Ganwyd yn Abertawe a'i ddwyn i fyny gan ei lysdad, W. H. V. Millbank. Yr oedd ei gyfaill Syr Frank Brangwyn yn edmygu ei waith; efe a brynodd ' The Fortune Teller ' o waith yr artist ar ran Amgueddfa Brussels. Rhoes Belleroche nifer o'i ddarluniau i Amgueddfa Genedlaethol Cymru - llun ei fam yn eu plith. Dyfeisiodd ddull o ddarganfod dyfrnodau ffug ym 1915.
Bu farw 14 Gorffennaf 1944 yn Rustington, Sussex. Roedd ganddo ef a'i wraig Emilie Julie Visseaux 2 fab a merch.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.