STANLEY, HENRY EDWARD JOHN 3ydd Barwn Stanley o Alderley ac 2il Farwn Eddisbury (1827 - 1903), Diplomydd, cyfieithydd ac awdur, pendefig etifeddol

Enw: Henry Edward John Stanley
Dyddiad geni: 1827
Dyddiad marw: 1903
Priod: Fabia Stanley (née Roman)
Rhiant: Henrietta Maria Stanley (née Dillon-Lee)
Rhiant: Edward John Stanley
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Diplomydd, cyfieithydd ac awdur, pendefig etifeddol
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddo; Teithio
Awdur: Jamie Gilham

Ganwyd Henry Stanley ar 11 Gorffennaf 1827 yn Swydd Gaer. Ef oedd y cyntaf o ddeg o blant Edward John Stanley (1802-1869), ail Farwn Stanley o Alderley a Barwn cyntaf Eddisbury, a fu'n Aelod Seneddol Chwigaidd ac yn Dâl-feistr Cyffredinol, a'i wraig Henrietta Maria (g. Dillon-Lee, 1807-1895), Barwnes Stanley o Alderley, a ymgyrchodd dros addysg i ferched.

Cafodd Henry Stanley ei addysg yn Ysgol Eton a Choleg y Drindod, Caergrawnt. Roedd ei glyw yn wan o'i blentyndod, a dirywiodd ymhellach wrth iddo heneiddio, ac roedd yn encilgar o ran ei natur, peth a fu'n ofid mawr i'w rieni. Yn fachgen ifanc fe'i cyfareddwyd gan ddiwylliannau'r Dwyrain ac Affrica, wedi ei syfrdanu gan chwedlau egsotig y casgliad poblogaidd Arabian Nights a hanesion teithiau yn Affrica ac Asia. Yn sgil y diddordeb hwn dewisodd astudio Arabeg ym Mhrifysgol Caergrawnt (1846-47).

Yn 1847, ymunodd Stanley â'r Swyddfa Dramor yn Llundain fel dirprwy grynodebydd i'r Ysgrifennydd Tramor, yr Arglwydd Palmerston (1784-1865). Roedd yn adeg anodd iawn i ddiplomyddion Ewropeaidd wrth iddynt ymdopi â'r 'Cwestiwn Dwyreiniol' fel y'i gelwid, sef beth ddylai ddigwydd i Ymerodraeth Islamaidd enfawr yr Otomaniaid wrth i rai o'i deiliaid, Cristnogol yn bennaf, a'u rheolwyr geisio ymreolaeth neu annibyniaeth oddi wrthi. Ceisiodd y 'Pwerau Mawr' - Rwsia, Prydain a Ffrainc - ffrwyno'r tensiynau a'r gwrthdaro ond gan fanteisio arnynt hefyd er eu budd eu hunain. Gwnaeth carisma a deall Palmerston argraff fawr ar Stanley, ac edmygai'n arbennig y modd y pleidiai Palmerston achos y Twrciaid Otomanaidd fel 'a highly improving and civilised race' pan oedd agweddau Prydeinwyr tuag at arweinwyr yr Otomaniaid a'u ffydd Islamaidd gan amlaf yn negyddol. Fel Palmerston, gwerthfawrogai Stanley y buddiannau cymdeithasol ac ysbrydol a roddai Islam i'r Otomaniaid. Roedd hefyd yn gweld yr Ymerodraeth Otomanaidd yn fwy derbyniol na'r bygythiad strategol, gwleidyddol a chrefyddol gan Rwsia yn y Dwyrain, gan gynnwys India Brydeinig.

Profodd Stanley argyfyngau gwleidyddol ac ysbrydol yn ystod ei flwyddyn gyntaf yn Whitehall, wedi eu hysgogi efallai gan y berw gwleidyddol a chymdeithasol a ysgubodd dros Ewrop yn 1848. Collodd beth o'i hyder yn yr olwg Chwigaidd-Rhyddfrydol a etifeddodd gan ei rieni, a daeth yn fwyfwy ceidwadol yn wleidyddol ac yn foesol. Er na fu iddo golli ei ffydd yn Nuw, bu i amheuon diwinyddol - am wirionedd llythrennol y Beibl yn un peth - ei gadw oddi wrth yr eglwys am y tro cyntaf yn ei fywyd.

Roedd Stanley yn tueddu at Islam, ffydd y Twrciaid Otomanaidd - peth prin iawn i Brydeiniwr yng nghanol oes Fictoria. Arwydd o'i groestynnu ysbrydol oedd yr hyfforddiant a gafodd gan sheikh Swfïaidd (meistr ysbrydol mewn cyfriniaeth Islamaidd) tra ym Mharis yn 1849 a'r sgyrsiau hir a gafodd yno ag offeiriad Catholig. Am y tro, serch hynny, setlodd Stanley yn ôl i'w fywyd a'i yrfa yn Llundain.

Yn 1851, aeth Stanley i Gaer Gystennin fel attaché i Stratford Canning (1786-1880), Llysgennad Prydain i'r Ymerodraeth Otomanaidd. Daeth Stanley i gasáu'r byd diplomyddol yng nghalon yr Ymerodraeth Otomanaidd a'r ymyrraeth Ewropeaidd yno, ac anghytunai â pholisi Canning o ddod â Thwrci Otomanaidd i mewn i Ewrop fodern dan nawdd Cristnogol. Er gwaetha'r amheuon hyn, arhosodd Stanley yn y gwasanaeth diplomyddol drwy'r rhan fwyaf o'r 1850au. Yn 1853, fe'i dyrchafwyd i fod yn gyfrifol am gonswliaeth Prydain yn Varna (Bwlgaria Otomanaidd) ac yn 1854-59, bu'n ysgrifennydd i'r Genhadaeth Brydeinig yn Athen.

O ganlyniad i'w ddicter am y modd yr oedd Prydain yn bwlian y Twrciaid Otomanaidd ac yn ymelwa arnynt, ymddiswyddodd Stanley o'r gwasanaeth diplomyddol yn 1858. Dychwelodd i Lundain am gyfnod byr, lle'r oedd wedi magu cysylltiadau ag amryw gymdeithasau teithio a Dwyreiniol, gan gynnwys Cymdeithas Hakluyt, y Gymdeithas Asiaidd Frenhinol a'r East India Association.

Ar ddiwedd 1858, teithiodd Stanley i'r Aifft ac wedyn ymlaen i Arabia. Yn Ionawr 1859, cyrhaeddodd Jidda, y prif borth i Ddinas Sanctaidd Mecca. Ychydig iawn sy'n hysbys am amgylchiadau ei ymweliad ag Arabia, ond tra bu yno aeth yn groes i gonfensiwn ac i ddymuniadau penodol ei deulu trwy droi at Islam. Cyhoeddwyd y newyddion am ei droedigaeth grefyddol gan amryw bapurau yn Ceylon (Sri Lanka), yn fuan ar ôl i Stanley gyrraedd yno o Arabia ym Mai 1859. Cafwyd yr adroddiad cyntaf yn y wasg Brydeinig ar 11 Mehefin. Honnwyd mewn rhai adroddiadau fod Stanley wedi gwneud yr Hajj, neu bererindod i Mecca, ond nid oes ateg i hyn. Dywedodd wrth ei frawd Johnny Stanley (1837-1878), a oedd yn gwasanaethu gyda byddin Prydain yn India: 'I have always been a Mussulman [Mwslemiad] at heart.' Roedd yr Arglwydd a'r Foneddiges Stanley o Alderley yn gandryll ac yn teimlo'r fath embaras am y mater fel ag i wadu'n gyhoeddus bod eu mab wedi troi at grefydd Islam.

Dychwelodd Stanley i Loegr yn Ebrill 1860. Ef yw'r Prydeiniwr cyntaf a gofnodwyd i droi at Islam dramor a dychwelyd i Brydain yn Fwslemiad gweithredol. Treuliodd y degawd nesaf yn y Swistir yn bennaf, yn ygrifennu ac yn cyfieithu testunau ar gyfer cymdeithasau dysgedig. Yn Algeria yn 1862 priododd Fabia, Catholiges o Sbaen, yn unol â'r ddeddf Islamaidd, ond cadwodd y berthynas yn gyfrinachol tan ar ôl marwolaeth ei dad yn 1869. Adroddwyd yn ddiweddarach mai enw go iawn Fabia oedd Donna Serafina Fernandez y Funes, a'i bod, yn 1862, yn briod yn gyfreithiol â dyn yn Sbaen. Ailbriododd Stanley a Fabia yn ôl y ddeddf Islamaidd yng Nghaer Gystennin yn 1862 neu 1863.

Ym Mehefin 1869, olynodd Henry Stanley ei dad yn drydydd Arglwydd Stanley o Alderley ac yn ail Farwn Eddisbury. Ymgartrefodd yn barhaol ym Mhrydain gyda Fabia, a'i phriodi yn ôl cyfraith Loegr (1869) ac yn nes ymlaen mewn seremoni Catholig (1874).

Roedd Stanley yn bendefig etifeddol yn Nhŷ'r Arglwyddi ac ef felly oedd pendefig Mwslemaidd cyntaf y deyrnas. Yn Rhyddfrydwr yn ei galon o hyd, ond wedi ei ddenu'n ddeallusol ac yn foesol at y Blaid Geidwadol, eisteddodd ar y meinciau croes yn Nhŷ'r Arglwyddi. Er iddo siarad yn erbyn imperialaeth Brydeinig ymosodol ac o blaid lles deiliaid trefedigaethol, gan gynnwys Mwslemiaid (roedd yn aelod o'r 'Aborigines Protection Society'), ni soniodd yn gyhoeddus am ei ffydd Islamaidd. Ni ddefnyddiodd enw Mwslemaidd yn gyhoeddus ac ni chwaraeodd fawr o ran mewn ymdrechion tua diwedd oes Fictoria i sefydliadoli Islam ym Mhrydain. Arhosodd Stanley yn ddyn preifat iawn er gwaethaf ei swydd gyhoeddus. Roedd rhai o'i gyfoeswyr yn feirniadol o'i agweddau anghonfensiynol tuag at yr Ymerodraeth Otomanaidd ac imperialaeth Brydeinig, ac ychydig iawn o aelodau Tŷ'r Arglwyddi oedd â'r amynedd neu'r awydd i wrando ar ei areithiau, a draddodwyd mewn llais isel iawn oherwydd ei fyddardod. Ar y llaw arall, roedd parch mawr at Stanley ymhlith Dwyreinwyr blaenllaw megis Wilfrid Scawen Blunt (1840-1922) ac arweinwyr Mwslemaidd gan gynnwys y barnwr ac awdur seisgar, Syed Ameer Ali (1849-1928). O ran ei angerdd dros gyfiawnder a'i uchelgais i roi terfyn ar lechfeddiannu imperialaidd yr oedd o flaen ei amser mewn sawl ffordd ac fe'i cyfiawnhawyd yn foesol yn yr ugeinfed ganrif.

Yn 1884, etifeddodd Stanley ystâd fawr Penrhos ar Ynys Môn yn sgil marwolaeth ewythr di-blant, William Owen Stanley (1802-1884). Treuliodd Stanley ei flynyddoedd olaf yn Swydd Gaer, Môn a Llundain. Cymerodd ddiddordeb brwd yn ystâd Penrhos, a oruchwylid gan asiantau. Dywedwyd ar ôl iddo farw ei fod yn 'good landlord, though imperious in manner, and he was greatly loved by his tenants' yng Nghymru a Lloegr. Serch hynny, nid yw'r un landlord yn gyfan gwbl boblogaidd, a dengys papurau newydd Cymru y 1880au a'r 1890au fod Stanley wedi gorfod delio â nifer o anghydfodau gyda'i denantiaid a thirfeddianwyr eraill yng Nghymru. Er enghraifft, yn 1886, bu iddo fygwth dinistrio unrhyw gŵn o eiddo ei denantiaid heb fod ar dennyn am eu bod yn amharu ar gyrchoedd hela ar ystâd Penrhos.

Mae'r dynfa a deimlai Stanley at y Blaid Geidwadol yn hwyr yn ei fywyd yn fodd i esbonio rhai o'i weithgareddau cyhoeddus yng Nghymru a'i areithiau dros Gymru yn Nhŷ'r Arglwyddi. Yn fuan wedi iddo etifeddu Penrhos, cefnogodd ymgyrch y Ceidwadwyr yn erbyn datgysylltu Eglwys Loegr yng Nghymru. Daeth yn aelod gweithredol o'r 'Church Defence Institution' i warchod yr unrhywiaeth eglwysig, gyfansoddiadol, gyfreithiol a hanesyddol rhwng yr eglwys yng Nghymru ac yn Lloegr. Bu iddo hefyd gollfarnu dysgu'r iaith Gymraeg mewn ysgolion dan arolygaeth y wladwriaeth a bytheiriodd am yr hyn a welai'n 'secwlareiddio' addysg yng Nghymru a Lloegr.

Yn rhan o'i waith yn amddiffyn yr eglwys yng Nghymru estynnodd Stanley nawdd i nifer o eglwysi ym Môn. Fel Mwslemiad, parchai Stanley Gristnogaeth fel 'chwaer-ffydd' i Islam ac, yn unol â'i wleidyddiaeth, ceisiodd warchod Eglwys Loegr yng Nghymru. Cyfrannodd arian sylweddol a defnyddiau ar gyfer adeiladu eglwysi newydd, gan gynnwys St Mihangel yn Y Fali ger Caergybi (1887-88). Talodd hefyd am adnewyddu eglwysi, yn fwyaf arbennig Llanbadrig (1884). Yn unol ag amodau Stanley, roedd yn addurn mewnol eglwys Llanbadrig elfennau o ddyluniad Islamaidd, gan gynnwys ffenestri gwydr lliw gyda phatrymau geometraidd glas, coch a gwyn yn hytrach na darluniau ffigurol; teilsenni gwydr glas unigryw gyda phatrymau geometraidd a blodeuog o gwmpas y gysegrfa; a phanel yn darlunio'r Bugail Da mewn gwydr anhryloyw glas ac aur. Efallai mai'r eglwys hon a roes fod i'r honiad di-sail yn DWB (Teulu Stanley) i Stanley sefydlu mosg ym Môn.

Bu farw Henry Stanley o niwmonia yn Swydd Gaer ar 11 Rhagfyr 1903. Fe'i claddwyd mewn tir anghysegredig ar ystâd Alderley gyda gwasanaeth Islamaidd dan arweiniad yr Imam (arweinydd crefyddol) o'r Llysgenhadaeth Otomanaidd yn Llundain. Gan ei fod ef a Fabia yn ddi-blant, olynwyd Stanley gan ei frawd iau, Edward Lyulph Stanley (1839-1925).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2024-05-09

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.