Ganwyd Myra Evans ychydig cyn canol nos ar 1 Tachwedd 1883 yn 4 George St, Cei Newydd, Ceredigion, yn ferch i Thomas Rees (1843-1926), pysgotwr a chapten llong, a'i wraig Mary (g. Williams, 1856). Ond camgofnodwyd ei dyddiad geni fel 2 Tachwedd gan y meddyg a gyrhaeddodd drannoeth. Roedd ei genedigaeth ar Galan Gaeaf, pan oedd y llen rhwng y byd hwn a'r Arallfyd ar ei theneuaf fel y credid yn draddodiadol, yn bwysig iawn i Myra. Fe'i henwyd yn Elmira ar ôl llong ei Hewythr Dan a fu farw ar y môr yn 24 oed. Roedd ganddi bedwar o frodyr a chwiorydd, Gertrude, Elwy, Glanmor a Jim. Symudodd y teulu yn nes ymlaen i Glasfryn, hefyd yn nhref Cei Newydd.
Roedd Myra yn blentyn chwilfrydig ac un a ymddiddori'n awchus yn llên gwerin y teulu. Dysgodd straeon gan ei thad, a'u hailadrodd yn ei geiriau ei hun, a chafodd ganeuon gwerin gan ei mam. Medrai dair iaith o oedran ifanc, Cymraeg o fewn y teulu, Saesneg a Sbaeneg oddi wrth y morwyr. Roedd y môr yn ganolog i'w bywyd, ac felly hefyd Capel Methodistaidd y Tabernacl. Llanwodd lyfrau braslunio â lluniau o gymeriadau lleol gyda'u henwau ac ychydig sylwadau bachog, ei harchif gweledol personol sydd hefyd yn gofnod o hanes cymdeithasol y dref.
Bu Myra yn ddisgybl-athrawes yn yr Ysgol Fwrdd leol cyn mynd i Goleg Hyfforddi Athrawon Abertawe ym Medi 1903. Ddwy flynedd yn ddiweddarach bu'n dysgu yn Ysgol Gynradd Holton yn y Barri am gyfnod cyn cael swydd barhaol yn dysgu Cymraeg yn Ysgol Gynradd Palmerston, hefyd yn y Barri. Dysgodd trwy ganeuon a straeon, ac aeth ati yn sgil hynny i ysgrifennu a darlunio Llyfr Darllen i'r Plant Lleiaf (Gwasg Gymraeg Foyle, 1929), ac wedyn Plant y Goedwig: Ail Lyfr Darllen (1930). Ysgrifennodd y geiriau i opereta anghyhoeddedig i blant hefyd, 'Tro i wlad y Tylwyth Teg, chwaraegerdd i blant', yn 1933.
Yn 1914, priododd Myra Evan Jenkin Evans. Graddiodd Evan mewn ffiseg yn Aberystwyth yn 1902 a gweithiai fel darlithydd gydag Ernest Rutherford ym Mhrifysgol Victoria, Manceinion. Ymgartrefodd y ddau yn Whalley Range a dechrau magu teulu, er i'w mab cyntafanedig David Wynne farw yn ifanc. Magwyd eu hail blentyn, Aneurin, yn Gymro Cymraeg a mynychodd gapel Cymraeg ym Manceinion.
Pan benodwyd Evan yn Athro Ffiseg yng Ngholeg y Brifysgol Abertawe yn 1920, symudodd y teulu i Fir Dene yn Sgeti. Cafodd Myra dri o blant eraill, Nest, Glenys a Mervyn, a dechreuodd weithio gyda'r BBC yng Nghaerdydd, lle bu'n adrodd straeon natur yn Gymraeg ar y radio bob dydd Gwener fel Anti Myra. Gwahoddwyd hi gan Saunders Lewis i ymuno ag ymchwiliad i ddysgu'r iaith Gymraeg mewn ysgolion fel mam ac athrawes a fedrai fynegi ei safbwynt yn groyw a gwrthsefyll pobl bwerus a gredai nad oedd diben i'r iaith.
Yn 1930, a hithau'n 47 oed, cafodd ferch arall, Iola, ac yn 53 cafodd erthyliad. Erbyn 1939 roedd Evan yn sâl, felly symudodd y teulu o Abertawe i Gilfachreda ger Cei Newydd. Ar ôl i Evan farw yn 1944, ymroddodd Myra i ysgrifennu am lên gwerin a hanes llafar. Roedd wedi cyhoeddi rhai o'i chwedlau gwerin yn 1935 fel Casgliad o Chwedlau Newydd (Cambrian News, Aberystwyth) i godi arian ar gyfer trwsio to Capel y Tabernacl. Mae llawer o'i straeon yn ymwneud â chyfarfod â'r Arallfyd, ond maent wedi eu gosod yn yr ardal leol go-iawn, fel yr un am gariad ofer morforwyn at bysgotwr a arweiniodd at orlifo eglwys Llanina. Mae'r ffermdy yn y stori, Tangeulan, i'w weld ar fapiau cyn storm fawr y Royal Charter yn 1859.
Ar ôl cyhoeddi Atgofion Ceinewydd gan Gymdeithas Lyfrau Ceredigion yn 1961, cafodd Myra ei chydnabod yn gynhalydd traddodiad o bwys cenedlaethol, a gwnaed ffilm amdani gan y gantores werin Meinir MacDonald a ganodd 'Suo Gân Gwraig Panteg', o stori Myra am Sigl-di-gwt a ffermdy Panteg. Daeth Minwel Tibbot a Robin Gwyndaf o Amgueddfa Werin Cymru i ymweld â hi a'i recordio'n siarad am goginio traddodiadol a straeon gwerin.
Bu farw Myra Evans ar 25 Awst 1972 yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, ac fe'i claddwyd yn Cross Inn gydag Evan ac Aneurin. Gadawodd ar ei hôl gyfoeth unigryw o lên gwerin ei phobl.
Dyddiad cyhoeddi: 2024-08-22
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.