EVANS, EVAN JENKIN (1882 - 1944), gwyddonydd ac athro mewn prifysgolion

Enw: Evan Jenkin Evans
Dyddiad geni: 1882
Dyddiad marw: 1944
Priod: Elmira Evans (née Rees)
Plentyn: David Wynne Evans
Plentyn: Aneurin Evans
Plentyn: Nest Evans
Plentyn: Glenys Evans
Plentyn: Mervyn Evans
Plentyn: Iola Evans
Rhiant: Mary Evans
Rhiant: David Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwyddonydd ac athro mewn prifysgolion
Maes gweithgaredd: Addysg; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Edwin Augustine Owen

Ganwyd 20 Mai 1882 yn Llanelli, mab David a Mary Evans. Bu'n ysgol ganolraddol ei dref enedigol cyn mynd i goleg y Brifysgol, Aberystwyth, lle y graddiodd yn 1902. Aeth wedyn i'r Royal College of Science, South Kensington, Llundain, a dyfod yn 'Associate' o'r sefydliad hwnnw (1906), yn athro cynorthwyol mewn astroffiseg, ac yn ddiweddarach mewn ffiseg, a gwneuthur gwaith ymchwil mewn sbectrosgopeg hefyd; parhaodd ei ddiddordeb yn y gangen hon o ffiseg trwy gydol ei oes. Symudodd i Brifysgol Victoria, Manceinion, yn 1908, ac ar ôl bod yno am 7 mlynedd daeth yn brif athro cynorthwyol adran ffiseg. Enillodd radd D.Sc., ym Mhrifysgol Llundain yn 1915 am gyfraniad gwerthfawr ar yr 'ionized helium series'. Yn 1919 daeth yn gyfarwyddwr cynorthwyol ystafelloedd ymchwil adran ffiseg Prifysgol Manceinion; arno ef y bu gofal yr adran pan oedd yr Athro Rutherford i ffwrdd yn 1917 ar waith arbennig ynglyn â Rhyfel Mawr I. Bu iddo ran flaenllaw yn natblygiad ysgol ymchwil Rutherford ym Manceinion. Priododd Elmira , merch y Capten Thomas a Mary Rees, Ceinewydd, Ceredigion, a bu iddynt 5 o blant.

Yn 1920 dewiswyd Evans yn athro ffiseg yng ngholeg prifathrofaol newydd Abertawe. Bu'r adran mewn ystafelloedd benthyg yng ngholeg technegol Abertawe i gychwyn hyd nes y gellid adeiladu ystafelloedd yn y coleg newydd ei hunan; rhoes Evans sylw arbennig i fater cynllunio a dodrefnu'r ystafelloedd a agorwyd yn 1922 ac wedi symud yr adran iddynt rhoes ei holl fryd ar godi ysgol ffiseg, gan ganolbwyntio ar bwysigrwydd addysgu myfyrwyr mewn dulliau gwaith ymchwil, a thalu sylw arbennig i bwysigrwydd cywirdeb wrth wneuthur mesuriadau. O dan ei lywyddiaeth ddeheuig ef gwnaethpwyd llawer o gyfraniadau pwysig i lenyddiaeth wyddonol gan fyfyrwyr ac aelodau ei adran; fe'i profodd ei hun hefyd yn athro dawnus a chydwybodol. Tua diwedd ei yrfa bu raid iddo ymgolli yn y problemau neilltuol hynny y gelwid ar brifysgolion i ymgodymu â hwynt yn sgil Rhyfel Mawr II. Bu farw 2 Gorffennaf 1944 yn y Ceinewydd, Sir Aberteifi.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.