MASON, LILIAN JANE (1874 - 1953), actores

Enw: Lilian Jane Mason
Dyddiad geni: 1874
Dyddiad marw: 1953
Priod: Edmund Fawcett Kennedy
Plentyn: Samuel Butler Kennedy
Rhiant: Jane Mason
Rhiant: Samuel Butler Mason
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: actores
Maes gweithgaredd: Perfformio
Awdur: Stephen Lyons

Ganwyd Lilian Mason ar 20 Tachwedd 1874 yn Park Terrace, Pont-y-pŵl, yr hynaf o bedwar o blant Samuel Butler Mason, meddyg a llawfeddyg, a'i wraig Jane. Roedd Lilian yn bianydd a chantores fedrus, a pherfformiodd mewn llawer o gyngherddau ac eisteddfodau yn ei harddegau a'i hugeiniau cynnar. Ar ddiwedd y 1890au daeth yn aelod o Glwb Drama Amatur Pont-y-pŵl, gan ymddangos mewn sawl cynhyrchiad.

Ar 9 Ebrill 1901 priododd Edmund Fawcett Kennedy, rheolwr theatrig yn y Prince's Theatre, Manceinion. Roedd y teulu Kennedy wedi byw ym Mhont-y-pŵl pan oedd Lilian ac Edmund yn blant. Ganwyd eu hunig blentyn, Samuel Butler Kennedy, ym Mhont-y-pŵl yn 1903.

Roedd tueddfryd artistig Lilian yn dal i fod yn gryf. Yn 1904 mentrodd gychwyn ar ei gyrfa actio ei hun, ac erbyn Mehefin y flwyddyn honno chwaraeai ran fechan mewn cynhyrchiad teithiol o East Lynne. Roedd Edmund hefyd yn aelod o'r cast. Byddent yn gweithio gyda'i gilydd sawl gwaith eto yn ystod eu gyrfaoedd. Yn 1906 a 1907 chwaraeasant ŵr a gwraig mewn cynhyrchiad o Lucky Durham ac, yn 1909, roeddent yn teithio eto yn East Lynne.

Ym Mai 1911 ymddangosodd Lilian fel Mary Edwards mewn cynhyrchiad o The Bells of Lin Lan Lone, wedi ei gynhyrchu a'i gyfarwyddo gan Lyn Harding (1867-1952), actor enwog o Gymru a chwaraeodd y brif ran hefyd. Yn ôl un adolygiad dangosodd Miss Mason 'quite an uncommon degree of artistic instinct and a capacity for much greater things'. Yn ystod y flwyddyn ganlynol ymddangosodd gyda'i gŵr yn The Gate of Dreams, Lucky Durham eto, a Right to Die.

Yn haf 1912 ymunodd Lilian â chynhyrchiad Edmund Gwenn a Hilda Trevelyan o Yours yn Theatr y Vaudeville, Llundain. Dilynwyd hyn gan Little Miss Llewellyn, ffars Belgaidd wedi ei chyfieithu a'i thrawsblannu i Gymru. Chwaraeodd Lilian ran y forwyn Lizzie. Aelodau eraill o'r cast oedd Richard 'Dick' Hopkins, un o deulu mawr o berfformwyr o Gastell-nedd, a Tom Owen, comedïwr o Orseinon. Roedd y ddrama'n llwyddiannus dros ben gan redeg am 192 o berfformiadau.

Yn 1913, recriwtiodd Edmund Gwenn ragor o actorion o Gymru i deithio'r ddrama o amgylch Prydain, gan ffurfio i bob pwrpas y cwmni a elwid wedyn yn 'Welsh Players'. Daeth Gareth Hughes, William Hopkins (brawd Dick) ac Eleanor Daniels i ymuno â Lilian, Hopkins a Tom Owen.

Y Welsh Players oedd y cwmni cyntaf o'i fath. Cyflwynodd gynhyrchiad o The Joneses yn Theatr y Strand yn Llundain yn Hydref 1913 cyn gwneud tri pherfformiad o ddrama arobryn J. O. Francis, Change, yn Theatr yr Haymarket. Y gobaith oedd y byddai'r cynyrchiadau hyn yn gychwyn ar Theatr Genedlaethol i Gymru. Serch hynny, tra bu eraill yn perfformio Change yng Nghaerdydd, hwyliodd Lilian a'i chyd-actorion o Southampton i America yn Ionawr 1914 i gyflwyno'r ddrama yn Efrog Newydd. Methodd yr actor a chwaraeai'r unig Sais yn y ddrama â theithio gyda'r cwmni, a llenwyd ei le gan ŵr Lilian.

Nid oedd y ddrama wedi ei hysbysebu'n iawn, a chredai llawer o bobl mai cynhyrchiad amatur ydoedd. Oherwydd hynny a'r tywydd rhewllyd yn y ddinas cadwodd y cyhoedd draw. Negyddol oedd ymateb y beirniaid beth bynnag, gan ei galw'n 'turgid' a 'grey'. Rhoddwyd y gorau i'r rhediad yn Efrog Newydd a theithiodd y ddrama i Ganada, Pittsburgh, Pennsylvania a Washington cyn dychwelyd am gynnig arall arni yn Efrog Newydd ddechrau Ebrill. Cafodd Lilian glod personol yn nifer o'r adolygiadau, yn enwedig am yr olygfa lle gwyliai o ffenestr wrth i un o'i thri mab gael ei saethu tra'n ceisio darbwyllo ei frawd i beidio cynhyrfu criw o lowyr ar streic.

Wedi rhediad byr yn Chicago, hwyliodd Lilian a'i theulu yn ôl i Brydain ym mis Mai, ac erbyn Gorffennaf 1914 roedd yn gweithio eto gyda'i gŵr yn y Croydon Hippodrome yn A Scrap of Paper. Treuliodd sawl mis wedyn yn gweithio gyda Lyn Harding eto yn For France. Parhaodd Lilian a'i gŵr i weithio'n ysbeidiol yn ystod y rhyfel, gyda'i gilydd ambell waith, ond buont yn ddi-waith am gyfnodau hefyd.

Daeth cyfle ar y sgrîn arian yn 1919 pan wnaeth Lilian ddwy ffilm yn America. Roedd Valley of the Giants, gyda Wallace Reid yn y brif ran, yn ffilm am gwmnïau coed yn ymgiprys am goed gochion, gan gynnwys stori ramant. Wallace Reid oedd seren You're Fired hefyd. Chwaraeodd Lilian rannau bychain yn y ddwy ffilm.

Yn Ebrill 1920 cafodd Lilian ran mewn cynhyrchiad Cymreig unwaith eto, ond am chwe noson yn unig. Ernest Cove, a chwaraeodd ei gŵr yn Change, oedd cynhyrchydd A Gentleman From Wales a hysbysebwyd Lilian fel 'the greatest of all Welsh actresses'.

Yn 1922 a 1923 gweithiodd Lilian yn bennaf mewn cwmnïau theatr sefydlog yn Birmingham, Caeredin, Nottingham a Leeds. Ymunodd wedyn â chynhyrchiad teithiol o'r gomedi Lilies of the Field am flwyddyn gyfan o Chwefror 1924, gan chwarae rhan mam-gu feistrolgar. Yn ystod gweddill y 1920au cyfunodd Lilian waith theatr gydag ambell ran ar y radio. Roedd hefyd yn aelod o gyngor y Stage Guild.

Cafwyd cynnig arall ar Theatr Genedlaethol i Gymru yn haf 1933 pan lwyfannwyd drama arall gan J. O. Francis, Howell of Gwent, yn ne Cymru. Chwaraeodd Lilian ran Arianrhod. Daliodd ati i actio yn ei chwedegau; yng Nghofrestr 1939 fe'i disgrifiwyd fel 'retired actress'.

Daethai tristwch i ran y teulu yn 1932 pan fu farw eu mab Samuel o fethiant y galon yn Efrog Newydd. Bu Lilian ac Edmund yn byw yn Brighton yn eu blynyddoedd olaf, ac yno ar 28 Ionawr 1953 y bu'r ddau farw o fewn oriau i'w gilydd, Edmund yn 79 oed a Lilian yn 78, Fe'u claddwyd ar 3 Chwefror ym mynwent Patcham, Brighton. Cofnodir eu hymroddiad i'w gilydd ar eu bedd gyda'r geiriau 'In their death they were not divided'.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2024-08-09

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.