Ganwyd Tony Bianchi ar 5 Ebrill 1952 yn North Shields, Northumberland, unig blentyn George Bianchi (1910-1988), plismon o dras Eidalaidd, a'i wraig Catherine (g. Nesbitt, 1916-2001). Mynychodd Tony ysgol Gatholig yn Newcastle upon Tyne. Gadawodd yr ysgol gyda chanlyniadau siomedig, yn ôl pob tebyg am fod ei athrawon wedi ei ddarbwyllo i sefyll ei arholiadau flwyddyn yn gynnar. Serch hynny, yn 1969, daeth yn fyfyriwr yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Graddiodd yno gyda dosbarth cyntaf mewn Saesneg ac Athroniaeth, ac aeth ymlaen i wneud doethuriaeth ar Samuel Beckett.
Yn Llanbedr cwrddodd â Diana Davies, Cymraes a oedd yn selog dros yr iaith a thros achos heddwch. Priododd y ddau yn 1973, a chawsant ddwy ferch, Heledd a Rhiannon. Aeth Tony ati i ddysgu Cymraeg ar gwrs Wlpan. 'I fell in love with Welsh', meddai, 'like you fall in love with a piece of music.'
Ar ôl graddio, bu'n dysgu Saesneg yng Nghei Connah yn Sir y Fflint ac yna yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Fe'i penodwyd wedyn yn swyddog llenyddiaeth gyda Chyngor Celfyddydau Cymru yng Nghaerdydd, ac yn y pen draw daeth yn bennaeth yr adran lenyddiaeth. Daeth ei briodas gyntaf i ben gydag ysgariad, a bu'n byw yn rhan olaf ei fywyd gyda'i gymar Ruth yng Nghaerdydd.
Gadawodd Tony Bianchi Gyngor y Celfyddydau yn 2002 er mwyn ymroi'n llwyr i ysgrifennu, ac yn ystod pymtheng mlynedd olaf ei fywyd daeth yn un o awduron mwyaf cynhyrchiol a lleisiau hynotaf llenyddiaeth Cymru. Ei brofiad gyda Chyngor y Celfyddydau oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer ei nofel gyntaf, Esgyrn Bach (2006), sy'n dychanu biwrocratiaeth sefydliadol. Enillodd Pryfeta (2007) Wobr Daniel Owen a chyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn. Cyhoeddodd Chwilio am Sebastian Pierce yn 2009, Ras Olaf Harri Selwyn yn 2012, ac yn 2015 enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol am Dwy Farwolaeth Endaf Rowlands. Sol a Lara (2016) oedd ei nofel olaf. Cafwyd casgliad o straeon byrion, Cyffesion Geordie oddi Cartref (2011) sy'n archwilio atgofion am ei fagwraeth ar lannau afon Tyne. Mae ei unig nofel Saesneg, Bumping (2010), hefyd wedi ei gosod yn ei gynefin yn North Shields. Wedi ei farwolaeth, cyhoeddwyd casgliad o'i straeon byrion Saesneg, Staring Back at Me, yn 2018. Ymddiddorai Tony Bianchi ym mywydau pobl mewn byd anghydnaws sy'n llithro o'u gafael. Mae sawl un o'i brif gymeriadau'n bobl obsesiynol, ac mae eu hunan-dwyll a'u ffantasïau'n cyfrannu i naratifau dyfeisgar a hiwmor tywyll ei nofelau. Ac yntau wedi dysgu Cymraeg yn oedolyn, ymhyfrydai yn ei chywair llafar, gan chwarae'n bryfoclyd â hynodrwydd ac amwysedd yr iaith.
Credai fod angen i bob nofelydd greu persona a gwisgo mwgwd. 'I soon discovered that it was easier to create such a mask in my second language', meddai. 'And the reason for this, of course, was that Welsh was itself a mask.' Credai hefyd fod ysgrifennu yn Gymraeg yn fodd i leihau'r boen o ymdrin â phynciau personol. Tynnodd Pryfeta ar anhwylder cof ei fam, ac yn Cyffesion Geordie oddi Cartref ysgrifennodd am y bwlian a ddioddefodd yn yr ysgol ac am ei berthynas anodd â'i dad treisgar.
Roedd Tony Bianchi hefyd yn fardd, a llwyddodd i feistroli crefft y gynghanedd, gan ennill nifer o wobrau am ei englynion. Cyhoeddwyd casgliad o'i ganu rhydd a chaeth, Rhwng Pladur a Blaguryn, yn 2018. Ymhlith ei gyfraniadau i feirniadaeth lenyddol y mae monograff ar Richard Vaughan yn y gyfres 'Writers of Wales' (1984) a chasgliad golygedig, Blodeugerdd Barddas o Farddoniaeth Gyfoes (2005). Gwnaeth y gwaith ymchwil cychwynnol ar gyfer casgliad o farddoniaeth Idris Davies hefyd, casgliad a olygwyd yn y pen draw gan Dafydd Johnston, The Complete Poems of Idris Davies (1994).
Cefnogodd Bianchi achosion adain-chwith ar hyd ei fywyd, er nad oes fawr o elfen wleidyddol agored yn ei waith llenyddol. Bu'n weithgar ym mudiad Gwrth-Apartheid Cymru a chefnogodd yr ymgyrch dros ddiarfogi niwclear. Roedd hefyd yn bianydd medrus.
Bu Tony Bianchi farw ar 2 Gorffennaf 2017 yn ei gartref ym Mhontcanna. Cynhaliwyd ei angladd ar 14 Gorffennaf, ym mynwent naturiol Coedarhydyglyn, Caerdydd.
Dyddiad cyhoeddi: 2024-08-28
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.