Ganwyd ar 17 Mehefin 1719 yn Llan-gan, Sir Benfro, o deulu a fuasai gynt yn gefnog, ond yr oedd y tad yn un o 21 o blant. Addysgwyd Joshua Parry gan Evan Davies yn Hwlffordd - cyn agor yr academi yno, ac wedyn gan John Eames yn Moorfields. Bu'n weinidog yn Midhurst (1741-2), ac yna yn Cirencester hyd ei farwolaeth 6 Medi 1776. Yr oedd efallai'n fwy o lenor (ac o ffigur cymdeithasol) nag o ddiwinydd - cyfeiria Edmund Jones ato, braidd dros yr ysgwydd, yn ei ddyddlyfr 1770. Cwbl Seisnig oedd ei yrfa a'i waith, gweler yr ysgrif yn y D.N.B., seiliedig ar y Memoir, 1872, gan ei wyr Charles Henry Parry. Ei fab hynaf oedd CALEB HILLIER PARRY (1755 - 1822), meddyg, a gysylltir yn bennaf ag ysbyty Bath. Roedd Caleb yn feddyg o gryn fri, yn herwydd ei waith ar angina, ac ar exophthalmic goitre (efô oedd y cyntaf i ddisgrifio hwnnw). Yr oedd yn gyfaill mawr i Edward Jenner. Digwydd ei enw bum gwaith yn llythyrau Jane Austen, argr. 1952.
Mab i Caleb oedd Syr WILLIAM EDWARD PARRY (1790 - 1855), F.R.S., is-lyngesydd a gofir am ei gais i gyrraedd y Pegwn Gogleddol - a mab iddo yntau oedd EDWARD PARRY (1830 - 1890), esgob Dover; gweler y D.N.B. am bawb ohonynt.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.