WYNN (TEULU), Bodewryd, sir Fôn.

Disgynnai Wynniaid Bodewryd yn Nhwrcelyn, Môn, o'r GWEIRYDD AP RHYS y dywedir iddo flodeuo yng nghwmwd Talybolion tua'r flwyddyn 1170; ‘cyfrifir ef yn dad un o'r Pymtheg Llwyth.’ Ei fab hynaf oedd TRAHAEARN a elwid hefyd, meddir, yn Gadhaearn, oddi wrth yr hwn y dywedir i hen felin yng Nghaerdegog, a elwid ‘Melin Cathayran,’ gael ei henw. Mab iddo ef ydoedd MEURIG, a roes ei enw i ran o blwyf Caerdegog a elwir yn ‘Wely Meuric ap Gathayran’ yn y Record of Caernarvon, 1352. Y tair dolen nesaf yn yr ach oedd GRUFFUDD AP MEURIG, HYWEL AP GRUFFUDD, ac EDNYFED AP HYWEL. Dywedir i IEUAN ab EDNYFED AP HYWEL, a briododd Angharad ferch Hywel ap Tudur, farw yn 1403. Os gwir hyn yr oedd mewn oedran mawr, oherwydd enwir ei fab HYWEL fel un o etifeddion ‘Gwely Meuric ap Gathyran’ yn y Record of Caernarvon. Disgrifir Hywel fel tenant rhydd yng Nghaerdegog yn 1391. Cymerth ran yn rhyfel Owain Glyndwr, ac yr oedd yn un o'r llu a ddirwywyd, 10 Tachwedd 1406. Ei wraig oedd Angharad ferch Madog ap Hywel Gymen. Ceir enw ei fab GRUFFUDD AP HYWEL wrth ddogfennau yn 1421-2. Yr oedd LLYWELYN ei fab yntau yn rhingyll Lliwon yn 1451, ac yn fyw yn 1467. Mab i hwnnw oedd RHYS, a oedd yn byw yn Llechgynfarwy yn 1497. Priododd ag Annes ferch Nicolas ab Elis, archddiacon Môn, a rheithor Llaneilian. Yr oedd Rhys yn fyw yn 1510. Ei fab, DAFYDD AP RHYS AP LLYWELYN, oedd yn un o golofnau cymdeithas yn Môn yn hanner gyntaf yr 16eg ganrif. Efe, yn 1521, a brynodd y Plas ym Modewryd gan ei gâr, William ap Llywelyn ap Tudur ap Wiliam, neu William Llechog, ac a'i rhoes, yn 1534, yn dreftadaeth i'w fab hynaf Huw Gwyn ac etifeddion hwnnw o'i wraig Elen ferch Huw Conwy o Fryn Euryn. Mam Huw Gwyn oedd Angharad ferch Dafydd ab Ieuan ap Dafydd, etifeddes plas y Brain, ym mhlwy Llanbedr. Wedi rhoi Bodewryd i'r mab hynaf bu'r rhieni'n byw ym Mhlas y Brain hyd farwolaeth y fam yn 1542. Wedi hynny cymerth Dafydd ap Rhys Anne gweddw Wiliam Siôn ap Rhys, Llinon, a merch Pyrs Stanlai, Ewloe, yn ail wraig. Atgyweiriodd blas Gwredog Esgob ac yno y cartrefai teulu'r ail briodas. Pyrs ap Dafydd neu Byrs Llwyd, y cyntaf o Lwydiaid Gwredog, oedd y mab hynaf o'r briodas hon. Er galluoced Dafydd ap Rhys yn ei ddydd fel ustus heddwch ac er pybyred clod Siôn Brwynog yn ei farwnad iddo, pan fu farw 27 Gorffennaf 1551, achosion dygn ymgyfreithio rhwng ei ddau nythaid plant, yn enwedig ynghylch ei eiddo yn Nhyndryfol, a adawodd ar ei ôl. Bu HUW GWYN farw yn 1562 (cyn 28 Medi), gan adael 10 o blant. Yr oedd ei weddw yn fyw yn 1588 ac yn briod â Huw Lewis ap Hywel. EDWARD AP HUW GWYN oedd yr etifedd, a bu ef yn ymgyfreithio â'i fam ynghylch eiddo ei daid, Dafydd ap Rhys ap Llywelyn, yn 1564-5. Ei wraig gyntaf ef oedd Elisabeth ferch John ap Rhys ap Llywelyn ap Hwlcyn o Fodychen, a gwnaethpwyd eu cyfamod priodas, 14 Mawrth 1555/6. Ei ail wraig oedd Elen ferch Robert Bwclai, Gronant, a gweddw Siôn Gruffudd, Llanddyfnan. Erbyn 1594 yr oedd ganddo drydedd gwraig, Sian ferch Rhys ap Hywel. Bu farw 1 Mawrth 1596/7, gan adael ei stad i'w etifedd, JOHN WYN EDWARD, a'i galwai ei hun hefyd yn JOHN EDWARD AP HUW GWYN ac yn JOHN EDWARDS. Gydag ef dyrchafodd y teulu i reng gymdeithasol uwch. Efe a gasglai'r ‘subsidy’ ym Môn yn 1600, a phenodwyd ef yn siedwr y sir yn 1606. Yn 1612-3 efe oedd yr uchel sirydd. Bu farw yn 1614 (cyn 4 Mai). Ei wraig oedd Grâs ferch Siôn Gruffudd III, Chwaen Hen, Llanddyfnan; dyddiad eu cyfamod priodas oedd 1 Tachwedd 1577. Priododd hithau wedyn â Wiliam Bwclai, Coedan, ac yr oedd yn fyw yn 1629. Yr oedd gan John Edwards frawd, Richard Edwards, yn ddinesydd a gwneuthurwr gwregysau yn Llundain. Gydag etifedd John Edwards, EDWARD WYNN, y sefydlogwyd cyfenw y teulu.

Yn 1616, priododd Edward Wynn â Margaret ferch Edward Puleston, Llwyn-y-cnotie, person Llanynys, ac o hyn ymlaen daeth elfen glerigol gref i'r teulu. Yr oedd Edward Wynn yn siryf Môn yn 1627-8, ac yn 1634-5. Yn 1631, talodd y ddirwy am beidio â derbyn urdd marchog. Bu farw 9 Ionawr 1637/8, gan adael dau fab, John Wynn ac Edward Wynn. Ganwyd yr etifedd, JOHN WYNN, 7 Medi 1617. Ymaelododd fel ei frawd yng Ngholeg Iesu, Caergrawnt, 1637, gan droi at y gyfraith ac ymaelodi yn yr Inner Temple, 1639. Y flwyddyn honno priododd Elin (a fu farw 11 Mai 1650), merch a chydaeres John Lewis, Chwaen Wen, un o ddisgynyddion Huw Lewis, Prysaddfed. Efe oedd siryf Môn yn 1658-9. Bu farw 30 Ionawr, 1669/70 a'i gladdu yn Llantrisant. Gadawodd chwech o fechgyn ond bu'r etifedd JOHN WYNN, LL.B., o Goleg Iesu, Caergrawnt (ganwyd 6 Mai 1642), farw yn ddibriod, 16 Mawrth 1670/1, a syrthiodd yr etifeddiaeth i'r ail fab EDWARD WYNN (ganwyd 17 Chwefror 1644/5). Yng Nghaergrawnt yr addysgwyd yntau hefyd a chafodd radd M.A. 22 Mawrth 1670/1. Ordeiniwyd ef yn ddiacon, 23 Medi 1666, a bu'n dal bywoliaeth Mellteyrn am ychydig fisoedd o 22 Mehefin 1668. Cyflwynwyd ef i fywoliaeth Llaneugrad a Llanallgo, 17 Chwefror 1668/9, a'i symud i Lantrisant 7 Hydref 1670. Priododd â Margaret merch hynaf Dr. Robert Morgan, esgob Bangor (a chwaer i wraig Humphrey Humphreys a fu wedyn yn esgob ym Mangor a Henffordd), 3 Ionawr, 1671/2. Nid rhyfedd felly iddo gael rheithoraeth Llanddyfnan (a fuasai yn llaw ei dad-yng-nghyfraith), 4 Tachwedd 1672, ynghyd â thrwydded i gadw Llantrisant gyda hi. Bu farw 21 Mawrth 1681. Brawd iau a'i dilynodd yn Llantrisant (16 Mai 1681) — Robert Wynn, a fuasai'n rheithor Llanddeiniolen ers 22 Mawrth 1680, ac a barhaodd yn y ddwy fywoliaeth gan ychwanegu Llanbeblig atynt (5 Tachwedd 1693) hyd ei farw, 18 Hydref 1720. Bu farw JOHN WYNNE, etifedd Edward Wynn, yn 1709. Yr oedd ei unig fab Edward (o Blaens, ferch Pyrs Llwyd, Llugwy) wedi marw yn ei blentyndod, ac felly aeth yr etifeddiaeth i'w frawd EDWARD WYNNE (1681 - 1755). Yr oedd ef newydd orffen gyrfa ddisglair yng Ngholeg Iesu, Rhydychen (ymaelodi 18 Rhagfyr 1698 yn 17 oed, B.A. 1702, M.A. 1705, B. a D.C.L. 15 Mawrth 1710/11), ac wedi cael swydd canghellor esgobaeth Henffordd yn 1707 gan ei ewythr, yr esgob Humphrey Humphreys. Yn ffodus yr oedd ei fam yn byw ym Modewryd (bu hi farw 31 Awst 1723) ac felly gallodd ef, heb gael ei drethu'n ormodol gan ofalon y stad, barhau gyda'i yrfa a'i astudiaethau mewn cyfraith eglwysig a dyfod yn ddadleuydd yn Doctors Commons, 1712. Rhoes oes o wasanaeth ffyddlon i esgobaeth Henffordd, gan ddal ei swydd hyd o fewn blwyddyn i'w farw. Yn 1748 gwaddolodd bregeth yn yr eglwys gadeiriol ar ddydd pen blwydd yr esgob Humphreys (24 Tachwedd). Ar ben ei ddiddordeb yn y gyfraith eglwysig ac mewn gweinyddiaeth ac yn hanes yr esgobaeth yr oedd yn dir-feddiannwr blaengar. Defnyddiai ei wybodaeth am ddulliau diweddaraf amaethu yn sir Henffordd i wella'i stad ym Môn. Dywedir mai ef oedd y cyntaf i godi maip ar yr ynys yn 1714. Yn ddiamau efe oedd un o brif ddynion Môn yn hanner gyntaf y 18fed ganrif. Perchid ei farn a'i wybodaeth gadarn o'r gyfraith, er nad yw'r Morisiaid yn rhy barchus bob amser yn eu cyfeiriadau ato yn eu llythyrau — ond rhaid cofio mai plaid Meyrick oeddynt hwy ac yntau'n gefnogwr selog i deulu Bulkeley. Y mae ei lyfrau cyfrifon ef a'i was Hugh Hughes yn gyforiog o ddefnyddiau hanes y cyfnod ym Môn. Y mae traddodiad iddo noddi Goronwy Owen yn ei fachgendod, ac y mae tystiolaeth i'r llanc o fardd fod yn copïo cofnodion drosto yn ystod gwyliau Nadolig 1739. Bu Edward Wynne farw 30 Mehefin a'i gladdu 4 Gorffennaf 1755. Buasai ei blant oll farw yn eu babandod; Anne, merch ac aeres John Lloyd, Plas Einion, Llanfair Dyffryn Clwyd, oedd ei wraig. Tyfasai cryn anghydfod rhwng y ddau ond yr oeddynt wedi eu cymodi cyn iddi hi farw 29 Gorffennaf 1739. I Margaret Owen, aeres Penrhos ac wyres ei chwaer Anne (bu farw 1748), gwraig Robert Owen Penrhos, yr aeth y stad ar ôl marw Dr. Edward Wynne. Priododd hithau Syr John Stanley, barwnig (gweler yr ysgrif ar y teulu) yn 1763.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/