Fe wnaethoch chi chwilio am Edward Lhuyd
Ganwyd 27 Mehefin 1875 yng Nghaer, yn fab i John Anwyl, pregethwr cynorthwyol, o deulu Anwyliaid Caerwys, Sir y Fflint, ac Elen Williams ei wraig. Daeth yn weinidog ar eglwys Annibynnol Elim, Caerfyrddin, yn 1899. Oherwydd byddardod ymddeolodd o'i eglwys i gymryd gofal Sefydliad y Mud a'r Byddar, Pontypridd, Morgannwg, 1904-19. Ef, yn 1914, oedd yn gyfrifol am y chweched argraffiad o Eiriadur Cymraeg-Saesneg Spurrell; yn ddiweddarach, yn 1916, golygodd y seithfed argraffiad o Eiriadur Saesneg-Cymraeg Spurrell. Bu amryw argraffiadau pellach o'r rhain. Fe'i hapwyntiwyd yn 1921 yn Ysgrifennydd y Geiriadur Cymraeg oedd ar waith dan nawdd Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru. Ar ôl ymneilltuo o'r swydd hon, ymsefydlodd yn Llangwnadl, Sir Gaernarfon, lle y bu farw, trwy foddi, 23 Gorffennaf 1949; fe'i claddwyd ym mynwent Penllech, Sir Gaernarfon.
Yr oedd ' Bodfan ' yn frawd i Syr EDWARD ANWYL. Fe gyfrannodd lawer iawn i newyddiaduron a chylchgronau Cymru. Golygodd adargraffiadau o Drych y Prif Oesoedd a Gweledigaethau y Bardd Cwsc. Ymhellach, ef oedd awdur Y Pulpud Bach (1924), Yr Arian Mawr (1934), Fy Hanes I Fy Hunan (1933), ac Englynion (1933), heblaw cyfieithiadau i Gymraeg o lyfrau a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Genhadol Llundain, megis Greatheart of Papua W. P. Nairne, 1915.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.