Sefydlwyd yr ysgol a elwid ar y cychwyn yn Congo House, neu Sefydliad Hyfforddi'r Congo, a'i ailenwi yn nes ymlaen yn Sefydliad Hyfforddi Affricanaidd, ym Mae Colwyn yn 1890 gan y Parch William Hughes (1856-1924), gweinidog Bedyddwyr Cymru a chyn-genhadwr yn Nhalaith Rydd y Congo. Yn ystod ei gyfnod byr yng nghanolbarth Affrica daeth Hughes i gredu nad oedd Africanwyr yn debygol o arddel y ffydd Gristnogol trwy ddulliau cenhadol traddodiadol. Pan orfodwyd ef gan afiechyd i roi'r gorau i'w waith cenhadol wedi tair blynedd yn 1885, daeth â dau lanc o Affrica adref gydag ef. Bachgen dengmlwydd o'r enw Kinkasa (c. 1875-1888) oedd un ohonynt, yr honnodd Hughes ei ganfod ar ei ffordd i'w orsaf genhadol. Y llall oedd Nkanza (1882-1892), bachgen wyth oed yr honnwyd bod ei fam wedi cytuno iddo ymadael ar ôl i Hughes ei waredu o gaethwasiaeth.
Teithiodd Kinkasa a Nkanza yng ngogledd Cymru gyda Hughes, gan gymryd rhan yn ei ddarlithoedd cyhoeddus a phregethau fel spesimenau o fywyd Affricanaidd ac fel esiamplau o botensial ieuenctid Affrica am addysg a Christnogaeth. Buant yn canu emynau yn eu hiaith eu hunan, yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn dawnsio i gerddoriaeth Affricanaidd, a gwisgo gwisg Affricanaidd dros eu siwtiau. Penderfynodd Hughes wedyn ddod â mwy o Affricanwyr ifainc am addysg ymarferol a hyfforddiant crefyddol yng ngogledd Cymru, amgylchfyd a ystyriai ef yn fwy iachus yn feddygol ac yn foesol. Trwy baratoi myfyrwyr fel cateceiswyr ac fel crefftwyr, disgwyliai iddynt ddychwelyd i'w mamwledydd fel cenhadon hunangynhaliol a allai ledaenu gair Duw heb ddibynnu ar sefydliadau cenhadol Prydain. Erbyn 1890 ffurfiodd bwyllgor i oruchwylio'i waith ac i gynorthwyo i ddenu cefnogaeth y tanysgrifwyr y dibynnai ei gynlluniau ar eu rhoddion. Sefydlodd ysgol mewn tŷ annedd mawr ar Ffordd Nant-y-Glyn, a'i ailenwi'n Congo House. Yn 1891 sicrhaodd nawdd gan ddau o drefedigaethwyr Ewropeaidd blaenllaw canolbarth Affrica, sef y fforiwr o Gymro Henry Morton Stanley (1841-1904) a Leopold II (1835-1909), brenin Gwlad Belg a rheolwr Talaith Rydd y Congo.
Rhwng 1888 a 1893, danfonodd cenhadon Ewropeaidd naw o fyfyrwyr eraill o'r Congo a'r Camerŵn at Hughes. Daeth bywydau disgyblion yr ysgol yn fwy sefydlog gan ddilyn trefn ddyddiol, ac aeth nifer o'r bechgyn yn brentisiaid gyda masnachwyr lleol. Daeth rhai yn adnabyddus a chael cefnogaeth gref gan y gymuned leol i baratoi i ddychwelyd i Affrica. Bu i un ohonynt, Frank Teva Clark (1875-1927) o'r Congo isaf, gynnal gohebiaeth gyda Hughes a theuluoedd eraill ym Mae Colwyn ar ôl ei gyfnod o bedair blynedd yng Nghymru, pan deithiodd i ganolbarth Affrica yn genhadwr. Roedd ei gyraeddiadau ymhlith yr esiamplau o lwyddiant y byddai Hughes yn sôn amdanynt mewn ysgrifau cyhoeddus yn ceisio denu cefnogaeth i'r cynllun. Esboniwyd llwyddiant Teva Clark fel canlyniad naturiol i gyneddfau personol a'i gwnâi'n arloeswr addawol dros Grist yn Affrica. Llwyddodd unigolion o'r fath i ymdopi â'r gofynion a'r disgwyliadau ar y myfyrwyr i ymddangos yn brawf byw o rym gwaredol trawsnewid diwylliannol, yn unol ag ideoleg hil ac ymherodraeth a gyfiawnhâi drawsfeddiannu adnoddau Affrica gan yr Ewropeaid.
Nid oedd profiad pob un o fyfyrwyr Congo House yr un fath. Gosodid disgwyliadau ymddygiad penodol ar y myfyrwyr a amrywiai yn ôl hil a rhywedd. Roedd yr ychydig ferched yn gysylltiedig yn agosach â bywyd teuluol Hughes, ac roedd eu profiad addysgol yn wahanol i eiddo'r bechgyn. Ernestina Francis (1883-1914), er enghraifft, un arall a anwyd yn y Congo, a arhosodd yn Congo House yn hwy na'r un myfyriwr arall, hyd nes iddi briodi myfyriwr Affro-Americanaidd, student, Joseph Morford (dyddiadau anhysbys). Wedi cyrraedd Bae Colwyn yn 1891, yn wyth oed, ymadawodd Ernestina i ymuno â Morford yng Ngorllewin Affrica yn 1906. Tra bod nifer o'r myfyrwyr gwrywaidd wedi astudio meddygaeth, hyfforddodd Lulu Coote (1890-1964), myfyrwraig arall o'r Congo, i fod yn nyrs. Roedd hi'n un o'r ychydig fyfyrwyr a arhosodd ym Mhrydain am y rhan fwyaf o'i bywyd ar ôl ei chyfnod yn yr ysgol.
O'r Congo y daeth y myfyrwyr cyntaf i gyd, ond yn 1893 ymwelodd Hughes ag Affrica eto a sefydlu canolfannau recriwtio yn y Camerŵn dan feddiant Almaenig, yng Ngwladwriaeth Liberia, ac ym Mhrotectoriaeth Brydeinig Arfordir Niger. Mewn rhannau eraill o Orllewin Affrica Brydeinig, gan gynnwys Sierra Leone, Lagos, a'r Traeth Aur (Ghana), ffurfiwyd is-bwyllgorau gan gefnogwyr Affricanaidd menter Hughes i ddarparu cefnogaeth ariannol a chyhoeddusrwydd, gan gynorthwyo i ddewis myfyrwyr newydd. Yn y 1900au ehangodd dalgyrch Congo House ymhellach i gynnwys niferoedd bychain o ddeheubarth Affrica, UDA, a'r Caribî. Wedi eu huno gan eu treftadaeth hiliol gyffredin, roedd y corff hwn o fyfyrwyr yn amrywiol iawn o ran cenedligrwydd, cefndir cymdeithasol a diwylliannol, oedran a tharddleoedd.
Gyda chefnogaeth noddwyr neu rieni cefnog yn Affrica, roedd llawer o'r myfyrwyr diweddarach yn hŷn na'r rhai cyntaf, ac yn gweld Congo House fel ysgol berffeithio i'w paratoi ar gyfer y brifysgol. Er bod rhai yn mynd ymlaen i yrfaoedd eglwysig, aeth eraill i weithio ym maes diwydiant, addysg, meddygaeth, a'r gyfraith. Tra'n byw ym Mhrydain, cyfrannodd rhai i fywyd cyhoeddus trwy ddeisebu'r awdurdodau a'r bobl am anghyfiawnderau trefedigaethol a effeithiodd arnynt hwy a'u cydwladwyr. Bu Kwesi Ewusi (c.1881-1924) a Joseph A. Abraham (dyddiadau anhysbys) o'r Traeth Aur, er enghraifft, yn gysylltiedig â chymdeithasau Ethiopianyddol a phan-Affricanyddol cynnar ym Mhrydain. Tra'n astudio yn y brifysgol, roedd Ayodeji Oyejola (g. 1876) ac Akidiya Ladapo Oluwole (dyddiadau anhysbys) o Nigeria ymhlith y myfyrwyr a fu'n darlithio'n gyhoeddus, gan godi arian i achosion elusennol ym Mhrydain, cyn ymadael i gychwyn ar yrfaoedd blaenllaw fel llawfeddygon yng ngorllewin Affrica. Daeth Davidson Don Tengo Jabavu (1885-1959) o Dde Affrica yn addysgwr arloesol a sylfaenydd yr All African Convention a ymgyrchodd yn erbyn polisïau didoliadol yn ei famwlad. Yn ystod ei gyfnod fel yr unig academydd Affricanaidd ym Mhrifysgol Fort Hare, bu i Jabavu ddysgu'r Nelson Mandela ifanc. Bu merch Jabavu, Noni Jabavu (1919-2008), yn awdur a newyddiadurwr pwysig.
Cyfanswm o ryw 90 o fyrfyrwyr, gan gynnwys tair merch ac un fenyw ifanc, a fynychodd Congo House, yn ôl rhestrau a gyhoeddwyd gan Hughes. Mae'r union nifer yn aneglur oherwydd diffyg cofnodion heblaw adroddiadau cyhoeddedig Hughes, y codwyd amheuon yn eu cylch mewn achos enllib yn 1911 a gaeodd yr ysgol i bob pwrpas a thorri Hughes. Er y gellid gweld hanesion fel un Jabavu yn brawf o werth cynllun Hughes, ni ddylid rhagdybio na gor-ddweud pwysigrwydd y cyfnodau byr a dreuliwyd gan y myfyrwyr yng ngogledd Cymru yn rhan o'u datblygiad, a fyddai'n aml yn cynnwys addysg mewn sefydliadau eraill cadarnach ym Mhrydain, Affrica, a mannau eraill. Gallai profiadau'r myfyrwyr o Fae Colwyn amrywio'n fawr hefyd. Yn y blynyddoedd olaf, bu ychydig o fyfyrwyr cofrestredig Congo House yn rhan o achosion dadleuol. Ac yn olaf, er nad yn beth anarferol yn y cyfnod, roedd Congo House yn lle salwch a marwolaeth - i deulu Hughes ei hun yn ogystal â'i fyfyrwyr. Ymhlith y myfyrwyr a fu farw tra ym Mae Colwyn roedd y ddau cyntaf i gyrraedd: Kinkasa, yr achoswyd ei farwolaeth yn 1888, yn ôl meddyg lleol, gan bwl gweddillol o'r hunglwyf, a Nkanza, a fu farw o fethiant y galon ar 3 Ebrill 1892.
Dyddiad cyhoeddi: 2024-11-07
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.