Ganwyd yn Canton, Caerdydd, 7 Ebrill 1861, merch i Jacob Davies a'i wraig Margaret. Clywodd ei thad y gantores enwog Clara Anastasia, merch Vincent Novello, a phenderfynodd pe cai ferch y galwai hi ar enw'r gantores. Cafodd ei haddysg gerddorol gan ei thad, Dr. Frost, Frederick Atkins, Caerdydd, a Dr. Charles Williams, organydd eglwys gadeiriol Llandaf.
Penodwyd hi yn ieuanc, oherwydd ei thalent, i gyfeilio i Gôr Undebol Caerdydd, a'r Côr Rhuban Glas ' a arweinid gan ei thad, ac a fu mor llwyddiannus yng nghystadleuthau'r Palas Grisial. Yn 1883 ffurfiodd gôr merched a fu'n llwyddiannus yn cynnal cyngherddau yng Nghymru a Lloegr. Yn 1893 aeth y côr i gystadlu i Ffair Fawr y Byd, Chicago, Unol Daleithiau'r America, ar ' Yr Arglwydd yw fy Mugail ' (Schubert) a ' Spanish Gypsy ', a chawsant y wobr gyntaf. Wedi hyn aethant ar daith gerddorol i'r U.D.A., ac wedi dychwelyd yn ôl cynhaliwyd cyngherddau ganddynt ym mhrif drefi Cymru a Lloegr. Yn 1900 gwahoddwyd y côr i ganu yn Arddangosfa Paris.
Ar hyd y blynyddoedd bu disgyblion Clara Novello 'n llwyddo i ennill gwobrwyon yn yr eisteddfod genedlaethol. Yn 1927 dechreuodd ei harbrofion o'i chynllun a'i dysgeidiaeth o adeiladu llais ac anadlu, a chyhoeddodd lyfr yn 1928 i egluro'r gyfundrefn dan yr enw You can sing; y mae'r llyfr wedi ei gyflwyno i'w mab, Ivor Novello.
Bu ganddi ysgol i ddiwyllio'r llais yn Efrog Newydd, a ffurfiodd y 'Novello Davies Artist Choir', yn 1924, i gynnal cyngherddau. Yn 1928 cafodd y côr merched Cymreig wahoddiad drachefn i ganu yng Nghastell Windsor ar 26 Ebrill, ac, yn 1937, yn Exposition Paris. Gwnaeth y côr wasanaeth mawr trwy godi cronfeydd at achosion dyngarol - yn arbennig yn y ddau Ryfel Mawr.
Yn 1940 cyhoeddodd Clara Novello lyfr hanes ei bywyd o dan y teitl - The Life I have loved. Bu farw 7 Chwefror 1943, ac amlosgwyd ei chorff ym mynwent Golder's Green, Llundain.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.