Ganwyd Saeed Hassan Ismail ym Medi 1930 yn South Shields, Tyne and Wear, yn un o bedwar o blant i forwr o Yemen a'i wraig o dras Gymreig ac Eidalaidd. Bu farw ei dad pan oedd Saeed yn saith oed. Er ei bod yn Gristion ar y pryd, sicrhaodd ei fam fod Saeed a'i dair chwaer yn cadw dyletswyddau crefyddol a hunaniaeth eu tad Mwslemaidd. Yn nes ymlaen daeth hi'n un o lawer o wragedd Prydeinig o ddinasoedd dociau a drodd at Islam ar ôl priodi morwyr Mwslemaidd.
Yn ystod cyfnod yn ddi-waith, roedd tad Saeed wedi cwrdd â Sheikh Suffïaidd a'i cyflwynodd i'r Alawi Tariqah, brawdoliaeth grefyddol a sefydlwyd yn Algeria gan y Sheikh Ahmed al-Alawi. Erbyn y 1920au dywedid bod gan Ahmed al-Alawi dros gan mil o ddisgyblion, a gorchmynnwyd i lawer ohonynt ledu ei athrawiaeth ar draws Ewrop. O ganlyniad i hynny bu i arweinwyr Mwslemaidd fel Abdullah Ali al-Hakimi sefydlu cymunedau cryf mewn dinasoedd dociau fel South Shields a Chaerdydd.
Ac yntau'n ddeg oed, newidiodd bywyd Saeed yn ddirfawr pan gymerwyd ef i ofal Sheikh Hassan Ismail, gwr a gâi ei gydnabod ar y pryd yn arweinydd ysbrydol cymuned Yemeni Prydain. Byddai Hassan Ismail yn treulio misoedd yn teithio o'i gartref yng Nghaerdydd i ymweld â'r cymunedau Yemeni Mwslemaidd mewn dinasoedd eraill ym Mhrydain. Pan glywodd am sefyllfa Saeed, gofynnodd i'w fam am gael mynd ag ef yn ôl i Gaerdydd, lle byddai'n gofalu am ei addysg. Gyda pheth perswâd, cytunodd ei fam yn y pen draw i adael i'w mab fynd am gyfnod prawf o chwe mis. Ar ôl iddi weld ei ddatblygiad, caniataodd iddo aros yng Nghaerdydd yn barhaol fel mab maeth i Hassan Ismail, gan gymryd ei gyfenw.
Treuliodd Saeed ei arddegau yn Nhre-biwt, a elwid yn 'Tiger Bay', ardal amlddiwylliannol a oedd yn gartref i un o gymunedau Mwslemaidd cynharaf Prydain. Aeth i ysgol leol, cyn dilyn cwrs blwyddyn mewn coleg ysgrifenyddol. Yn un ar bymtheg oed aeth gyda'i dad maeth i Yemen lle bu am bum mlynedd ym mhentref ei dad maeth y tu allan i ddinas Taiz. Yn Yemen perffeithiodd ei Arabeg, tra'n mynychu madrasa, neu ysgol grefyddol, lle cafodd hyfforddiant dwys yng ngwyddorau crefyddol Islam. Roedd ei gyfnod yn Yemen yn fodd i'w baratoi ar gyfer y gwaith oedd o'i flaen pan fyddai'n dychwelyd i Gaerdydd.
Pan benderfynodd Hassan Ismail aros yn Yemen yn barhaol yn 1956, estynnodd cymuned Fwslemaidd Tre-biwt wahoddiad i Saeed Ismail ei olynu fel Imam. Yn bum ar hugain oed, derbyniodd Saeed y swydd y byddai'n gwasanaethu'r gymuned ynddi am y pum degawd nesaf, gan gymryd y teitl Sheikh a dod yn un o'r Imamau hiraf eu gwasanaeth ym Mhrydain. Cynhwysai'r swydd yr holl ddyletswyddau disgwyliedig gan Imam, sef arwain gweddïau bum gwaith y dydd, pregethu ddydd Gwener, dysgu'r Quran ac Astudiaethau Islamaidd i blant y gymuned, yn ogystal â dyletswyddau bugeiliol ehangach, megis cymodi mewn anghydfodau o fewn y gymuned leol. Chwaraeodd ran allweddol wrth sefydlu Canolfan Islamaidd De Cymru, adeilad eiconaidd ar Stryd Alice yn Nhre-biwt, gan deithio ar draws y byd Arabaidd i godi arian tuag at adeiladu'r mosg. Ni chafodd unrhyw dâl am ei waith fel Imam, a chyfunodd ei ddyletswyddau crefyddol yn ystod y dydd gyda sifftiau nos fel weldiwr mewn ffatri.
Roedd gan Saeed Ismail statws unigryw ym mywyd dinesig ehangach Caerdydd. Am gyfnod hir ef oedd yr unig Imam yn y ddinas a oedd â'r awdurdod cyfreithiol i weithredu fel cofrestrydd genedigaethau, marwolaethau a phriodasau, a byddai miloedd o Fwslemiaid o bob cwr o Gaerdydd yn mynd ato i gyflawni'r gofynion hanfodol hyn. Ef hefyd oedd y Mwslem cyntaf i fod yn gaplan i arweinydd sifig yng Nghymru, gan weithio gyda Paddy Kitson, Cadeirydd Cyngor Sir De Morgannwg. Yn sgil cyfalaf cymdeithasol a dylanwad eang y Sheikh galwai gwleidyddion o bob plaid am ei gyngor yn aml. Yn ôl cyn-Brif Weinidog Cymru Rhodri Morgan, 'his wise counsel at times of crisis made him a truly significant figure in the shaping of modern Wales'.
Cwrddodd Saeed â'i wraig gyntaf Gallila yn Aden, wedi i'w gwr gefnu arni a'i hysgaru. Ni fu plant o'r briodas honno, felly cymerodd ail wraig, Wilaya, a ganwyd iddynt ddwy ferch ac un mab. Bu Saeed Hassan Ismail farw ar 23 Mawrth 2011, ac fe'i claddwyd ar 25 Mawrth ym Mynwent Orllewinol Caerdydd, Adran Orllewinol G, rhif plot 2044.
Dyddiad cyhoeddi: 2024-05-29
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.