HOLLAND (TEULUOEDD)

Arddelwyd y cyfenw hwn gan gynifer o deuluoedd (bawb ond un yng Ngogledd Cymru) fel mai hwylus efallai fydd rhoi crynodeb ohonynt, serch mai ychydig iawn o'u haelodau unigol a hawlia sylw. O Lancashire y tarddodd pob un ohonynt, ond bellach nid yw mor sicr ag y tybid gynt pa beth yn union yw'r cyswllt rhwng y ddwy gainc fawr Gymreig (anhoffus, meddai Thomas Pennant) a'i gilydd.

Holandiaid Conwy

(A.)Y gainc sicraf ei tharddiad yw Holandiaid (1) Conwy. Yn ôl prif achyddwr yr Holandiaid, Bernard Holland, yn ei lyfr The Hollands of Lancashire (gweler hefyd A. S. Vaughan Thomas yn y gyfrol Hugh Holland a'i atodiadau), disgyn hon yn ddiamheuol o dylwyth pendefigaidd Matthew de Holland (yn amser y brenin John) o Upholland, Swydd Gaerhirfryn. Daeth PETER HOLLAND, gwas i Harri IV, i Gonwy, a daeth y teulu'n berchenogion y castell a rhan fawr o'r dref, heblaw tiroedd y tu allan i'r dref (gweler W. B. Lowe, The Heart of Northern Wales, i, 342-5; J. E. Griffith, Pedigrees, 341; ac Archæologia Cambrensis, 1866, ar gyfer 183). Gyda meibion HUGH GWYN HOLLAND, a briododd â Jane Conway o Fodrhyddan ac a fu farw 1584, ymranna'r gainc hon yn ddwy: (a) disgynyddion y mab hynaf, EDWARD HOLLAND, h.y. parhad prif linach Holandiaid Conwy, a ddarfu fwy nag unwaith mewn aeresau, ond bod meibion neu ŵyrion y rheini wedi ailgydio yn y cyfenw ' Holland.' Yn y diwedd, trwy briodas yn 1738, aeth eu meddiannau i ddwylo Williamsiaid Pwll-y-crochan (Colwyn), ac wedyn yn yr un modd (1821) i deulu o'r enw Erskine o Sgotland. Eithr (b) nid gartref yng Nghonwy yr arhosodd meibion iau Hugh Gwyn Holland. Diddorol yw'r pedwerydd mab, HENRY HOLLAND (bu farw 1603), a aeth i Goleg S. Ioan yng Nghaergrawnt ond a raddiodd (1580) o Goleg Magdalene, clerigwr (Venn, Alumni Cantabrigienses; D.N.B.). Cyhoeddodd hwn, 1590, A Treatise on Witchcraft, a gyflwynodd i Robert Devereux, iarll Essex, a thri neu bedwar o lyfrau eraill sy'n dangos mai Calfin - Piwritan Anglicanaidd - oedd ef, megis yn wir yr awgryma ei gyswllt â'r iarll Essex. Pwysicach i Gymru oedd ei frawd hŷn (y trydydd mab), ROBERT HOLLAND (1557 - 1622), gan iddo yn 1591 ymsefydlu yn Nyfed a chychwyn llinach Holandiaid (2) Walwyn's Castle (i'r de-orllewin o Hwlffordd), a ddaliodd yno hyd ychydig cyn canol y 18fed ganrif; clerigwyr oedd nifer ohonynt; y mae ysgrifau ar Robert Holland ei hunan ac ar William Holland. Yn Lloegr y cartrefodd y gainc hon wedyn; gellir enwi un ohonynt, Syr Thomas Erskine Holland (1835 - 1926), athro cyfraith gydwladol (1874-1910) ym Mhrifysgol Rhydychen, ac awdur llyfr hyglod ar egwyddorion cyfraith - priodol yw ei gynnwys yma, gan iddo gyfrannu dwy ysgrif ar Holandiaid Cymru i Archæologia Cambrensis, 1866, 183-5, a 1867, 164-70, a sgrifennu ar Robert Holland yn y D.N.B.

(B.) Y mae ansicrwydd ynghylch tarddiad yr ail glwm o Holandiaid, yng Ngwynedd. Credai pawb gynt (gweler Archæologia Cambrensis, 1867, a W. B. Lowe, op. cit., i, 345-50; ii, 287-8) eu bod o'r un cyff â'r lleill, ond gwrthyd Bernard Holland gydnabod perthynas, neu o leiaf berthynas gyfreithlon. Ymddengys nad oes gennym dir cadarn i sefyll arno cyn dyfod ar ryw ROGER (neu HOESGYN) Holland, sut bynnag y daeth hwnnw i Gymru. Mab iddo ef oedd ROBIN HOLLAND, a oedd yn bleidiol i achos Owain Glyn Dŵr. Cafodd Robin ddau fab y bydd a fynnom a hwy:

(a) o'r (3) PENNANT (Pennant Ereithlyn, Eglwys-bach, sir Ddinbych; J. E. Griffiths, op. cit., 24). Mab i hwn, John Holland (siryf Môn yn 1461), a briododd ag Elinor ferch Ithel ap Hywel o'r Berw yn Llanfihangel Ysgeifiog (Môn), ac a ddaeth felly'n hynaif Holandiaid y (4) Berw (J. E. Griffiths, op. cit., 110)

(b) (gw. J. E. Griffiths, op. cit., 259). Yr oedd ei fab hynaf ef, GRIFFITH HOLLAND, yn byw yn (5) FAERDREF, Llansantsiôr, sir Ddinbych, a aeth wedyn i'w fab hynaf DAVID HOLLAND yr Ail - ond y mae ei fab iau, LLYWELYN HOLLAND, hefyd yn hawlio ein sylw, oblegid yr oedd ei ŵyr ef, ROBERT HOLLAND, yn byw yn nhref (6) DENBIGH, a daeth yn dad i'r llenor Hugh Holland (1569 - 1633). I ddychwelyd at David Holland yr Ail : treiglodd y Faerdref i'w fab hynaf JOHN HOLLAND, a mab i hwnnw, PYRS HOLLAND (bu farw 1552), a chwanegodd at y stad drwy briodas ag aeres (7) Cinmel - aeth Cinmel, trwy briodas gor-or-ŵyres y Pyrs hwn, i ddwylo John Carter (1619 - 1676), un o swyddogion Oliver Cromwell. Meibion hefyd i Byrs Holland o Ginmel oedd JOHN HOLLAND, tad WILLIAM HOLLAND o'r (8) Wigfair ('Wickwar'), Llanelwy (J. E. Griffiths, op. cit., 102, a Peter Roberts, Y Cwtta Cyfarwydd, mynegai); a HUMPHERY HOLLAND (bu farw 1612) a briododd ag aeres (9) TEIRDAN, Llanelian-yn-Rhos (yr un cyfeiriadau). Darfu Holandiaid Wigfair (yn gynnar yn y 18fed ganrif) a Holandiaid Teirdan (1824) mewn aeresau. Yn ôl unwaith eto at David Holland yr Ail : mab arall iddo oedd WILLIAM HOLLAND, a briododd â Chatrin, ferch ac aeres Thomas Davies, esgob Llanelwy, ac a gychwynnodd linach Holandiaid (10) HENDRE-FAWR, Abergele; yn 1643 priodwyd aeres yr Holandiaid hyn (ni bu farw cyn 1705) - gweler J. E. Griffiths, op. cit., 259. Cafwyd amryw siryfion o'r clwm o deuluoedd a rifwyd 5-10, a chanodd beirdd glodydd amryw ohonynt, ond y mae mudandod llwyr ac unfryd yr hen eiriaduron bywgraffyddol Cymreig amdanynt (ac eithrio Hugh Holland y llenor) yn awgrymog; ac ni cheisiwyd yma ond rhagflaenu'r chwilfrydedd a gyfyd o weld y cyfenw hwn mor fynych mewn hen lyfrau.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.