DAVIES (DAVIS, DAVYES), THOMAS (1512? - 1573), esgob Llanelwy

Enw: Thomas Davies
Dyddiad geni: 1512?
Dyddiad marw: 1573
Priod: Margaret Davies
Plentyn: Catherine Holland (née Davies)
Rhiant: Dafydd ap Robert
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob Llanelwy
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Arthur Herbert Dodd

Mab Dafydd ap Robert o Gaerhun, ac yn disgyn, trwy Syr Gruffydd Llwyd, arglwydd Dinorwig, o Ednyfed Fychan. Rhoddir blwyddyn ei eni yn 1512 (Strype, Ann., I, i, 371), yn 1515 (Griffith, Pedigrees), ac yn 1537 (Browne Willis, A Survey of the Cathedral-Church of St. Asaph, arg. 1801, i, 104) - y cyntaf sy'n fwyaf tebygol; y mae'r olaf yn amhosibl. Yn gynnar ar ôl graddio yn Rhydychen dechreuodd gasglu iddo ei hun fywiolaethau eglwysig di-ofal yn esgobaethau Bangor a Llanelwy; y mae'n debyg iddo barhau i fyw yn Rhydychen hyd 1537 ac yna yng Nghaergrawnt lle y cymerth radd doethur yn y gyfraith (o Goleg S. Ioan) yn 1548. Nid yw'n debyg mai efe ydoedd y Thomas Davies a ddaeth yn archddiacon Llanelwy yn 1539-40 ac a gollodd y swydd honno pan oeddid yn troi clerigwyr priod o'u swyddi yn 1554, oblegid fe gadwodd Thomas Davies yr esgob (wedi hynny) ei fywiolaethau a'i swyddi ef i gyd (gan gynnwys swydd canghellor eglwys gadeiriol Bangor a gafodd yn 1546) pan ddaeth yn esgob. Fe ellir, fodd bynnag, fod yn fwy pendant wrth ddywedyd mai yr un ydoedd â'r Thomas Davies a oedd yn archddiacon Llanelwy yn 1558-61. Pan fu farw William Glyn, esgob Bangor, yn 1558, rhoddwyd gofal materion ysbrydol yr esgobaeth ar Davies gan y cardinal Pole, archesgob Caergaint, a phan ffoes y darpar-esgob, Morus Clynnog, dros y môr pan ddaeth Elisabeth i'r orsedd, yr oedd yr un gofal ar Davies, a ddewisodd rai personau i fywiolaethau gweigion (i gyd yn 1558), hyd nes y cysegrwyd Roland Meyrick fis Rhagfyr 1559. Pan symudwyd yr esgob Richard Davies o Lanelwy i Dyddewi, aeth esgobaeth Llanelwy 'n wag, ac etholwyd Thomas Davies iddi.

Hyd yn oed cyn yr oeddid wedi cadarnhau'r etholiad yr oedd Davies wedi peri peth braw i'w ragflaenydd oblegid ei weithrediadau brysiog ('hasty proceedings'); cafwyd cyfnewidiadau mewn tuag 16 o fywiolaethau cyn diwedd 1562, a bu newid mawr, er nad i'r un graddau, yn 1564, 1566, a 1570 hefyd. Cymry, gan mwyaf, oedd a rhai a gafodd y bywiolaethau, a rhai ohonynt yn wyr o ddysg - y pennaf ohonynt oedd David Powell, a sefydlwyd yn Rhiwabon yn 1576; ond yr oedd llawer ohonynt yn cael eu dewis i fywiolaethau segur neu'n cael cadw mwy nag un bywoliaeth. Ym mis Tachwedd 1561, mewn cyngor a gyfarfu yn yr esgobaeth, cyhoeddodd yr esgob orchmynion a olygai drefnu darllen y catecism, yr epistol, a'r efengyl yn yr iaith Gymraeg, rhoddi addysg i blant yr esgobaeth, a gofalu na fyddai'r offeiriaid na chawsant raddau prifysgol ddim yn anllythrennog; gorchymynnodd hefyd garthu o'r eglwysi greiriau ac ofergoelion eraill ('fayned reliques and other superstycyons'). Erbyn 1570 gallai deimlo ei fod wedi dod â'r esgobaeth i well trefn ('to better order') eithr yn ofer yr apeliodd at Cecil am gomisiwn eglwysig i gwpláu'r gwaith. Yr oedd erbyn hyn wedi ymddiswyddo o rai o'i fywiolaethau segur ef ei hun, ond wedi i'r archesgob Parker awgrymu hynny caniatawyd iddo gadw Llanbedr, Caerhun, a'i 'gyfran' ef o Landinam, o achos tlodi'r esgobaeth, tlodi y dywedid iddo ef ychwanegu ato trwy fod yn annoeth wrth drin prydlesoedd tiroedd eglwysig - eithr nid ydyw cofysgrifau'r esgobaeth yn cadarnhau'r cyhuddiad a wnaethpwyd ei fod yn euog o ddangos ffafraeth i'w berthnasau. Bu'n ddiwyd gyda'r gwaith o sefydlu'r Eglwys yn gyffredinol trwy'r deyrnas, yr oedd yn un o lofnodwyr gwreiddiol y Namyn Un Deugain Erthyglau a dynnwyd allan yng Nghonfocasiwn 1563 (lle yr oedd ef ei hunan yn bresennol) a'r llythyr oddi wrth yr esgobion at Elisabeth yn pwyso arni hwyluso trwy Dy'r Arglwyddi y mesur seneddol y cynhwysid yr Erthyglau ynddo. Yn 1565 fe'i gwnaethpwyd yn aelod o'r comisiwn i geisio difodi môr-ladrad ar lannau môr Sir y Fflint; yr oedd yn selog fel aelod o'r Senedd, yn enwedig yn ystod ei flwyddyn olaf yno, sef 1572 - ni chollodd yr un eisteddiad y flwyddyn honno; gyda'i gyd- esgobion yn Nhyddewi, Henffordd, a Chaer, yr oedd yn aelod o bwyllgor Ty'r Arglwyddi ar y mesur ynglyn â mater cadw cofysgrifau a dogfennau deuddeg sir Cymru (1567).

Yn ôl ei anian a'i feithriniad, perthyn Davies i ddosbarth y cyfreithwyr a'r gweinyddwyr eglwysig yn hytrach na dosbarth y diwinyddion a'r arweinwyr ysbrydol. Er ei fod yn un o'r pum esgob y rhoddwyd y gwaith o gyfieithu'r Beibl i'r iaith Gymraeg yn eu gofal, ni ddywedir iddo gymryd unrhyw ran yn y gwaith hwnnw. Eithr dengys y modd y gofalodd am ei esgobaeth fod ganddo ddiddordeb ym mhwnc addysg, a gwelir arwyddion o'r un diddordeb yn y llyfrau a gymynroddwyd iddo gan Arthur Bulkeley, esgob Bangor, ac yn ei gymynroddion yntau ei hun i Queens' College, Caergrawnt, ac Ysgol y Friars, Bangor. Gadawodd hefyd arian tuag at ddodrefnu palas yr esgob. Bu farw 16 Hydref 1573 ac fe'i claddwyd yn Abergele. Gadawodd ei brif roddion yn ei ewyllys (19 Ebrill 1570, gydag atodiad 21 Hydref 1573) i'w wraig Margaret, ei ferch Catherine (priod William Holland o Abergele; gweler Holland, Teuluoedd), ei phlant hi, a'i frodyr Hugh, Griffith, ac Owen.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.