Ganwyd Hermann Ethé ar 13 Chwefror 1844 yn Stralsund, gogledd yr Almaen, yn fab i Franz Ethé a'i wraig Mathilde (g. Lappe). O 1863, astudiodd Ffiloleg yn Leipzig, gan ennill ei ddoethuriaeth mewn 'Ieithoedd Dwyreiniol' yn 1865. Fe'i cyflogwyd gan Brifysgol Munich fel Darlithydd mewn Ieithoedd Dwyreiniol o 1865 hyd 1871. Medrai nifer sylweddol o ieithoedd Asia Ganol, gan ddysgu Hebraeg, Arabeg, Perseg, Syrieg neu Ethiopeg, a Sansgrit, yn ogystal ag ieithoedd modern, megis Almaeneg, Ffrangeg ac Eidaleg.
Yn ôl ei fywgraffwyr, aeth i'r Deyrnas Unedig i ddianc rhag yr erledigaeth ar radicaliaid gwleidyddol yn dilyn uno'r Almaen dan Bismarck yn 1871. Wedi derbyn MA Anrhydeddus gan Brifysgol Rhydychen, symudodd Ethé i Lyfrgell y Bodleian yn 1871, lle bu'n llunio catalogau o'i llawysgrifau Perseg, Twrceg, Hindwstani a Pashto, yn ogystal â'r rhai Arabeg. Yn 1872 fe'i comisiynwyd i gatalogio'r llawysgrifau Perseg yn llyfrgell Swyddfa'r India, a chyhoeddodd y gyfrol gyntaf yn 1903. Mae ffrwyth ei ysgolheictod i'w weld o hyd yn yr Encylopædia Iranica. Yn 1875, penodwyd Ethé yn Athro Almaeneg ac Ieithoedd Dwyreiniol yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle bu hefyd yn Athro Iaith a Llenyddiaeth Ffrangeg tan 1894. Priododd Harriet Dora Phillips, dinesydd Prydeinig, yn 1899. Yn Chwefror 1914 anrhydeddwyd ei ben-blwydd yn ddeg a thrigain ag erthygl yn y Times.
Ar ddechrau'r rhyfel ymMedi 1914, roedd Hermann Ethé a'i wraig ar eu gwyliau ym Munich, a daethant adref i'r Deyrnas Unedig gyda chymorth y Conswl Americanaidd yn Dresden ac ymyriad y Swyddfa Gartref. Roedd Ethé i fod i barhau yn ei swydd yn Aberystwyth ac i weithio dros y Swyddfa Dramor. Cyrhaeddodd y ddau yn Aberystwyth ar 13 Hydref 1914, ond y diwrnod wedyn dosbarthwyd taflenni printiedig yn annog trigolion y dref i ymgynnull yng Ngh a mynd i warchae ar dŷ'r athro yn Ffordd Caradog. Atebwyd yr alwad gan dyrfa o dros 2,000 o bobl, a fu'n taflu cerrig ac yn bygwth lladd Ethé a'i wraig, a gorfodwyd y pâr i adael Aberystwyth yn gynnar bore trannoeth. Cawsant loches gyda pherthnasau yn Reading i gychwyn, gan symud i Fryste yng ngwanwyn 1916. Llwyddodd Ethé wedyn i drefnu danfon rhai o'i lyfrau o Aberystwyth.
Rhwng 1914 a 1915, gwrthododd Coleg Aberystwyth ddiswyddo Ethé yn swyddogol, ond yn sgil cyfarfodydd cyhoeddus yn y dref a llythyrau'n bygwth achos cyfreithiol a gweithredu uniongyrchol, anogwyd yr athro gan Gyngor y Coleg i ymddiswyddo a derbyn pensiwn cynnar, a chytunodd i wneud hynny yn hydref 1915. Bu Hermann Ethé farw ar 7 Mehefin 1917 ym Mryste ac fe'i claddwyd ym Mynwent Canford. Roedd ei gais am ddinasyddiaeth Brydeinig wedi ei wrthod; ar 20 Awst 1917 caniatawyd cais ei weddw i gael ei derbyn o'r newydd yn ddinesydd Brydeinig.
Tan y 1970au, roedd anoddefgarwch ac estrongasedd yn nodweddu'r ieithwedd a ddefnyddiwyd i erlid y pâr a bygwth Coleg Aberystwyth, a hefyd y disgwrs am Ethé ei hun. Beirniadwyd yr hanesydd blaenllaw Syr Owen M. Edwards am amddiffyn yr 'Almaenwr' hwn a lladd ar dref Aberystwyth. Llais Llafur oedd yr unig bapur a gadwodd gefn Ethé, ond gwnaeth hynny trwy honni nad Almaenwr ydoedd, eithr Huguenot Ffrengig yr oedd ei hynafiaid wedi ffoi i'r Almaen yn ystod yr erledigaeth ar yr Huguenotiaid. Galwodd ei gydweithiwr o Sais Charles Herfort ef yn 'strikingly abnormal', gan gydnabod ei fod yn 'versatile man of genius' ond wedi ei dramgwyddo bron gan ei 'Homeric laughter'. Mae atgofion un o gynfyfyrwyr Ethé, yr hanesydd R. T. Jenkins (mewn cyfrol a luniwyd yn 1944-5, ond nas cyhoeddwyd tan 1968), yn cynnwys disgrifiad sarhaus o'i acen 'annisgrifiadwy o ddigri' ac atgynhyrchiad ffonetig o'i ddull o siarad Saesneg sy'n awgrymu estrongasedd dyn wrth galon bywyd deallusol Cymru. Serch hynny, mynega Jenkins y parch uchaf at Ethé fel ysgolhaig a dirmyg llwyr at gulni rhagrithiol y bobl a gollfarnai ei fwynhad agored o alcohol. Dyfynna farn Prifathro'r Coleg, T. F. Roberts am yr erledigaeth: 'It was not the hooligans; it was the responsible leaders of the town who did this.'
Yn 1974 comisiynwyd plac yn coffáu gwaith Hermann Ethé, ond am flynyddoedd lawer bu ar wal fewnol yn Adeilad Hugh Owen y Brifysgol ac yn guddiedig dan fainc. Ar adeg canmlwyddiant yr erledigaeth yr aeth tref Aberystwyth a Chanolfan Gristnogol y Morlan (ar safle hen gapel y Tabernacl) ati i goffáu'r digwyddiadau'n gyhoeddus. Mae plac coffa - y cyntaf i dynnu sylw at drais torfol yn ystod y Rhyfel Mawr a'r unig blac coffa tairieithog yn Ynysodd Prydain - bellach mewn safle amlwg gerbron Canolfan y Morlan. Cynhaliodd Prifysgol Aberystwyth arddangosfa, y mae peth ohoni'n dal i fod ar gael ar-lein, a chreodd y cwmni annibynnol 'Tonnau' raglen ar gyfer Radio Cymru yn trafod digwyddiadau Hydref 1914, 'Bravo Aberystwyth'.
Dyddiad cyhoeddi: 2024-07-29
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.