PICTON, CESAR (c. 1755 - 1836), masnachwr glo

Enw: Cesar Picton
Dyddiad geni: c. 1755
Dyddiad marw: 1836
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: masnachwr glo
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awdur: Katie Barrett

Ganwyd Cesar Picton tua 1755 yng Ngorllewin Affrica, efallai yn Senegal, a daethpwyd ag ef i Brydain yn 1761 pan oedd tua chwech oed. Y cyfeiriad cyntaf ato yw nodyn ar 8 Tachwedd 1761 yn nyddiadur Syr John Philipps o Bictwn (Teulu Philipps), y chweched barwnig (1701-1764), a gynrychiolai Sir Benfro yn y Senedd, a chanddo drigfan o'r enw Norbiton Place yn Kingston upon Thames: 'Went to Norbiton with Capt. Parr and Lieut. Rees, taking with me a Black Boy from Senegal given me by Capt. Parr, also a Paraquet and foreign Duck.'

Roedd y Capten John Parr (1725-1791) yn swyddog ym myddin Prydain a fu'n gwasanaethu yng Ngorllewin Affrica. Ni wyddom ddyddiad geni nac enw genedigol y bachgen Du hwn, ond gellir tybio iddo gael ei brynu gan Capten Parr oddi wrth gaethfasnachwyr. Byddai ei deulu yn ôl pob tebyg yn Fwslemiaid; serch hynny, trefnodd Syr John iddo gael ei fedyddio ar 6 Rhagfyr 1761. Fe'i gelwid wedyn yn Cesar. Peth digon cyffredin mewn teuluoedd bonheddig ar y pryd oedd caffael bechgyn Du ifainc i'w hyfforddi i fod yn weision, ac roedd yn arferol rhoi i'r bechgyn hyn enwau clasurol megis Aristotle, Socrates, Plato neu, fel yn yr achos hwn, Cesar. Diddorol yw nodi na roddwyd cyfenw i Cesar pan gafodd ei fedyddio.

Rhoddwyd tri rhiant bedydd i'r Cesar ifanc, oll yn weision hŷn yn nheulu Philipps, Thomas Davies, Thomas Lewis, ac Elizabeth Cooper. Thomas Davies oedd y bwtler a byddai'n uchel ei barch yn y teulu. Ar ddydd Sul 6 Rhagfyr nododd Syr John yn ei ddyddiadur: 'Dr. Philipps christen'd my black Boy, Cesar, gave Eliz. Cooper, Tho. Davies and Thomas Lewis his Gossips 7s.6d.' Dengys cofnodion i Syr John brynu 'a velvet turbet for black boy' yn fuan ar ôl i Cesar gyrraedd. Roedd gwisgo gweision Affricanaidd mewn dillad egsotig yn arfer ffasiynol ar y pryd.

Ym Mehefin 1762 teithiodd Cesar i Gastell Pictwn, Sir Benfro, gyda'r teulu Philipps i gyd, Syr John, y Foneddiges Elizabeth a'u pedwar plentyn, Richard, Katherine, Joyce a Mary, ynghyd â'r gweision o Norbiton Place. Yn 1762 daliai Syr John sedd seneddol Sir Benfro, felly rhannai'r teulu eu hamser rhwng Norbiton Place a Chastell Pictwn. Prynwyd pâr o lodrau i Cesar sy'n awgrymu iddo deithio ar gefn ceffyl, taith anghyfforddus a gymerai ryw naw diwrnod. Ni ddychwelodd Cesar i Norbiton Place yn Hydref 1762, yn wahanol i'r teulu a'r gweision eraill, gan gynnwys ei rieni bedydd. Ni wyddom pam y bu iddo aros yn Sir Benfro, ond gellir tybio i weision y castell gael y dasg o'i addysgu a'i hyfforddi.

Roedd Syr John yn ddyngarwr a chefnogodd fudiad yr ysgolion elusennol a gychwynnwyd gan ei dad. Roedd yn amlwg yn bleidiol i addysg ac ymddengys iddo drin Cesar yn garedig. Roedd gan ei fab Richard was eisoes, o'r enw John Rothero, felly efallai nad oedd swydd benodol i Cesar fel gwas o fewn y teulu. Bu farw Syr John yn 1764, pan fyddai Cesar tua naw mlwydd oed. Fe ymddengys fod merched y teulu yn hoff iawn o Cesar wedi hynny. Nid fu i Syr John enwi Cesar yn ei ewyllys, ond yn yr ewyllys a luniodd ei wraig, y Foneddiges Elizabeth, yn 1766 nodwyd swm o arian i'w dalu i Cesar yn un ar hugain oed a'i gobaith 'my children will take some care of him and not let him want'. Byddai hyn yn beth anarferol iawn ar y pryd. Bu'r Foneddiges Elizabeth fyw am ugain mlynedd arall a gwnaeth sawl newid i'w hewyllys, gan gynnwys Cesar bob tro.

Nid oes tystiolaeth i Cesar gymryd rhan yn y mudiad diddymu caethwasiaeth. Serch hynny, mae ychydig dystiolaeth sy'n awgrymu y gallai fod wedi cyfrannu at newid barn ymhlith yr elît. Roedd gan y teulu Philipps gyswllt â Horace Walpole, gŵr a ddisgrifiodd y fasnach gaethweision fel 'horrid traffic' ac a soniodd am Cesar mewn llythyr at Iarlles Upper Ossory yn Hydref 1788:


'As you allow me to fill my letters with any scraps I can amass, I will tell your Ladyship how I was struck lately by a sentence of a negro. I was in Kingston, with the sisters of Lord Milford, who are my relations, and who have lately lost their very aged mother. They have a favourite black who has lived with them a great many years and is remarkably sensible. To amuse Lady Philipps under a long illness, they had read to her the account of the Pelew Islands. Somebody happened to say we are sending, or have just sent, a ship thither; the black, who was in the room, exclaimed, "Then there is an end of their happiness!" What a satire on Europe.'


Dengys yr hanesyn hwn fod Cesar yn gallu siarad yn rhydd â Lady Philipps a'i gwesteion, sy'n awgrymu agosatrwydd hynod. Fe ymddengys fod Cesar yn cael ei barchu gan y teulu fel aelod cyfartal yn hytrach na gwas.

Pan fu farw'r Foneddiges Elizabeth yn 1788, derbyniodd Cesar £100 o'i hystâd, swm sylweddol a thystiolaeth eto o'i safle arbennig. Gwerthodd ei mab, Richard Philipps (Arglwydd Milford erbyn hynny) Norbiton Place, lle byddai merched y teulu a Cesar yn trigo'n aml, ond cadwodd Gastell Pictwn a dechreuodd ei adnewyddu'n helaeth. Byddai Cesar tua thair ar ddeg ar hugain oed ar y pryd, ac ni symudodd gyda merched y teulu i Hampton Court. Roedd y merched hyn i gyd yn ddibriod, felly byddai'n amhriodol i Cesar aros gyda nhw. Erbyn hyn roedd gan Cesar gryn gyfoeth a dechreuodd fyw yn annibynnol. Symudodd i dŷ hardd gyda stablau ar y Stryd Fawr yn Kingston. Ar y cytundeb rhent gelwir Cesar yn 'Cesar Pickton'. Dyma'r tro cyntaf iddo gael cyfenw mewn unrhyw gofnodion. Gellir dyfalu iddo ddewis y cyfenw hwn ei hun, ac mae hynny'n awgrymu bod i blasty'r teulu Philipps yn Sir Benfro le arbennig yn ei galon.

O'r tŷ hwnnw sefydlodd Cesar fusnes fel masnachwr glo. Roedd y lanfa a'r clos tu ôl i'r tŷ yn hollbwysig i'r fenter. Daethai cyfoeth y teulu Philipps o lo yn bennaf, a gellir tybio mai'r Arglwydd Milford a ddarparai'r glo ar gyfer busnes Cesar, gan ei gludo o gefn gwlad Sir Benfro i Kingston ddiwydiannol.

O fewn ychydig flynyddoedd roedd gan Cesar ddigon o fodd i brynu'r eiddo hwnnw, a rhoddodd yr enw 'Picton House' arno. Prynodd eiddo arall gerllaw hefyd, gan gynnwys bracty. Daeth yn rhydd-ddeiliad, ac yn 1801 fe'i rhestrir ymhlith rhydd-ddeiliaid Swydd Surrey fel 'Caesar Picton, Coal Merchant'.

Digwyddodd peth nodedig arall ym Medi 1801. Ymddangosodd Cesar gerbron Ynad Heddwch yn Kingston wedi ei gyhuddo o dorri deddfau helwriaeth. Fe'i cafwyd yn euog o herwhela gyda dryll didrwydded, a chafodd ddirwy o £5. Ni soniwyd am ei ethnigrwydd yn yr adroddiad papur newydd am yr achos nac yng nghofnodion y llys chwaith. Mae'r achos hwn yn codi sawl cwestiwn gan fod deddfau helwriaeth y cyfnod yn llym iawn. Gellid dadlau i Cesar gael dedfryd drugarog oherwydd ei safle cymdeithasol uchel. Byddai rhai o safle is yn debygol o gael eu cosbi'n llymach am yr un drosedd.

Yn 1807 gosododd Cesar ei eiddo yn Kingston a symudodd i fwthyn ar rent yn Tolworth gerllaw. Gan ei fod dros ei hanner cant erbyn hynny, gellir tybio ei fod wedi ymddeol o'r busnes glo a chymryd y cyfle i ennill incwm o'i eiddo. Yn 1816 prynodd eiddo sylweddol arall yn Thames Ditton am £400, yn cynnwys dwy breswylfa, dau fwthyn, dwy ysgubor, dwy stabl, dau dŷ allan, dau gwrtil a dwy ardd. Arwydd o'i gyfoeth sylweddol yw'r ffaith nad oes cofnod o forgais ar gyfer hyn, ac nad oedd wedi gwerthu ei eiddo arall yn Kingston. Unwaith eto, ailenwodd yr eiddo hwn yn 'Picton House'.

Derbyniodd Cesar gymynroddion hael eraill gan y teulu Philipps. Bu Miss Mary farw yn 1801 gan adael £100 iddo; gadawodd symiau llai o lawer i'w gweision; dim ond £10 a gafodd ei chogydd, ei morwyn a'i gwas lifrai er enghraifft. Dyma arwydd arall fod Cesar yn cael ei ystyried yn debycach i aelod o'r teulu nag yn was. Yn 1820 gadawodd Miss Joyce £100 iddo a Miss Katherine £50, ynghyd â £30 ychwaneg i'w rhoi iddo'n flynyddol am weddill ei oes.

Cafwyd tystiolaeth bellach o'r berthynas agos rhwng Cesar a'r teulu pan fu farw'r Arglwydd Milford yn 1823. Yn ei ewyllys roedd dau atodiad wedi eu harwyddo 'Milford' ond heb dystion. Ymddangosodd 'Cesar Picton of Thames Ditton in the Couty of Surrey, gentleman' gerbron swyddogion profeb, felly, i dyngu llw ei fod yn adnabod yr Arglwydd Milford yn dda am sawl blwyddyn cyn ei farwolaeth ac wedi ei weld yn llofnodi ei enw yn aml y gallai dystio bod yr enw Milford ar yr atodiadau wedi ei ysgrifennu gan yr Arglwydd Milford ei hun.

Bu farw Cesar Picton yn 1836, tua 81 oed. Mae ei ewyllys yn datgelu tipyn am ei fywyd. Ni fu'n briod, ac nid oedd etifeddion ganddo, ond roedd ei brif gymynrodd i'w ferch fedydd, Sarah Lock Pamphilon (g. Penner). Roedd hi'n briod â William Pamphilon a ddaeth yn faer Kingston yn 1850. Gadawodd Cesar etifeddiaeth sylweddol iddi, gan gynnwys ei dai, ceffyl a chaise, cist de grwbanog gyda llwy gadi arian, dau oriawr, cadwyni aur, modrwyau a broetshis. Gadawodd nifer o luniau, gan gynnwys portread ohono ef ei hun, i'w gyfaill Thomas Bushell, a oedd yn 'dealer in wines and spirits'. Mae'r portread ar goll bellach, gwaetha'r modd, ond mae'r ffaith iddo drefnu cael portread ohono'i hun yn arwydd o'i gyfoeth a'i statws cymdeithasol. Dengys ei ewyllys hefyd fod ei gysylltiadau â Sir Benfro wedi parhau yn ei henaint. Cyfeirir mewn atodiad dyddiedig 1828 at fwg arian hanner peint gydag arfbais arno a roddwyd iddo gan ryw Miss Trevor o Hwlffordd.

Mae oes hir Cesar Picton yn arwydd o iechyd da. Mae'n debyg ei fod yn ddyn mawr o gorff, gan fod angen troli pedair olwyn i'w gludo i mewn i'r eglwys yn ei angladd, gydag ystyllod a rholeri i'w ollwng i'r gladdgell yn Eglwys yr Holl Saint, Kingston upon Thames. Cyfeirir ato'n gyson mewn dogfennau swyddogol fel 'gentleman' ac roedd yn amlwg yn ddyn busnes galluog, ac un a grynhodd gyfoeth sylweddol yn ystod ei yrfa.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2024-07-26

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.