Fe wnaethoch chi chwilio am *
Ganwyd Gwyneth Roberts ar 1 Tachwedd 1910 yn Sylhet, India, yr ail o dri o blant y Parchedig John William Roberts (1880-1969), un o Gymry Lerpwl, a'i wraig Ethel Griffith Roberts (g. Jones, 1879-1972), genedigol o Fanceinion. Aeth ei rhieni yn genhadon i Sylhet yn 1907, a gweithio yno am bron i ddeugain mlynedd. Ganwyd iddynt dri o blant: bu farw'r cyntaf yn faban, a daeth y mab Hywel Griffith Roberts yn llawfeddyg yn ne Cymru. Dychwelodd y teulu ar ffyrlo i Brydain yn 1914 a bu'n rhaid i'r rhieni adael y ddau blentyn gydag aelodau o'r teulu yn y Rhyl. Addysgwyd Gwyneth Roberts yn Ysgol Christchurch ac Ysgol Sir y Rhyl, a Cholegau Prifysgol Cymru Bangor a Chaerdydd, a bu'n gweithio fel meddyg yn Ysbytai Caerdydd, Wolverhampton, Manceinion a Chraig y Nos yng Nghwm Tawe. Astudiodd hefyd yn y Ysgol Feddygaeth Drofannol Llundain ar ôl iddi benderfynu dilyn llwybrau ei rhieni. Enillodd raddau BSc, MB a BCh.
Cafodd ei derbyn i genhadaeth Eglwys Bresbyteraidd Cymru ym Mehefin 1938. Cyrhaeddodd Ysbyty Cenhadol Cymreig Durtlang ar gyrion tref Aizawl, prifddinas talaith Lushai (Mizoram heddiw) ym mis Tachwedd. Lleolwyd yr ysbyty yn yr hen goleg diwinyddol oddi ar 1928, ar grib mynydd 4,600 troedfedd o uchder. Ceid coedwig drwchus a dyffrynnoedd dyfnion ar bob tu. Hi oedd yr unig feddyg mewn darn o wlad cymaint â Chymru. Cyrchwyd cyffuriau 500 milltir o Calcutta, ac anghenion eraill 130 milltir o Silchar, teithiau anodd a gymerai ddiwrnodau o deithio.
Dr Roberts oedd yn gyfrifol am holl weinyddiaeth Ysbyty Durtlang. Gweithiai'n ddiymarbed, o 5:30 y bore hyd 10 yr hwyr, a byddai'n aml yn ymateb i argyfyngau brys yn ystod y nos. Hi oedd yn rhoddi anesthetig i'r claf ar gyfer ei driniaeth. Mynnodd deithio i'r pentrefi agos a phell i gynnal clinigau. Cenhades ydoedd fel ei rhieni yn gyntaf a blaenaf, a chymerai ran amlwg yn y gweithgareddau ar y Sul.
Derbyniodd gyfalaf tuag at yr ysbyty o Gasgliad Dathlu Canmlwyddiant y Genhadaeth yn 1940. Trefnodd adeiladu ward ar gyfer cleifion y ddarfodedigaeth, a phrynodd y peiriant pelydr X cyntaf yn 1958, gan roi'r cyfarpar at ei gilydd ei hun. Dysgodd bobl leol sut i adeiladu tanciau carthffosiaeth a gwneud concrit wedi'i atgyfnerthu. Dim ond dwywaith y daeth adref yn ystod y ddwy flynedd ar bymtheg gyntaf. Yn ystod yr ail ffyrlo yn 1955, bu'n brysur iawn yn annerch cyfarfodydd i godi arian i adeiladu estyniad.
Bu ei dyfodiad i Aizawl yn garreg filltir bwysig gan osod esiampl i ferched yn arbennig i ddilyn cyrsiau hyfforddi ar gyfer ysbytai ac ysgolion. Yn 1944, roedd yr ysbyty ymhlith y cyntaf yn y rhanbarth i'w gydnabod yn Ysgol Hyfforddi Gweinyddesau. Golygodd hyn waith enfawr iddi hi a Nyrs Gwladys M. Evans (1905-1963), merch o Aberbargoed a ddoniwyd fel Dr Roberts ag egni y tu hwnt i'r cyffredin. Paratôdd y ddwy ohonynt werslyfrau yn yr iaith Mizo, a chyfieithu'r cwestiynau a'r atebion hefyd gogyfer â phob arholiad. Cafwyd cymorth gyda diagramau'r gwerslyfrau gan y genhades Gwen Rees Roberts a gyrhaeddodd Aizawl yn Rhagfyr 1944.
Credai'n gydwybodol y dylid trosglwyddo'r genhadaeth i ddwylo arweinwyr crefyddol gogledd-ddwyrain India. Hi fel cynrychiolydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru a arwyddodd y ddogfen yn Chwefror 1958 i drosglwyddo'r ysbyty a'i offer i Synod yr Eglwys Bresbyteraidd yn rhanbarth Mizo ac Assam. Am ei chyfraniad arloesol, anrhydeddwyd hi gan Lywodraeth yr India â'r fedal Kaisar-i-Hind. Roedd y bobl leol yn hoff iawn ohoni, fel y dengys y llysenw a roddwyd iddi, Pi Puii ('yr anwylyn').
Dychwelodd Gwyneth Roberts o India ym Mawrth 1961 a mynd i ofalu am ei rhieni ym Mhrestatyn. Ond nid oedd llaesu dwylo i fod yn ei hanes, a chafodd swydd fel anesthetydd ymgynghorol yn Ysbytai'r Rhyl a Gogledd Cymru. Roedd yn un o saith a sefydlodd Cymdeithas Dai Clwyd Alyn, a bu'n gadeirydd Canolfan Cynghori Prestatyn, ac ar banel Samariaid y Rhyl. Gofalodd roddi o'i gorau i Gapel Cymraeg Rehoboth, Prestatyn a bu'n Ysgrifennydd Cyngor Eglwysi'r dref am bymtheng mlynedd. Bu galw mawr am ei gwasanaeth fel pregethwr lleyg yng ngogledd Cymru. Gwahoddwyd hi yn ôl i Mizoram i'r Jiwbili Diemwnt yn 1988 pan agorwyd ysbyty newydd, a bu'n bresennol hefyd, ar wahoddiad, yn nathliad y Canmlwyddiant yn 1994. Derbyniodd MBE yn 1996 am ei gwasanaeth cymdeithasol yng Nghymru.
Bu Gwyneth Roberts farw ar 29 Ionawr 2007 yn 96 mlwydd oed, a bu'r angladd yng Nghapel Rehoboth ac Amlosgfa Bae Colwyn.
Dyddiad cyhoeddi: 2023-06-01
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.