Ganwyd Victor Spinetti ar 2 Medi 1929 yn Marine Street, Cwm ger Glynebwy, yr hynaf o chwech o blant Giuseppe Spinetti a'i wraig Lily (g. Watson). Agorodd ei dad siop bysgod a sglodion yno yn 1926, a ganwyd pob un o'r plant yn y llety uwchben y siop. Roedd tad-cu Spinetti, Giorgio, wedi cerdded o Bari yn yr Eidal i Gymru i gael gwaith yn y pyllau glo.
Amlygodd Spinetti addewid addysgol yn ifanc iawn, a gallai ddarllen cyn mynd i'r ysgol. Aeth pethau'n dda tan ddechrau'r Ail Ryfel Byd, pan arestiwyd ei dad yng nghanol y nos a'i garcharu fel 'estron'. Yn ôl Spinetti daeth bywyd yn eithaf anodd - 'One day I'm Welsh, and the next I'm a spy!'. Cefnodd ei ffrindiau arno, cafodd ei fwlian yn yr ysgol, ac ymosododd dau lanc arno ar ei ffordd adref, gan beri iddo golli ei glyw ar un ochr, cyflwr a barodd am weddill ei oes. Camodd athro i'r adwy trwy ysgrifennu at yr awdurdodau i brysuro rhyddhau Giuseppe a cheisio cynnal addysg Victor.
Parhaodd Spinetti ei addysg yn Ysgol Trefynwy, a ffynnodd yno. Nid oedd ganddo fawr o ddawn am chwaraeon, ond cymerodd at weithgareddau drama'r ysgol a'r theatr amatur y tu allan. Ar ôl iddo adael yr ysgol, ceisiodd helpu yn y siop, ac mewn busnesau eraill, ond ni ddangosodd fawr o allu. Cafodd ei wysio i Wasanaeth Cenedlaethol, ond canfuwyd ei fod yn rhannol fyddar, a chafodd ei ddadfyddino'n gynnar oherwydd afiechyd, wedi iddo dreulio cyfnodau hir yn yr ysbyty gydag arllwysiadau pliwraidd.
Ar ôl dod adref, cofrestrodd yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, a dyna ddechrau ei daith fel perfformiwr proffesiynol. Prin y bu heb waith fyth wedyn. Yn y coleg yng Nghaerdydd y cwrddodd â'r actor Graham Curnow a fu'n gymar iddo am dros ddeugain mlynedd. Trwy gydol y 1950au treuliodd lawer o amser yn aelod cast mewn amryw ddramâu llwyfan, ac yn fwyaf nodedig 'South Pacific' pan symudodd i'r West End yn 1954. Ymunodd yn yr ymarferion, ac yn y pen draw bu'n rhannu llety gydag aelod arall o'r cast - dyn ifanc o'r enw Sean Connery.
Daeth nifer o rannau bychain wedyn, nes i Spinetti gael rôl yn Expresso Bongo yn 1958. Aeth ymlaen i gymryd rhan yn Candide Bernstein, ac ymunodd â Theatre Workshop Joan Littlewood yn Stratford East (ei 'brifysgol' fel y'i galwodd), lle'r arhosodd am chwe mlynedd. Un diwrnod yn 1960, cerddodd Brendan Behan i mewn i'r theatr a gofyn am Spinetti i chwarae rhan swyddog IRA officer yn The Hostage, a oedd yn trosglwyddo i Broadway. Er i'r sioe honno fod yn llwyddiant mawr, gofynnodd Littlewood i Spinetti ddod yn ôl i ymuno â chast Fings Ain't Wot They Used T'Be.
Y cywaith mwyaf cyffrous gyda Littlewood yn ddiamau oedd Oh What A Lovely War yn 1963, sioe a gyflwynodd bortread rhyfeddol Spinetti o ddril-ringyll byddin. Mynnodd Littlewood na ddylai fyth ymarfer y gorchmynion a roddai yn y sioe, a daethant yn enwog fel ffiloreg lwyr. Trosglwyddodd y sioe i Broadway, lle bu'n llwyddiant ysgubol. Enillodd Spinetti Wobr Tony am yr Actor Nodwedd Gorau mewn Sioe Gerdd, a oedd yn syndod llwyr iddo. Gwnaeth ei araith fuddugol mewn 'Cymraeg', iaith nad oedd yn ei medru'n rhugl o gwbl, ac fel y cymeriad a bortreadodd i ennill y wobr, fe'i dyfeisiodd wrth fynd yn ei flaen.
Gwnaeth ffilmiau wedyn gyda'r Beatles ar eu cais hwy, wedi iddynt ei weld yn Oh What A Lovely War, a soniai rhai amdano fel y chweched Beatle. Serennodd gyda Jack Klugman yn The Odd Couple yn y West End, a ffilmiodd The Taming of the Shrew gyda Richard Burton ac Elizabeth Taylor yn Rhufain. Ymddangosodd hefyd yn drawiadol gyda Sid James yn y sitcom Two in Clover a ddechreuodd yn 1969.
Roedd gwaith Spinetti yn amrywiol ac i bob golwg yn ddiamcan, gan bendilio rhwng arddulliau a genres. Yn y 1970au cyfarwyddodd nifer o sioeau cerdd, yn enwedig Hair yn Amsterdam a Rhufain, a Jesus Christ Superstar ym Mharis. Ysgrifennodd y ddrama In His Own Write yn y Theatr Genedlaethol, golwg ar fywyd John Lennon. Roedd yn berfformiwr nodedig gyda'r Royal Shakespeare Company, ac yn hwyr yn ei yrfa chwaraeodd ddihirod yn gofiadwy yn y sioeau llwyfan Oliver! (fel Fagin) a Peter Pan (fel Captain Hook). Aeth â'i sioe undyn ei hun A Very Private Diary ar daith ar draws y byd. Chwaraeodd ran Mog Edwards yn y fersiwn ffilm o Under Milk Wood yn 1971, mewn cast llawn sêr yn cynnwys Richard Burton, Elizabeth Taylor, Peter O'Toole, David Jason a Ruth Madoc.
I blant o genhedlaeth arbennig yn y 1980au, Spinetti yw llais y dihiryn Texas Pete yn fersiwn Saesneg y cartŵn Cymreig Superted, ac am flynyddoedd ef oedd 'the man of a thousand faces' yn y sioe blant Harry And The Wrinklies. Ymhlith ei ffilmiau diweddarach roedd The Attic: The Hiding of Anne Frank (1988), a The Krays (1990).
Roedd Spinetti hefyd yn llenor ac yn fardd, a chyhoeddwyd casgliad o'i farddoniaeth, Watchers Along the Mall, yn 1963. Mae ei hunangofiant, Victor Spinetti Up Front, a gyhoeddwyd yn 2006, yn llawn o'r straeon yr arferai eu hadrodd fel raconteur.
Yn ei flynyddoedd olaf rhoddwyd cymrodoriaethau er anrhydedd iddo gan Goleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru a chan Brifysgol Cymru Casnewydd.
Bu farw ei gymar Graham yn 1997. Yn Chwefror 2011, wedi i Spinetti lewygu ar y llwyfan a thorri asgwrn yn ei gefn, canfuwyd bod cancr y prostad arno. Bu farw mewn hospis yn Nhrefynwy ar 19 Mehefin 2012.
Dyddiad cyhoeddi: 2023-03-15
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.