GWEN ferch ELLIS (c. 1552 - 1594), y Gymraes gyntaf i'w dienyddio am ddewiniaeth

Enw: Gwen Ferch Ellis
Dyddiad geni: c. 1552
Dyddiad marw: 1594
Priod: Lewis ap David ap Gwyn
Priod: Lewis ap David ap Gruffith Gethin
Priod: John ap Morrice
Rhiant: Ellis
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: y Gymraes gyntaf i'w dienyddio am ddewiniaeth
Maes gweithgaredd: Cyfraith
Awdur: Lisa Cowan

Ganwyd Gwen ferch Ellis tua 1552 ym mhlwyf Llandyrnog, Sir Ddinbych. Enw cyntaf ei thad yw'r unig wybodaeth am ei rhieni. Dengys cofnodion fod ganddi chwaer, Elizabeth ferch Ellis (b.f. c.1579), ac ewythr, Harry ap Roger yn Iâl, ac iddi fynd i fyw gydag ef pan oedd tua phump neu chwech oed. Priododd Gwen deirgwaith yn ystod ei hoes fer. Bu farw ei gŵr cyntaf, Lewis ap David ap Gwyn cwta ddwy flynedd ar ôl iddynt briodi. Melinydd o'r enw Lewis ap David ap Gruffith Gethin (Lewis Gethin) oedd ei hail ŵr, ac yn 1588 trigai'r ddau mewn melin ger Llaneilian-yn-Rhos. Wedi bod yn briod am ddeunaw mlynedd, roedd Gwen yn weddw eilwaith, ac yn 1592 priododd ei thrydydd gŵr, John ap Morrice o Betws-yn-Rhos. Yn y cofnod o'i hachos llys cyfeirir at Gwen fel ei 'wraig dybiedig'.

Roedd Gwen ferch Ellis yn nyddwraig ac yn adnabyddus yn ei chymuned am ei gallu i iacháu trwy swynion, 'salves, drinke and plasters', a byddai pobl yn talu am ei gwasanaeth gyda gwlan, ŷd, menyn ac eitemau eraill a roddai gynhaliaeth iddi. Gwnaed cyhuddiadau o ddewiniaeth ddrygionus yn ei herbyn ar ôl i swyn papur, y tybid ei fod yn perthyn iddi, gael ei ddarganfod ym mharlwr Thomas Mostyn (1535?-1618) o Loddaith, uchelwr lleol dylanwadol. Wedi ei sgrifennu am yn ôl, credid bod y swyn i fod i achosi niwed. Tynnwyd Gwen i mewn i'r drosedd yn sgil ei chyswllt â Jane Conway, gweddw Hugh Gwyn Holland o Gonwy, a oedd wedi ffraeo â Thomas Mostyn. Roedd dau o feibion Jane Conway yn glerigwyr Piwritanaidd a gyhoeddodd draethodau gwrth-ddewiniaeth - Henry Holland, awdur A Treatise against Witchcraft (1590), a Robert Holland, awdur yr ymddiddan Cymraeg Dau Gymro yn taring yn bell o'u gwlad (c. 1595), yr olaf o bosib yn ymgais i ddangos gwrthwynebiad y teulu i ddewiniaeth yn sgil achos llys Gwen ferch Ellis.

Pan ymwelodd beilïaid drwgdybus â chartref Gwen, cafwyd hyd i gyfarpar Catholig yn ei meddiant - cloch heb dafod, a darluniad pres a thun o Grist yn atgyfodi. Ym Mehefin 1594, arestiwyd Gwen ar awdurdod William Hughes, Esgob Llanelwy, a'i charcharu yng ngharchar y Fflint. Er i'w hachos gychwyn gerbron llys eglwysig, yn Eglwys Llansanffraid, fe'i symudwyd wedyn i Lys y Sesiwn Fawr a gynhaliwyd yn Ninbych yn Hydref 1594. Ymhlith pethau eraill, cyhuddwyd Gwen o achosi marwolaeth Lewis ap John, mab i gymydog, o achosi i fraich Robert Evans dorri ar ôl iddo ei tharo, ac o roi pryf 'diafol' mewn jygiaid o gwrw a weinwyd i'r beili William Gruffith a'i gyfeillion, sef dyfyn-ysbryd y wrach yn eu tyb hwy. Tystiodd saith o dystion yn ei herbyn - pum dyn a dwy fenyw. Mae'r trawsysgrifiad byr o groesholiad Gwen yn ei dangos yn ei hamddiffyn ei hun yn ddewr yn erbyn grymoedd cyfun yr Eglwys, y llys a'r uchelwyr. Mae'n cyfaddef yn agored iddi ddefnyddio swynion gan fynd ati i adrodd un yn Gymraeg o flaen y llys. Dywed iddi fod yn iacháu ers tua deng mlynedd, wedi iddi ddysgu'r grefft gan ei chwaer Elizabeth, a bod amryw aelodau o'r gymuned wedi dod ati am gymorth, sef yr hyn y credai ei bod yn ei ddarparu. Mae'n gwadu dod â'r swyn i gartref Mostyn, a hyd yn oed yn honni iddi weld swyn tebyg yn llyfr gweddi Jane Conway.

Er gwaethaf ei phrotestiadau, cafwyd Gwen yn euog. Ym mis Hydref 1594, fe'i crogwyd yn Sgwâr Tref Dinbych, yn unol â'r gosb a osodwyd gan Ddeddf Dewiniaeth 1563. Roedd yn ddwy a deugain mlwydd oed. Fel un ddiniwed a ddioddefodd erledigaeth, mae Gwen ferch Ellis yn haeddu ei chofio ni waeth pa mor eithriadol oedd amgylchiadau ei chyhuddo, ei hachos llys a'i dienyddiad. Serch hynny, mae achos Gwen yn nodedig fel y cofnod cynharaf o rywun yn cael ei dienyddio am ddewiniaeth yng Nghymru, lle roedd yr hysteria am wrachod a ysgubodd dros Ewrop ac America yn ystod y cyfnod modern cynnar yn gymharol brin. Yn wir, dim ond rhyw ddeugain o achosion tebyg a gafwyd, ac o'r rheini dim ond pump a arweiniodd at ddienyddio. Yn ogystal â thaflu goleuni ar hanes dewiniaeth a'r newid mewn syniadau am hudoliaeth wen a du yn y cyfnod modern cynnar, mae'r achos hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer astudio themâu cyffredin i sawl cyhuddiad o ddewiniaeth, gan gynnwys crefydd a'r Diwygiad, rhywedd, dosbarth cymdeithasol, a deinameg cymuned.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2024-07-24

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.