Ganwyd Ioan Roberts ar 22 Tachwedd 1941 ym mhentref Rhoshirwaun ym Mhen Llŷn, yn fab i Ellis Roberts (1908-1980) a'i wraig Esther (1911-1988). Roedd ganddo un chwaer, Catherine (Katie Prichard yn ddiweddarach). Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Llidiardau ac Ysgol Ramadeg Botwnnog. Aeth ymlaen i Brifysgol Manceinion, lle bu am ddwy flynedd yn astudio Peirianneg Sifil, cyn gadael a chael gwaith fel peiriannydd gyda Chyngor Sir Trefaldwyn yn gyntaf, ac wedyn gyda Chyngor Tref Amwythig. Ym Maldwyn yn y 1970au cyfarfu ag Alwena James, priodi a chael dau o blant, Sion a Lois.
Yn y cyfnod hwnnw y dechreuodd ysgrifennu erthyglau am ei gynefin ym Maldwyn i'r Cymro a daeth ei bortreadau o gymeriadau'r ardal yn eithriadol o boblogaidd. Sylweddolodd nad peiriannydd mohono mewn gwirionedd, ond dyn geiriau. Penderfynodd wneud cais i'r Cymro am swydd fel newyddiadurwr ac er nad oedd ganddo'r cymwysterau ffurfiol, nid oedd gan y Golygydd, D. Llion Griffiths, ddim amheuaeth mai ef oedd yr un i lenwi'r swydd.
Sylwodd Gwilym Owen ar ei flaengaredd fel newyddiadurwr ac fe'i penododd yn olygydd rhaglen newyddion Y Dydd ar HTV yn 1977. O ganlyniad i ddyfodiad S4C yn 1982 cafodd Y Dydd ei diddymu a chollodd Ioan ei waith. Yn y cyfamser daeth Gwilym Owen yn olygydd newyddion Radio Cymru a chafodd Ioan beth gwaith gyda Newyddion BBC Cymru, diolch i Gwilym.
Yng nghanol y 1980au, trodd oddi wrth newyddiaduraeth 'galed' at olygu a sgriptio, ac yn 1989 ymunodd â thîm rhaglen gylchgrawn S4C, Hel Straeon, un o'r cyfresi mwyaf poblogaidd a fu erioed ar y sianel. Cynhyrchwyd y gyfres yn wreiddiol gan Teledu'r Tir Glas a Ffilmiau'r Nant ac yn ddiweddarach gan Uned Hel Straeon ac yna cwmni Seiont, cwmni yr oedd Ioan yn un o'i gyfarwyddwyr. Cafodd fodd i fyw pan welodd fod ei gyfres teithio i'r Alban ac i Iwerddon gyda Lyn Ebenezer wedi cyrraedd y brig o ran nifer y gwylwyr ar S4C. Ond, er dirfawr loes iddo, daeth y cyhoeddiad y byddai'r rhaglen yn dirwyn i ben yn 1998 ac Ioan Roberts unwaith eto yn ddi-waith.
Trodd wedyn at sgrifennu a golygu llyfrau yn bennaf. Rhoddodd ugain mlynedd o gyfraniad ac mae'r ddawn canfod ac adrodd straeon yn amlwg yn ei gyfrolau. Lluniodd y gyfrol Elfed: Cawr ar Goesau Byr (2000) er cof am Elfed Lewys, y gweinidog a'r canwr gwerin, drwy gasglu straeon pobl eraill amdano. Roedd ei gydymdeimlad ag unigolion a gawsai eu dal dan ormes gwladwriaeth yn amlwg yn ei gyfrol Achos y Bomiau Bach (2001) ar achos cynllwynio Mudiad Sosialaidd Gweriniaethol Cymru yn Llys y Goron, Caerdydd yn 1983, achos yr oedd Ioan yn bresennol ynddo fel gohebydd i Radio Cymru. Ar gyfer y gyfrol Rhyfel Ni - Profiadau Cymreig o Ddwy Ochr Rhyfel y Falklands/Malvinas (2003), ymwelodd â Phatagonia i holi teuluoedd milwyr Archentaidd o dras Gymreig, rhai wedi eu lladd yn y rhyfel honno. Canfod mwy nag a wêl y llygad yw crefft awdur llyfrau taith ac nid oes gwell enghraifft yn y Gymraeg na Pobol Drws Nesa - Taith fusneslyd drwy Iwerddon (2008) gan Ioan Roberts. Croniclodd hanes creu'r rhaglen boblogaidd C'mon Midffîld yn y gyfrol Stori Tîm o Walis (2013).
Gwnaeth gyfraniad mawr fel golygydd hefyd, gan gynnwys tair cyfrol o sgyrsiau radio Beti George, a hunangofiannau Gwilym Plas, Llwyndyrus, Stewart Jones a Hywel Heulyn. Roedd yn un o olygyddion mwyaf praff llenyddiaeth Plaid Cymru, yn y ddwy iaith - ar lefel genedlaethol gyda'r Ddraig Goch a'r Welsh Nation ac yn yr etholaethau lle trigai, sef Pontypridd adeg isetholiad 1989, ac yn ddiweddarach Caernarfon ar ôl iddo ddychwelyd i fyw ym Mhwllheli. Dywedodd Dafydd Wigley fod arno ddyled aruthrol i Ioan Roberts am ei gyfraniad i'w lyfrau hunangofiannol ac am ei farn wleidyddol graff.
Deallai Ioan Roberts bwysigrwydd lluniau mewn newyddiaduraeth i'r dim. Wrth ei waith fel gohebydd Y Cymro, cydweithiodd â'r ffotograffydd Geoff Charles am flynyddoedd, gan olygu a chyfansoddi testunau i gyd-fynd â'i luniau, a chyhoeddodd bedair cyfrol gan Wasg Y Lolfa iddo. Un o'i gampweithiau yw ei gyfrol ar y ffotonewyddiadurwr mawr Philip Jones Griffiths o Ruddlan. Philip Jones Griffiths Ei Fywyd a'i Luniau, a gyhoeddwyd gan Wasg Y Lolfa yn 2018, oedd y cofiant cyntaf iddo mewn unrhyw iaith.
Yn ei flynyddoedd olaf roedd Ioan Roberts yn un o griw prosiect cymunedol Plas Carmel yn Llŷn, a'i freuddwyd oedd adfer Capel Carmel yn ganolfan i ddehongli ac i gyflwyno cyfoeth diwylliant y fro ac adrodd hanes y pererinion i Ynys Enlli. Clywodd y newyddion da eu bod wedi sicrhau grant, ond ni chafodd fyw i weld gwireddu'r freuddwyd. Wedi ei farwolaeth cyhoeddwyd ei gyfrol olaf, ffrwyth gwaith ymchwil hir, Gwinllan a Roddwyd: Hanes y Cylch Catholig (Y Lolfa, 2021).
Bu Ioan Roberts farw ar 29 Rhagfyr 2019 o drawiad ar y galon wrth iddo ymlwybro yn ôl o draeth Porthdinllaen. Cynhaliwyd ei angladd yng nghapel Seiloh, Chwilog ac fe'i claddwyd ym mynwent capel Penuel Tyddyn Shôn.
Dyddiad cyhoeddi: 2024-04-03
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.