i weini yn Bournemouth, wedi troedigaeth dan ddylanwad cenhadwyr. Yno yn 1929 y priododd ag Elizabeth Gould. Dychwelsant i Aberdâr yn fuan ar ôl genedigaeth Dilys. Yn 1934, dan ddylanwad y cenhadwr Rees Howells, symudodd y teulu i'r Coleg Beiblaidd yn Abertawe, lle bu ei thad yn arddwr ar erddi Eidalaidd ystad Derwen Fawr, yn dilyn ei dad yntau a fu'n arddwr yng Nghastell Powys.
Addysgwyd Dilys yn yr ysgol breswyl a sefydlwyd yn Derwen Fawr gan Rees Howells ar gyfer plant cenhadon, ymhlith disgyblion o Asia a gwledydd pellennig eraill, yn ogystal â ffoaduriaid Iddewig yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Aeth ymlaen i gwblhau ei haddysg mewn ysgol uwchradd leol, cyn mynychu Coleg Hyfforddi Abertawe yn 1950 i hyfforddi fel athrawes. O 1952 i 1955, ei swydd gyntaf oedd dysgu yn Ysgol Townhill, Abertawe, ac yn ei chyfnod yno enilloddd ei disgyblion wobrau lu yn flynyddol mewn gymnasteg a dawns yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
Yn 1955 fe'i hanogwyd i fynd i astudio dawns am ddwy flynedd dan gyfarwyddyd Rudolf Laban a sefydlodd ei stiwdio, The Art of Movement, yn Addlestone yn swydd Surrey y flwyddyn honno. Bu'r profiad o ddysgu gyda Laban, yr arloesydd a ystyrir fel tad dawns gyfoes, yn ddylanwad enfawr ar y Gymraes ifanc, a bu'n ysbrydoliaeth i'w gwaith a'i hagwedd at fywyd a phobl drwy gydol ei hoes. Aeth Laban ati i adolygu addysg dawns, gan bwysleisio ei gred y dylai dawns fod ar gael i bawb. Dyma ysgogodd Dilys i arbenigo mewn cyflwyno dawns i bawb, ac yn enwedig i rai gydag anableddau corfforol.
Ar ôl gorffen ei haddysg gyda Laban yn 1957 fe'i penodwyd yn athrawes yn Ysgol Coed y Mwstwr, ym Mhenybont ar Ogwr, ysgol breswyl arbennig i ferched dan reolaeth y Swyddfa Gartref. Y flwyddyn ganlynol, yn 1958, ymunodd â'r ysgol gyfun gyntaf i'w hadeiladu'n bwrpasol yng Nghymru, sef Ysgol Sandfields ym Mhort Talbot. Fel ysgol newydd sbon roedd y cyfleusterau yn wych ar gyfer ymarfer corff a datblygodd hi gyrsiau dawns a symudiad drwy'r ysgol, i blant o bob gallu, gyda stiwdio penodol ar gyfer y gweithgaredd. Roedd ei gwaith yn arloesol ar y pryd, ac o ganlyniad daeth hi i sylw Coleg Hyfforddi Athrawon Caerdydd, a chynigiwyd swydd iddi fel uwch-ddarlithydd Ymarfer Corff a Symudiad yn 1960. Yn yr un flwyddyn (1960) priododd Thomas Roland Price (1925-1990) a chawsant un mab, Rhys Daniel Price (g. 1967), cyn ysgaru yn 1975.
Bu'n darlithio a gwneud gwaith ymchwil yng Ngholeg Hyfforddi Athrawon Caerdydd tan ei hymddeoliad yn 1990. Derbyniodd radd B.Ed yn y Celfyddydau Creadigol yn 1965 ac M.Ed yn 1979, pan ddyrchafwyd y coleg yn Athrofa Addysg Uwch De Morgannwg. Sefydlodd fodiwl arbenigol yno ar symudiad i blant a phobl ag anableddau corfforol, y cyntaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig. Bu Dilys Price yn allweddol yn natblygiad y Ganolfan Chwaraeon i'r Anabl yn Athrofa Addysg Uwch De Morgannwg yn y 1980au, sef Prifysgol Fetropolitan Caerdydd bellach. Hon eto oedd y ganolfan gyntaf o'i bath yn y Deyrnas Unedig, a bu'n ddylanwadol iawn yn natblygiad y Mudiad Paralympaidd.
Yn 1998, sefydlodd elusen arloesol, Touch Trust, sy'n cynnig rhaglen symud creadigol unigryw ar gyfer unigolion ag anableddau dwys. Daeth yr elusen yn un o'r saith cwmni creadigol preswyl o fewn Canolfan Mileniwm Cymru yn 2004. Bu Dilys Price yn Brif Weithredwr ar yr elusen hyd 2015. Cynigir y rhaglen bellach mewn llawer o ysgolion arbennig yng Nghymru.
Yn 2003 anrhydeddwyd Dilys Price ag OBE am ei chyfraniad i addysg a phobl gydag anghenion arbennig yng Nghymru. Fe'i hurddwyd yn Gymrawd er Anrhydedd o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd yn 2011, o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn 2018 ac o Brifysgol Caerdydd yn 2019.
Yn 1986 mentrodd nenblymio am y tro cyntaf, ac o hynny daeth yn obsesiwn am weddill ei hoes ac yn fodd codi arian at ei helusen hefyd. Cyflawnodd dros 1,300 o neidiau ar ei phen ei hun heb sôn am y rhai tandem, gan arbenigo mewn acrobateg awyr. Ar 13 Ebrill 2013, yn 80 a 315 diwrnod oed, ym maes awyr Langar, Nottingham, torrodd y record byd fel y nenblymwraig solo hynaf, a safodd y record honno hyd ei marwolaeth yn 2020. Yn 2017 rhoddodd sgwrs TEDx yng Nghaerdydd am ei nenblymio dan y teitl 'It's never too late'.
Bu Dilys Price farw ar 9 Hydref 2020 yn ei chartref yng Nghaerdydd.
Dyddiad cyhoeddi: 2024-02-21
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.