Ganwyd Shoshi Mukhi Dass yn 1868 yn ninas Sylhet yn India mewn teulu Cristnogol. Magwyd ei mam, Mary Grose (b.f. 1903) mewn amddifaty cenhadol yn India. Buasai ei thad, Gour Charan Dass (1839-1919), yn gweithio dros y Genhadaeth Gymreig yn India cyn geni Shoshi, ond ffraeodd â William Pryse (1820-1869), y prif genhadwr o Gymru yn Sylhet, gan ei gyhuddo o feddwdod ac aflonyddu ar Mary. Gadawodd Dass y Genhadaeth wedyn ac ymuno â'r heddlu, ond parhaodd i gefnogi'r gwaith cenhadol. Roedd Shoshi yn un o saith o blant, gan gynnwys ei brawd, Prem, a'i chwaer iau, Shushila (1870-1924). Magwyd y plant mewn amgylchfyd crefyddol gyda'r disgwyl y byddent yn cefnogi gwaith cenhadol y Methodistiaid Calfinaidd yn nes ymlaen.
Yn ystod eu harddegau, bu Shoshi a Shushila yn cynorthwyo mewn ysgol Gristnogol i ferched ac yn cyfrannu hefyd at waith y mudiad Zenana yng ngogledd-ddwyrain India. Dan y drefn honno, byddai cenhadon benywaidd yn cael mynediad at fenywod Hindŵaidd a Mwslemaidd a oedd wedi eu cyfyngu i'w cartrefi oherwydd eu rhywedd, gyda'r nod o'u haddysgu a'u troi at Gristnogaeth. Gweithiai'r merched Dass oriau hir, gan gynnal dosbarthiadau menywod am 6.30 y bore cyn eu gwaith yn yr ysgol. Mewn llythyr cyhoeddus a gyhoeddwyd yn Y Drysorfa in 1891, disgrifiodd Shoshi ei gwaith Zenana a'r anawsterau crefyddol a diwylliannol a wynebodd. Yn yr un flwyddyn, dechreuodd ar hyfforddiant meddygol cychwynnol yn Kolkatta gyda'r bwriad o ddefnyddio'r hyfforddiant i gyfrannu at ei gwaith cenhadol yn y dyfodol. Yn 1892, talodd ei thad iddi deithio i Brydain a dilyn hyfforddiant meddygol pellach yn Glasgow am ddwy flynedd fel y gallai ddychwelyd i India wedi ei chymhwyso'n llawn yn 'genhades feddygol'. Arhosodd Shushila yn India yn galaru am ddienyddiad brawychus ei dyweddi heb achos llys yn 1891.
Yn fuan ar ôl i Shoshi gyrraedd Prydain yn haf 1892, cafodd ei chyf-weld gan William Davies (Mynorydd). Fe'i disgrifiwyd ganddo yn fenyw fywiog a deallus iawn a ymdebygai i Alice Gomez (bl. 1890au-1906), cantores opera Indiaidd a oedd yn boblogaidd ar y pryd, ond yn dywyllach ei gwedd ac yn fechan o gorffolaeth. Fel y nodid yn ddiweddarach mewn adroddiadau papurau newydd am ei darlithoedd, pwysleisiodd Shoshi fod gwaith cenhadol yn gofyn sensitifrwydd a bod ei phobl yn ddysgedig ac yn ddiwylliedig, ond yn dioddef llawer o galedi oherwydd tlodi, afiechydon a hinsawdd anodd.
Rhwng Awst 1892 a Medi 1894, ni fu gweithgareddau Shoshi yn gyfyngedig i'w hyfforddiant meddygol. Yn Glasgow, roedd yn weithgar gydag Undeb Cenedlaethol Cymru, ac yng Nghymru traddododd nifer o ddarlithoedd cyhoeddus i gynulleidfaoedd Methodistaidd. Gan wisgo sari i ddangos gwisg nodweddiadol menywod yng ngogledd-orllewin India, siaradai yn Saesneg am hanes a diwylliant ei gwlad, ei haddysg a'i gwaith cenhadol, a chanai emynau yn yr iaith Bangla. Yn ei hail flwyddyn ym Mhrydain, darlithiodd yn aml gyda Kate E. Williams, Pwllheli, i gynulleidfaoedd gorlawn. Roedd yr anerchiadau hyn yn rhan o'r broses ymgymhwyso i genhadon Methodistiaid Calfinaidd Cymru a fynnai fynd i India. Derbyniwyd Shoshi gan y Gymanfa Gyffredinol yn Bootle ym Mai 1893. Cymaint oedd tynfa egsotig cenhadaeth Khasia i Fethodistiaid Cymru fel y bu i Shoshi gael ei ffotograffio yn rhan o'r ymgyrch codi arian i'r genhadaeth. Flynyddoedd yn ddiweddarach, cynhwyswyd y portread ohoni mewn casgliad o dri ar ddeg o ffotograffau'n darlunio gwaith cenhadon a phobl yn Khasia. Ar 22 Medi 1894, cychwynnodd Shoshi a Kate Williams o Lerpwl ar eu taith ddeufis i India. Yn hytrach na dychwelyd i gartref ei rhieni yn ninas Sylhet, fe'i danfonwyd gan y Genhadaeth Dramor i'r orsaf yn Karimganj. Bu'n rhannu byngalow yno gyda'r meddyg a chenhadwr Oswald Osborne Williams (1868-1926), ei wraig Emma, eu merch Mona, a nifer amrywiol o ferched amddifad.
Fel cenhades feddygol gymwysiedig, gweithiai Shoshi oriau hir a beichus. Yn Ionawr 1896, agorodd ei hysgol i ferched. O hynny ymlaen treuliai'r bore'n dysgu'r plant, ymwelai â menywod y Zenanas a'u dysgu yn y prynhawn a rhoddai ofal meddygol gyda'r hwyr. Roedd galw mawr am ei gwasanaethau meddygol yn enwedig a bu'r rheini'n fodd iddi gael mynediad i Zenanas newydd a fuasai'n gyndyn i'w chynnwys fel arall. Fel y cenhadon eraill, disgwylid iddi gerdded rhwng ei hamryw weithleoedd a'i chartref.
Ar ben y pwysau a berthynai i broffesiwn y genhadaeth, dioddefodd Shoshi nifer o ergydion personol. Yn 1896, collodd ei holl eiddo ac offer meddygol, heblaw ei harian, mewn tân a ddinistriodd y byngalow. Cafodd y teulu Williams loches wedi'r tân yn Nhŷ Cenhadaeth Silchar. Arhosodd Shoshi a'r ddau blentyn amddifad gyda'r cenhadon yn Sylhet am sbel. Erbyn yr haf, roedd dau dŷ ar wahân newydd sbon yn barod, un ar gyfer y teulu Williams a'r llall ar gyfer Shoshi a'i phlant amddifad. Wedyn yn 1897, trawyd Sylhet a Karimganj gan ddaeargryn, ac yn ei sgil lledodd malaria a'r geri. Pan ddaliodd Shoshi f, bu'n rhaid iddi gau ei hysgol. Cafodd ymgeledd fwy nag unwaith gan ei chwaer Shushila. Yn 1903, collodd ei mam a threuliodd gyfnod yn galaru gyda'i thad a'i chwaer yn Sylhet. Yn rhai o'i llythyron, soniai Shoshi am ei hunigrwydd a'r teimlad o fod yn ynysig fel Cristion mewn cymuned anghristnogol. Cafodd beth gysur rhwng 1905 a 1907 pan ddaeth Shushila i fyw gyda hi a'i chynorthwyo gyda'r gwaith ysgol. Er gwaetha'i chaledfyd, câi Shoshi foddhad mewn garddio a phlannu blodau, er y siom o weld rhai wedi eu dwyn a'u hoffrymu wrth gysegrfeydd Hindŵaidd.
Yn sgil yr amodau gwaith blinderus a chyflwr tamp a phryfedog ei thŷ, cwynodd Shoshi wrth Bwyllgor y Genhadaeth ei bod yn dioddef o'r gwynegon a gofynnodd am gymorth ariannol i gael ebol i hwyluso'r teithio. Gwrthododd y Pwyllgor, serch hynny, ar y sail bod hyn yn anghymarus â'i gwaith gyda'r Zenanas. Cododd Shoshi gwestiwn hefyd am ei chyflog blynyddol gan fod cenhadon o Gymru'n ennill mwy am yr un gwaith. Yn 1911, fe'i hamddiffynnodd ei hun yn erbyn yr hyn a welai'n ymyrraeth â'i hysgol gan Oswald Williams. Cwestiynodd ei awdurdod, a theimlai ei fod yn ei thrin yn nawddoglyd. O ganlyniad i leisio ei chŵyn, fe'i gwelid gan ei chyd-genhadon o Gymru yn berson anodd.
Oherwydd blinder, dysentri cronig a gwynegon cynyddol, gofynnodd sawl gwaith am gyfnod ffyrlo ym Mhyrdain i adfer ei hiechyd. Mor gynnar â 1900, gwrthodwyd ei chais am gyfnod ffyrlo yn llwyr. Cefnogwyd ei cheisiadau diweddarach gan genhadon meddygol eraill, megis Peter Fraser (1864-1919) o Gaernarfon a Harriet Davies (1879-1952) a anwyd yn UDA. Gwrthodwyd y ceisiadau cychwynnol eto, er bod adroddiad meddygol wedi ei gyflwyno'n tystio fod anhwylder ar ei chalon hefyd. Gwrthwynebwyd cais Shoshi gan Oswald Williams yn arbennig. Daliodd ef ei bod yn ormod i ddisgwyl i genhadaeth Ewropeaidd dalu am daith menyw o India i Brydain ac yn ôl. Honnodd Williams fod cymeriad Shoshi yn amlygu 'the impossible, indeed virulent, spirit of "independence" that troubles Indian thought'. Er gwaethaf y gwrthddadleuon hyn, cymeradwywyd ei chais yn y pen draw, yn bennaf rhag ofn colli cefnogaeth cenhadon Indiaidd brodorol eraill a chyfeillion yr achos. Yn Chwefror 1913, ymadawodd Shoshi o Kolkatta a chyrraedd Aberystwyth ddeufis wedyn, ar ôl teithio trwy Lundain ac Abergele. Am y ddwy flynedd nesaf, bu'n preswylio yn Oregon House yn Stryd Powell. Mwynhaodd gerdded ar lan y môr, ond cafodd driniaeth bellach yn yr Ysbyty Brenhinol. Pan oedd ei hiechyd yn caniatáu, bu'n annerch cynulleidfaoedd ledled Cymru am ei gwaith cenhadol, gyda'r un llwyddiant poblogaidd â'i chyflwyniadau bron i ddau ddegawd yn gynharach.
Yn ôl yn India, ni ddisgwylid i Shoshi ddychwelyd i Karimganj, yn rhannol oherwydd yr anghydfod hirhoedlog ag Oswald Williams. Cyrhaeddodd Sylhet yn Chwefror 1915 ac ymgymryd â gwaith o dŷ'r genhadaeth tan Fedi 1918. Ei chartref olaf oedd byngalow bach a adeiladwyd iddi yn 1918 ger y capel newydd yn Sheikhghat lle y parhaodd â'i gwaith cenhadol. Erbyn hynny, roedd yr anhwylderau a fu arni cyn ei chyfnod ffyrlo ym Mhrydain wedi dychwelyd, gan arwain at ei marwolaeth annhymig yn Awst 1921.
Dyddiad cyhoeddi: 2024-11-11
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.