HUGHES, ELLEN (1862 - 1927), bardd, traethodydd, darlithydd, pregethwr, dirwestwraig

Enw: Ellen Hughes
Dyddiad geni: 1862
Dyddiad marw: 1927
Rhiant: Catherine Hughes (née Benjamin)
Rhiant: William Hughes
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: bardd, traethodydd, darlithydd, pregethwr, dirwestwraig
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Crefydd; Ymgyrchu
Awdur: Jane Aaron

Ganwyd Ellen Hughes ar 18 Mai 1862 yn Llanengan, Sir Gaernarfon, yn ferch i'r Parchedig William Hughes (1820-1867), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a'i wraig Catherine (g. Benjamin, 1833-1877). Tan-y-fynwent, ty yn perthyn i deulu ei mam, oedd eu cartref, ac yno y bu Ellen Hughes fyw am y rhan fwyaf o'i hoes. Hi oedd y ferch gyntaf yn y teulu, gyda dau frawd hyn, William Benjamin a Griffith, a chwaer a brawd iau, Lydia Ann a Richard. Ond tywyllwyd ei phlentyndod gan farwolaeth ei thad pan oedd hi'n bedair oed, gan adael y fam yn ceisio cynnal y teulu trwy gadw siop groser. Dim ond ychydig o addysg a gafodd Ellen, rhai blynyddoedd yn ysgol y pentref. Yna, yn 1877, ac Ellen erbyn hynny'n bymtheg oed, bu farw ei mam hefyd. Daeth ei brawd hynaf adref o Goleg y Bala cyn iddo orffen ei hyfforddiant yno, er mwyn bod yn gefn i'w frodyr a'i chwiorydd, ond erbyn Medi 1880 roedd yntau hefyd yn ei fedd. Ar Ellen wedyn, yn ddeunaw oed, y syrthiodd y cyfrifoldeb o gadw ty i'w mwynwr o frawd, Griffith, a'i brawd a'i chwaer iau.

Ym mis Awst 1879, yn ystod yr adeg galed hon o'i bywyd, goleuwyd ei gorwelion gan ymddangosiad ei chyhoeddiad cyntaf, sef cerdd er cof am ei mam, yn y cylchgrawn i ferched, Y Frythones . 'A ydyw y boddhad o dderbyn gradd mewn Prifysgol i'w gymharu â'r boddhad a brofai genethod ddeugain mlynedd yn ôl wrth weled eu cynhyrchion a'u henwau ar ddalennau "Y Frythones"?' gofynnodd, wrth gofio'r achlysur yn 1923. Ni fyddai Ellen wedi meiddio danfon ei cherddi cynnar at Y Frythones pe na bai yn hysbys iawn iddi mai prif nod golygydd y cylchgrawn hwnnw, Cranogwen oedd cyhoeddi llên gan fenywod, yn enwedig rhai na chafodd gyfle cyn hynny i weld eu gwaith mewn print. Ond unwaith iddi gychwyn nid oedd taw arni wedyn. O 1879 ymlaen ymddangosodd ei cherddi yn gyson yn Y Frythones, ac ym 1887 cyhoeddwyd casgliad ohonynt, Sibrwd yr Awel: sef cyfansoddiadau barddonol Ellen Hughes, Llanengan.

Cyn i'r gyfrol honno ymddangos, roedd Ellen Hughes wedi dechrau cyhoeddi darnau o ryddiaith yn ogystal â cherddi. 'Excelsior ' oedd testun ei hysgrif gyntaf a ymddangosodd yn Y Frythones ym mis Awst 1885, ac ynddi y mae'n annog ei darllenwyr i ymddyrchafu a diwyllio eu meddyliau. 'Ceisiwn oll…fod yn ferched uchelgeisiol,' meddai, 'a byddwn yn rhy uchelgeisiol i ymfodloni ar ddyrchafiad mewn safle cymdeithasol, nac ar ddim llai na'n dyrchafiad sylweddol ein hunain.' Anogai ei darllenwyr i geisio am well addysg; merch hunan-addysgedig oedd hithau, wedi ei thrwytho ei hun mewn llên Cymraeg a Saesneg a dysgu Groeg. Cyhoeddai ysgrifau ar bynciau megis 'Myfi Fy Hun' a 'Myfi ac Eraill', lle mae'n myfyrio ar hanfodion y natur ddynol, ac enillodd ei 'Traethawd ar Ddylanwad y Naill Gyfnod o Oes Dyn ar y Llall' y brif wobr yng Nghylchwyl Lenyddol Dinas yn 1888. Erbyn hyn roedd ei gwaith hefyd yn dechrau ymddangos ar dudalennau nifer o gylchgronau eraill yn ogystal â'r Frythones, megis Trysorfa y Plant , Y Drysorfa, a'r Dyngarwr .

Yna, yn 1889, dechreuodd ar yrfa fel darlithydd cyhoeddus, yng ngogledd Cymru i gychwyn. 'Gwroldeb Moesol' oedd testun ei darlith gyntaf. Mynnai yn y ddarlith honno nad oedd i rinweddau wahaniaethau rhywiol: mae gwroldeb yn nodwedd i'w mawrygu mewn dynes yn ogystal â dyn, meddai. Ac er ein bod 'wedi dysgu o'n mebyd mai gwyleidd-dra ydyw y rhinwedd benywaidd', eto 'un o anhepgorion cymeriad yn mhawb, mab neu ferch, dyn neu angel' ydyw: 'Dyn heb wyleidd-dra - wel, nid ydyw i'w edmygu, a dynes heb wroldeb sydd resynol o ddiamddiffyn.' Yn ystod blynyddoedd cynnar ei gyrfa fel siaradwraig gyhoeddus roedd meithrin gwroldeb yn fater o bwys i Ellen Hughes. Natur encilgar oedd iddi, yn ôl ei thystiolaeth hi ei hun ac eraill. Yn ei cherdd 'Unigrwydd ' a gyhoeddwyd yn gyntaf yn Y Frythones yn 1890, mae'n cyfaddef, 'Er llonni'm bron i gwrdd â llawer un, / Mae'r awr felysaf oll yn nghwmni f'hun', ac yn gorffen trwy ragweld y bydd ar ôl cyrraedd y nefoedd yn dyheu hyd yn oed 'yno' am 'ambell awr yn nghwmni f'hun'.

Fel llawer o'i cherddi eraill, mae 'Unigrwydd' yn taro tant unigryw a chofiadwy. Ond yn ei rhyddiaith y ceir hi ar ei gorau, efallai, yn enwedig yn y nifer sylweddol o draethodau ganddi sy'n ymdrin â rhywedd a sefyllfa'r ferch. Os am ddarlun byw o'r newid mawr ym mywydau merched Cymru yn ystod degawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg nid oes man gwell nag yn ysgrifau niferus Ellen Hughes. '[M]ae yn rhyfedd i feddwl erbyn hyn y fath ddirgelwch a gysylltid â merch a'i safle cymdeithasol yn amser ein mamau,' meddai yn 1892, yn Cyfaill yr Aelwyd a'r Frythones, y cylchgrawn a ddilynodd Y Frythones ar ôl i Cranogwen ymddeol o'i swydd fel golygydd: 'Onid oedd yn hawdd gweled - yn amhosibl peidio, feddyliem - mai rhan o'r hil ddynol oedd merch, a chan hynny fod holl hawliau dyn yn eiddo iddi hithau? Pa fodd y gallasai ein hynafiaid syrthio i'r fath gamgymeriad dybryd ag i dybied fod rhyw yn bwysicach na rhywogaeth?'

Erbyn hyn roedd gweddill y teulu wedi gadael Llanengan, a rhwng 1898 ac 1903 bu Ellen fyw gyda'i chwaer yn Bedford, lle cafodd Lydia swydd fel clerc mewn siop ddillad. Oddi yno danfonai draethodau a cherddi yn ôl i Gymru i'w cyhoeddi yn Y Gymraes , cylchgrawn Mudiad Dirwest Merched Cymru. Am ddeng mlynedd ar hugain, o'i ddechrau yn 1896, ymddangosodd ysgrif neu gerdd gan Ellen Hughes ym mron pob rhifyn o'r cylchgrawn hwnnw. Cyfresi o erthyglau oeddynt gan amlaf, dan deitlau megis 'Oriau gyda llyfrau' (1898), 'Llith o Bedford' (1899) ac 'Ymgom â'r genethod' (1900-3). Ar ddiwedd yr 1890au cyhoeddodd ychydig o storïau byrion yn Cymru O. M. Edwards yn ogystal.

Yna, ar ôl i Cranogwen gychwyn Mudiad Dirwest Merched De Cymru yn 1901, symudodd Ellen i'r Rhondda i gynorthwyo gyda sefydlu a lledu'r mudiad hwnnw. Yno hefyd y dechreuodd bregethu yn ogystal â darlithio, ond pregethwr answyddogol ydoedd - ni dderbyniwyd menywod fel pregethwyr cofrestredig gan ei henwad, y Methodistiaid Calfinaidd, yn ystod oes Ellen Hughes. A thrwy'r blynyddoedd hynny, tan ychydig wythnosau cyn ei marwolaeth, daliodd ati i gyhoeddi yn y cylchgronau Cymraeg. Casglwyd rhai o'i thraethodau ynghyd â'i cherddi mwy diweddar yn ei chyfrol Murmur y Gragen: sef detholiad o gyfansoddiadau barddonol a rhyddiaethol (1907), ond cynrychiolaeth fechan ydynt o'r pum cant a mwy o gyfraniadau ganddi at wasg ei hoes.

Yn ôl yn Llanengan y bu farw, ar 11 Mai 1927. Claddwyd hi ym mynwent hen gapel ei thad, Capel y Bwlch, Abersoch, ac ar ei bedd ceir y geiriau 'Testun ei phregeth olaf yng nghapel y Bwlch oedd "Ac ni a wyddom fod pob peth yn cydweithio er daioni i'r rhai sy'n caru Duw".' Meddir amdani yn un o'r aml ysgrifau cofiannol a ymddangosodd yn y wasg ar ôl ei marwolaeth: 'Carai ei chwiorydd â chariad angerddol, a chysegrodd bob dawn yn ei meddiant, a phob cyfle yn ei chyrraedd, i wasanaethu er eu dyrchafiad hwy a'u budd moesol ac ysbrydol.' Roedd budd cymdeithasol a gwleidyddol ei chwiorydd hefyd o bwys iddi. Yn ei hysgrif 'Merched a Chynrychiolaeth' (1910), mae'n pledio achos yr etholfreintwragedd ag angerdd, gan ddadlau: 'Os ydyw dynes yn fod rhesymol a moesol, a thonau tragwyddoldeb yn curo yn ei natur, tybed ei bod islaw meddu y cymhwyster i gael rhan yn neddfwriaeth ei gwlad?' Ceisiai ddeffro yn ei darllenwyr benywaidd ymwybyddiaeth o'u hunaniaeth annibynnol ac o'u cryfder cynhenid: 'Gelli, ti elli!' oedd ei neges i ferched ei hoes.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2024-07-19

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.