Daeth y Stanleys i gyswllt â Môn drwy briodas Marged Owen o Benrhos ger Caergybi â Syr John Thomas Stanley (1735 - 1807) yn 1763. Cynrychiolai Marged deulu enwog yng nghwmwd Talybolion. Yr oedd y John Owen a fu farw yn 1712 yn ddigon cryf i wrthsefyll dylanwad mawr Meurigod Bodorgan yng ngorllewin yr ynys a ffafrio Bwcleaid Baron Hill yn ysgarmesoedd politicaidd ddechrau'r 18fed ganrif. Pur aneffeithiol oedd ei fab a'i ŵyrion: un (mae'n wir) yn arddwr mawr, un arall yn dipyn o arlunydd, un yn wan ei feddwl, a'i olaf, Hugh tad Marged, yn fregus ei iechyd ar hyd ei oes. Oni bai am gyswllt yr Oweniaid â theulu Bodewryd drwy briodas mab John Owen ag Ann, chwaer y canghellor Edward Wynne, a dod â chalondid a chynghorion y ddeuddyn hyn i larieiddio parlysdod pobl Penrhos, buasai'r hen deulu a'i adnoddau wedi myned â'i ben iddo er ystalwm.
Am Syr John Stanley o Alderley yn sir Gaer, aelod oedd ef o un o is-ganghennau teulu mawr Stanleys Derby; llwyddiannus ac undonog oedd rhawd Stanleiod Knowsley (Derby), gydag ambell gawr yn codi yn eu plith, ond yr oedd teulu Alderley a Phenrhos yn fwy amrywiol, amlochrog, ac annisgwyliadwy eu ffyrdd; aeth un ohonynt, y 3ydd barwn a fu farw yn 1903, cyn belled â throi'n Fahometan a chodi mosc i'r grefydd honno yn Nhalybolion. Codwyd mab hynaf Marged Owen yn farwn yn 1839; daeth Edward (1780 - 1849) ei frawd yn esgob Norwich (1837-49); a mab i hwnnw oedd Arthur Penrhyn Stanley, deon enwog Westminster o 1864 i 1881. Plant diddorol ddigon a fu gan y barwn 1af ei hun sef yr ail farwn EDWARD JOHN STANLEY (1802 - 1869) a ddaliodd amryw swyddi o dan nawdd y Whigiaid yn enwedig llywydd y Bwrdd Masnach o 1855 i 1858, a'i frawd efaill WILLIAM OWEN STANLEY (1802 - 1884), aelod seneddol dros sir Fôn (1837-47), dros dref Caer (1850-7), a bwrdeisdrefi Môn o 1857-74, gŵr tra hyddysg yn hen bethau bore oes y byd, fel y prawf ei lu ysgrifau yn yr Archæologia Cambrensis (nid drwg yw cofio dyhead y sgwïer William Owen ganrif ynghynt i brynu argraffwasg iddo ei hun). Chwaer i'r ddau yma oedd gwraig William Edward Parry, y capten a synnodd y byd drwy forio i gilfachau pellaf môr y gogledd cyn ei farw yn 1858. Y mwyaf o'r teulu oedd y 4ydd barwn, a ddaeth yn iarll Sheffield yn ogystal yn 1909, EDWARD LYULPH STANLEY (1839 - 1925), is-gadeirydd Bwrdd Ysgol Llundain o 1897 i 1904, ac un o brif awdurdodau'r wlad ym myd addysg; yr oedd yn fodlon ac yn falch yn niwedd ei oes i eistedd fel cadeirydd llywodraethwyr ysgol sir Caergybi. Mab iddo ef oedd y 5ed barwn ARTHUR LYULPH STANLEY (1875 - 1931), aelod seneddol dros dro, a llywodraethwr talaith Victoria o 1914 i 1920; bu farw yn 1931, gŵr hynaws, gwybodus, parod ei gymwynas. Pwysig yw pwysleisio nad yw'r cronicl moel hwn yn dangos dim o ran y Stanleys yn cau cominoedd Môn, yn prysuro dyfodiad y ffordd haearn i'r ynys, ac (yn bennaf peth) eu dylanwad mawr ar ddatblygiad porthladd Caergybi a'r gyfathrach ag Iwerddon.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.