SHEPPARD, ARNOLD ALONZO ('KID') (1908 - 1979), paffiwr

Enw: Arnold Alonzo Sheppard
Dyddiad geni: 1908
Dyddiad marw: 1979
Priod: Margaret Sheppard (née Taylor)
Priod: Elizabeth Christina Sheppard (née Allison)
Plentyn: Virginia Sheppard
Rhiant: Alonzo Sheppard
Rhiant: Beatrice Louisa Sheppard (née Eley)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: paffiwr
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden

Ganwyd Arnold Sheppard ar 14 Mai 1908 yn 35 Stryd Sophia, Tre-biwt, Caerdydd (yr ardal a elwir Tiger Bay), trydydd plentyn Alonzo Sheppard (g. 1885), morwr o Barbados, a'i wraig Beatrice Louisa (g. Eley, 1887-1948) o Sain Ffagan, Caerdydd. Ei frodyr a chwiorydd oedd: Beatrice Eley (g. 1906, tad anhysbys), William Charles Sheppard (1907-1978), Lucy Sheppard (a fu farw'n fuan wedi ei geni yn 1909) a Joseph Sheppard (g. 1911). Preswyliai pedwar teulu mewn saith stafell yn 35 Stryd Sophia, ac mae'r tŷ wedi ei ddymchwel bellach.

Yn ei arddegau cynnar aeth Sheppard i weithio mewn pyllau glo yn Ferndale a Maerdy yng Nghwm Rhondda, un o'r ychydig o lowyr Du yn yr ardal, dynion a anwybyddwyd i raddau helaeth yn hanes meysydd glo Cymru.

Nid yw'n glir pryd yn union y dechreuodd Sheppard baffio, ond cafodd ei ornest broffesiynol gyntaf ar 4 Ebrill 1925, yn 16 oed, yn erbyn Ivor Williams o Dre-watt yng nghlwb Athletic Tre-watt, gan ennill trwy ei lorio yn y rownd gyntaf. Yn bum troedfedd chwe modfedd a thri chwarter, ymladdodd yn y dosbarth pwysau ysgafn. Yn ystod ei yrfa cystadlodd hefyd ar bwysau bantam, plu a welter. Er ei fod yn frodor o Gaerdydd, byddai'n aml yn cael ei hysbysebu fel 'Arnold Sheppard of Ferndale'. Mabwysiadodd y llysenw 'Kid' oherwydd ei olwg bachgennaidd.

Yn 1925 a 1926 ymladdodd Sheppard naw ar hugain o weithiau, y rhan fwyaf yn ne Cymru. O 1927 ymlaen teithiodd ar hyd y DU, gan ymladd yn nwyrain Llundain, y Canolbarth ac ardaloedd eraill. Roedd ei ornest olaf yn y Mile End Arena, Llundain yn 1939. Rhwng 1925 a 1939 mae ei ystadegau'n datgelu, mewn manylder graffig, yrfa fileinig o greulon. Gyda chyfanswm o 338 o ornestau swyddogol, mae'n un o ddau neu dri o baffwyr y credir iddynt ymladd y nifer uchaf o ornestau swyddogol erioed. Ar draws ei yrfa gyfan, mae hyn yn rhoi cyfartaledd o ryw bedair gornest ar hugain y flwyddyn neu ddwy bob mis. Sonnir yn y papurau newydd amdano'n ymladd gydag anafiadau o ornest flaenorol yn dal wedi eu rhwymo. Enillodd 110 o ornestau a chollodd 181 gyda 47 yn gyfartal. Yn anffodus, fe gafodd yr enw ar un adeg o fod wedi colli'r nifer fwyaf o ornestau yn hanes paffio, a'i wawdio am hynny'n aml. Ond a rhoi'r ystadegau mewn perspectif, mewn gwirionedd enillodd fwy o ornestau na Mike Tyson a Joe Frazier gyda'i gilydd.

Pwnc llosg i baffwyr Du ym Mhrydain yn ystod cyfnod Sheppard yn y cylch oedd y 'bar lliw' bondigrybwyll a fu mewn grym rhwng 1911 a 1948. Yn y bôn golygai hyn nad oedd hawl gan baffiwr i gystadlu am deitlau oni bai bod ganddo ddau riant gwyn. Rhaid bod hyn yn neilltuol o rwystredig i Sheppard gan iddo ennill ar 8 Hydref 1926 ym Mhort Talbot yn erbyn Bill Beynon, cyn-bencampwr pwysau bantam Prydain. Curodd Sheppard Pat Butler o Gaer-lŷr, pencampwr pwysau welter Prydain, yng nghanol y 1930au hefyd, a chafodd ornest gyfartal gyda'i gyfaill mawr Billy Wood a fuasai'n bencampwr pwysau plu yr Alban. Gwaetha'r modd, amddifadwyd paffwyr fel Sheppard o gyfleoedd i gynrychioli eu tref neu eu cenedl ar lefel genedlaethol neu ryngwladol. Ac nid oedd yr hiliaeth a wynebai paffwyr Du yr adeg honno yn gyfyngedig i reolwyr Bwrdd Rheoli Paffio Prydain. Ceir adroddiadau ffiaidd mewn papurau newydd lleol a chenedlaethol, yn ogystal ag erthyglau mewn cylchgronau paffio, sy'n cyfeirio at Sheppard gyda thermau hiliol dilornus o bob math, er bod yr un adroddiadau hefyd yn canmol ei ddewrder, ei nerth a'i ddyfalbarhad.

Roedd gan Sheppard gardiau llongwr masnachol hefyd, ac yn ystod y 1920au a'r 30au bu ar y môr am o leiaf dri chyfnod, gan weithio fel stowiwr. Cyfle i ymadfer oedd y cyfnodau hyn, gan gynnal ei ffitrwydd yr un pryd trwy rofio glo o dan y deciau.

Priododd Margaret Taylor o Stryd Peel, Caerdydd yn 1932. Yn 1939 priododd Elizabeth Christina Allison (1919-1982) o Stepney, London, Llundain, a chawsant un ferch, Virginia Sheppard (1940-2021).

Rhoddodd Sheppard y gorau i baffio ym Mehefin 1939 yn 31 oed, ond roedd eisoes yn dangos effeithiau ei yrfa galed yn y cylch. Roedd yn dechrau colli ei olwg ac yn dioddef newidiadau sydyn yn ei hwyliau. Serch hynny, yn 1940, yn hytrach nag ymddeol a gorffwys, aeth yn ôl i'r llynges fasnachol, gan fynd dan lach llongau tanfor yr Almaen. Gwasanaethodd ar sawl llong yn ystod y rhyfel, gan gynnwys y 'Jamaica Producer' a'r 'Sambre', a chafodd pob un ei niweidio neu ei suddo ar ryw adeg.

Ar ddiwedd y rhyfel dechreuodd anafiadau paffio Sheppard effeithio'n enbyd arno ac ni allai weithio rhagor. Yr adeg honno, penderfynodd ei wraig fynd i Ganada gyda milwr Canadaidd, gan adael Sheppard i'r awdurdodau meddygol a Virginia i'r system gofal. Am dair neu bedair blynedd wedyn bu Sheppard yn ysbyty drwgenwog St. Matthews ar Ffordd Shepherdess yn Llundain, ysbyty a ddisgrifiwyd yn 1952 fel 'dump for the chronically sick'. Symudwyd ef wedyn i Seilam Claybury yn Woodford Bridge, Essex, ac yntau erbyn hynny bron yn gwbl ddall a chanddo anhwylderau corfforol a meddyliol yn deillio o drawma ar yr ymenydd a ddioddefodd tra'n paffio. Ychydig iawn o ymwelwyr a gafodd yn ystod ei amser yn Claybury, a bu iddo osod hysbyseb yng nghylchgrawn y Ring i roi gwybod i'w hen ffrindiau paffio ble yr oedd os dymunent ddod i'w weld.

Meddai un o nyrsys Claybury amdano: 'during 1969-70 Arnold was on ward R1 and though blind he had a quick left hook for anyone who upset him, or he would instinctively hit out if he felt threatened. Generally, he maintained a good rapport with the nursing staff but he did not respond well to strangers.'

Bu Arnold Sheppard farw yn Claybury ar 5 Chwefror 1979. Amlosgwyd ei gorff ar 8 Chwefror a gwasgarwyd ei lwch ym mynwent Dwyrain Llundain gerllaw. Gadawodd ferch a dau ŵyr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2023-03-23

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.