SHAND, FRANCES BATTY (c.1815 - 1885), gweithiwr elusennol

Enw: Frances Batty Shand
Dyddiad geni: c.1815
Dyddiad marw: 1885
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: gweithiwr elusennol
Maes gweithgaredd: Dyngarwch; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Ffion Mair Jones

Ganwyd Frances Batty Shand tua 1815 yn Jamaica yn ferch i John Shand (c.1759-1825), perchennog planhigfa o swydd Kincardine yn yr Alban, a Frances Brown (bu f. 1841) o St Catherine, Jamaica. Disgrifiwyd Frances Brown gan Shand fel 'benyw rydd o liw'. Yr oedd hi'n cadw tŷ iddo, a hefyd yn fam i ddeg o'i blant. Ganwyd pob un o'r deg yn St Catherine; Frances oedd yr ieuengaf ohonynt. Yn 1814, prynodd Shand stadau Burn, Fettercairn, ac Arnhall, swydd Aberdeen, ac yn 1816, dychwelodd i'r Alban, yn y gobaith y gallai ennill sedd yn y senedd. Ei fwriad, yn ôl pob golwg, oedd ysgogi ymdrechion perchnogion stadau yn India'r Gorllewin i lobïo am iawndal i berchnogion caethweision. Teithiodd ei ferch Frances, a oedd yn dal yn blentyn bach ar y pryd, i'r Alban yn ogystal. Wedi iddi gyrraedd, mae'n bosibl i'w modryb, Helen Shand o Elgin, Moray, ofalu rhyw gymaint amdani wrth iddi dderbyn ei haddysg. Neilltuwyd £3,000 iddi hi a phob un o'r chwe brawd a chwaer a oedd yn dal yn fyw, at y diben hwn drwy ddarpariaeth yn ewyllys eu tad, a brofwyd ar 12 Ionawr 1826.

Yn 1841, roedd Frances yn byw yng Nghaeredin, ynghyd â'i brawd John Batty Shand a'i chwaer Milbrough Sandiman. Roedd Milbrough yn briod er 1826 ond, gan nad oes sôn am ei gŵr, y mae'n bosibl ei bod eisoes yn weddw. Erbyn 1859, roedd John wedi symud i Gaerdydd, ac yn ymwneud â Chwmni Rheilffordd Rhymni. Mae'n debyg bod Frances wedi symud yno gydag ef, er nad oes tystiolaeth ei bod yn byw yn y dref tan gyfrifiad 1861, sy'n nodi ei bod yn preswylio ym Mhlas Parc. Erbyn 1871, roedd yn byw ym Mhlas Windsor, Caerdydd, gyda'i chwaer Milbrough, a ddisgrifir yn bendant bellach fel gwraig weddw, ynghyd â dwy forwyn, a John yn benteulu.

Yng nghanol y 1860au, anfonwyd comisiynydd o Lundain i wneud ymholiadau ynghylch niferoedd y deillion yn nhrefi Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe. Efallai mai'r ymweliad hwn a symbylodd ymdrechion lleol yn 1865 i greu Sefydliad y Deillion Caerdydd (Cardiff Institute for the Blind), gweithgarwch y bu John Batty Shand a'i chwaer Frances yn bur flaenllaw ynddo. Wedi ymsefydlu yng Nghaerdydd, adroddwyd bod John wedi 'dechrau ymddiddori'n fawr yn llesiant moesol a materol y dref, a'i fod bob amser yn awyddus i gynorthwyo pob gweithred dda a geisiai hyrwyddo'r amcanion hyn'. Ef oedd yn 'bennaf cyfrifol am sylfaenu sefydliad' er lles y deillion, wedi iddo sylwi ar eu cyflwr truenus, a daeth ei chwaer Frances yn ysgrifenyddes i'r fenter (The Western Mail, 2 Awst 1877 ). Mae adroddiadau papur newydd eraill yn priodoli sylfaenu'r sefydliad yn fwy cadarn i Frances (The Cardiff and Merthyr Guardian, Glamorgan Monmouth and Brecon Gazette, 8 Ebrill 1871 ). Ar ôl cychwyn ar raddfa fechan, gan ddysgu nifer fach o'r deillion yn eu cartrefi eu hunain, aeth y sefydliad yn ei flaen i ymgartrefu mewn cyfres o adeiladau: mewn gweithdy bychan yn ardal Treganna; yn Heol Byron, y Rhath; ac, yn 1868, yn Heol Longcross, cilffordd i Heol Casnewydd. Arhosodd yn Heol Longcross nes i'r stryd gael ei dinistrio mewn cyrch awyr yn 1941. Câi mynychwyr y sefydliad eu dysgu i ddarllen ac ysgrifennu ond yr angen mwyaf oedd sicrhau y gallent wneud bywoliaeth drostynt eu hunain, fel na fyddai'n rhaid iddynt fyw ar elusen a chymorth Deddf y Tlodion. Dangosir agwedd weithredol Frances tuag at wireddu'r amcan hwn mewn datganiadau i'r wasg, sy'n ei henwi fel ysgrifennydd ac yn nodi ei pharodrwydd i dderbyn gohebiaeth oddi wrth aelodau o'r cyhoedd a hoffai wybod rhagor am waith y sefydliad. Mewn enghraifft Gymraeg, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 1866, soniwyd am ddysgu darllen yn Gymraeg a Saesneg o'r Ysgrythurau ac am ddysgu '[c]refft i'w galluogi i ennill eu bywoliaeth eu hunain'; mewn papur newydd Saesneg (Ebrill 1871) rhoddwyd cydnabyddiaeth i Frances am gasglu tanysgrifiadau 'er mwyn codi gweithdai' ar Heol Casnewydd. Symiau bychain oedd y rhain gan mwyaf, ond cafwyd rhai cyfraniadau mwy sylweddol yn ogystal. Yr oedd ymddiriedolwyr y sefydliad, gan gynnwys John Crichton-Stuart, tryddydd ardalydd Bute, ymhlith y prif roddwyr. Yn ystod y cyfnod yn Heol Longcross y sefydlwyd yn llwyr y nod o gynorthwyo'r deillion i fyw bywydau annibynnol: dysgodd athrawon y mynychwyr sut i wneud basgedi a matiau, ac agorwyd siop i werthu'u gwaith. Pan ddaeth cyfnod anodd yn 1876, â dirwasgiad yn effeithio ar y fasnach longau, apeliodd Frances 'ar fenywod yr ardal am gymorth'. Sefydlwyd pwyllgor o fenywod yn sgil hyn, ac aethant ati i drefnu basâr yn yr ystafelloedd cynnull, lle gosodwyd stondinau wedi'u haddurno ac arnynt 'arddangosfa fawr ac amrywiol o wniadwaith cywrain ayb ar gyfer yr ystafell gyfarch, y fyfyrgell, yr ystafell wely, y boudoir... basgedi addurnedig Ffrengig, tegannau ayb; planhigion agored wedi'u hanfon gan yr Arglwydd Bute, Lefftenant-Cyrnol Hill ac eraill'. Yr oedd byddino'r menywod fel hyn yn gyfraniad pwysig gan Frances tuag at hybu amcanion y sefydliad a sicrhau ei barhad, a dywedwyd i'r digwyddiad ddarparu 'cyfraniad ardderchog' i'r coffrau.

Y flwyddyn ganlynol, bu farw John Batty Shand yn ei gartref yn 13 Plas Windsor. Adroddwyd yn 1879 i gronfa a sefydlwyd yn ei enw, 'Cronfa Goffa Shand', dalu morgais o £500 ar adeiladau'r sefydliad. Ymddengys bod Frances wedi gadael Caerdydd yn fuan wedi marwolaeth ei brawd: yn 1878, yr oedd yn byw yn Rosebank, Bridge of Allan, swydd Stirling, a bu farw yn Montreux, y Swistir, ar 11 Chwefror 1885. Daethpwyd â'i gweddillion yn ôl i Gaerdydd a'u gadael dros nos yn Sefydliad y Deillion cyn eu claddu ym mynwent Cathays, lle y claddesid ei brawd John o'i blaen. Gadawodd stad yn yr Alban werth £11,777 2s 5c. O'r swm hwn, cymynnodd i wraig o'r enw Ann Allardice hawl tra yr oedd yn fyw i eiddo ym Moss Terrace, Elgin, ynghyd ag arian i ferched dau gefnder iddi, Cyrnol John Shand a William Shand. Aeth gweddill ei chymynroddion i achosion elusennol: yng nghyfarfod blynyddol Sefydliad y Deillion Caerdydd yn 1886, derbyniwyd yn wresog £1,000 a adawyd i'r sefydliad drwy 'Gronfa Goffa Shand', a disgrifiwyd Frances fel 'mam' y sefydliad ac fel 'ysbrydoliaeth i'r rhai oedd yn ceisio dilyn ei hesiampl'. Roedd ailenwi Sefydliad y Deillion Caerdydd yn 'Tŷ Shand' ('Shand House') yn 1984 yn gydnabyddiaeth o'r cyfraniad hwn. Gadawyd £50 i genhadaeth tref Caerdydd, a chlustnodwyd gweddill ei stad ar gyfer ward i blant yn Ysbyty Morgannwg a Sir Fynwy, ward a enwyd ar ôl John yn 'Ward Goffa Shand'.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2022-08-30

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.