Ganwyd Valentine Morris ar 27 Hydref 1727 ar Antigua, yn fab hynaf i Lt. Col. Valentine Morris (c.1678-1743), perchennog planhigfeydd dylanwadol ar yr ynys honno, a'i ail wraig, Elizabeth (g. Wilmont). Yn 1736, symudodd Valentine Morris yr hynaf i Brydain a phrynu Piercefield, ger Cas-gwent yn Sir Fynwy, a fu gynt yn eiddo i'r teulu Walter, ac aeth ati i ehangu'r ystâd. Yn ddwy ar bymtheg oed, aeth Valentine Morris yr ieuaf i Leyden, yn unol â dymuniad ei dad iddo astudio yno. Serch hynny, ni fu iddo gofrestru yno ond yn hytrach ymaelodi â Choleg Peterhouse, Caergrawnt, y flwyddyn ganlynol. Yn 1752, priododd Mary Mordaunt, nith i Charles Mordaunt, 3ydd Iarll Peterborough (1658-1735), a oedd yn ôl y sôn yn nodedig am ei harddwch, ei chrebwyll a'i chwaeth, ond heb fawr o gyfoeth.
Ar farwolaeth ei dad yn 1743, etifeddodd Morris ystâd Piercefield, ynghyd â phlanhigfeydd sylweddol yn Antigua gan gynnwys nifer fawr o bobl gaethiwedig. Yn eu plith roedd Looby's, Crabb's, a Martin's ym mhlwyf St Paul yn ne Antigua a Jolly's ym mhlwyf St Mary yng ngorllewin Antigua. Yn 1776, cofnodwyd bod Morris yn berchen ar 1,004 erw ar yr ynys, a'r tir hwnnw yn cael ei weithio gan 284 o bobl gaethiwedig. Sylwodd Ivor Waters yn fachog, 'The elegant Valentine Morris owned Piercefield in Monmouthshire, worth £50,000 and Piercefield, a slave in Antigua, worth £10.' Perchennog absennol ydoedd ar y cyfan tra'n byw ym Mhrydain, heblaw un ymweliad ag Antigua yn 1754 yn dilyn cyfnod o sychder yno.
Ymgartrefodd Morris yn Piercefield tua 1752 a dechrau ar y gwaith o osod y dirwedd a'r rhodfeydd a fu'n gyfrifol am ei enwogrwydd cenedlaethol. Yn ei Observations on the River Wye (1782), barnodd William Gilpin fod golygfeydd ystâd Piercefield 'as much worth of the traveller's notice as any thing on the banks of the Wye', ac er nad yn 'picturesque' yn ôl ei safonau ef, 'they are extremely romantic, and give a loose to the most pleasing riot of imagination.' Denwyd teithwyr ac ymwelwyr niferus gan y golygfeydd hyn, ac fe'u croesawyd gan Morris gyda haelioni rhodresgar. Nododd y Gentleman's Magazine am Piercefield, 'the rich were entertained, the poor fed, and the naked cloathed'. Pwysleisiodd William Coxe yntau letygarwch hael Morris a'r parch ato yn y gymdogaeth leol. Roedd hyd yn oed tai gwydr, selar a phantri Piercefield yn agored i dafarnwyr Cas-gwent ar gyfer lluniaeth i deithwyr.
Er mwyn hwyluso teithio, roedd Morris yn gefnogol iawn i'r ffyrdd tyrpeg, gan gyfrannu i lwyddiant y fenter trwy roi arian, tir a'i waith fel hyrwyddwr ac arolygwr. Hyrwyddodd Ddeddf Tyrpeg Trefynwy yn 1754 a bu'n un o sefydlwyr Ymddiriedolaeth Tyrpeg Cas-gwent yn 1758. Roedd y gweithgareddau hyn yn rhan o fudiad ehangach dros dyrpegio a gwella ffyrdd yn Siroedd Mynwy a Chaerloyw a fu'n gychwyn ar fentrau tebyg yng Nghymru. Cofnododd Coxe hanesyn difyr yn dangos fel y dadleuodd Morris dros yr achos hwn. Wrth gael ei holi yn Nhŷ'r Cyffredin am ffyrdd yn Sir Fynwy dywedodd nad oedd yna yr un. I'r cwestiwn pellach sut, felly, roedd pobl yn teithio, ei ateb swta oedd 'mewn ffosydd'.
O ganlyniad i'w ffordd afradlon o fyw a'i haelioni, ei hoffter o hapchwarae, a ffactorau amgylcheddol yn Antigua a effeithiodd ar gynhyrchiant siwgr, disbyddwyd cyfoeth Morris ac aeth i ddyled. Aeth i drybini ariannol pellach yn sgil gornest etholiadol ddrudfawr pan heriodd rym teulu Morgan Tredegar am sedd Sir Fynwy yn Nhŷ'r Cyffredin yn 1771. Dywedir i Morris wario tua £6,000, a chael ei bardduo fel dyn dieithr, yn gaethfeistr, ac yn 'Creole', a chollodd yr ornest o 743 o bleidleisiau i 535. Yn Hydref 1772, rhoddwyd Piercefield a'i ystadau eraill yng ngofal ymddiriedolwyr ac ymadawodd Morris am y Caribî.
Yn Rhagfyr 1772, penodwyd Morris yn ddirprwy lywodraethwr ynys St Vincent, a oedd ar y pryd yng nghanol y Rhyfel Carib Cyntaf, ac a ddaethai dan reolaeth Prydain ar derfyn y Rhyfel Saith Mlynedd yn 1763. Yn 1776, fe'i penodwyd yn llywodraethwr, a daliodd y swydd honno nes ildio'r ynys i'r Ffrancwyr ym Mehefin 1779. Ei waith pennaf yn ystod y cyfnod hwnnw oedd rheoli'r gwrthdaro rhwng amryw garfannau o drigolion yr ynys, gan gynnwys gwladychwyr Ffrengig a Phrydeinig, Caribiaid St Vincent, a ffoaduriaid rhag caethwasiaeth. Ychydig iawn o gefnogaeth a gafodd gan lywodraeth Prydain, yn enwedig yn ariannol. Yn sgil ei anghydfod â'r gwladychwyr o Saeson a Chyngor a Chynulliad yr ynys (a ddiddymwyd ganddo ddwywaith) ni allai gasglu'r trethi a fyddai wedi talu ei gyflog nac amddiffyn yr ynys trwy sefydlu milisia effeithiol. Tynnodd yn helaeth ar ei arian ei hun i sicrhau diogelwch yr ynys, gan gynnwys adeiladu cadarnleoedd milwrol. Roedd angen y rheini nid yn unig oherwydd ofnau am derfysg treisgar gan drigolion yr ynys, ond hefyd oherwydd bygythiadau morladron a goresgyniad, a oedd ar gynnydd wrth i drefedigaethau Gogledd America wrthryfela yn erbyn rheolaeth Prydain.
Ar ôl ildio St Vincent, dychwelodd Morris am gyfnod byr i Antigua, lle daliwyd ef gan gredidwyr. Roedd symiau sylweddol o arian yn ddyledus iddo yntau gan y Trysorlys, am ei gyflog ac am ei wariant ar amddiffyn St Vincent. Dychwelodd i Lundain a chafodd ei garcharu yng Ngharchar Mainc y Brenin ar 22 Ebrill 1782 am ddyled o £4,594 13s. 8d. Yn y cyfamser, buasai'r ei wraig yn dioddef o salwch meddyliol ers 1771 ac ar ôl iddynt ddychwelyd i Brydain rhoddwyd hi mewn seilam yn Stryd Wimpole. Yn 1783, symudodd Morris i Ynys Jersey am gyfnod cyn dychwelyd i Lundain lle bu farw ar 26 Awst 1789.
Disgrifiwyd Morris gan ei fywgraffydd, Ivor Waters, yn 'unfortunate', ac yn sicr hawdd deall hynny o ystyried rhawd ei fywyd o gyfoeth i garpiau a'r amgylchiadau a gymhlethodd ei gyfnod fel gweinyddwr trefedigaethol ac a arweiniodd, yn y pen draw, at ei garcharu am ddyled. Serch hynny, achoswyd ei drafferthion ariannol hefyd gan ei ffordd o fyw afradlon. Ar y naill law, nid oedd yn boblogaidd fel llywodraethwr St Vincent - gan y gwladychwyr gwyn, na chwaith yn sicr gan y ffoaduriaid rhag caethwasiaeth y bu ef yn bersonol yn arwain cyrchoedd i'w hail-ddal. Ar y llaw arall, gwelid ef gan ei gymdogion yn ardal Cas-gwent yn gymwynaswr hael i'w cymuned. Yn y pen draw, cofir Morris yn bennaf heddiw am ddau gyfraniad mawr i Gymru ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Trwy ei waith ar dirwedd rhoddodd Piercefield ar y map fel cyrchfan twristiaid ar adeg pan oedd llawer o bobl yn dod i Gymru i chwilio am y Rhamantaidd a'r Pictiwrésg, a chyfrannodd ei waith yn hyrwyddo ffyrdd tyrpeg at gychwyn chwyldro yn rhwydwaith cludiant Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 2024-10-28
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.