Ganwyd yn 95 Cowbridge Road, Caerdydd, 15 Ionawr 1893, i deulu cerddorol iawn a symudodd yn fuan wedyn i Lwyn-yr-eos, 11 Cathedral Road, Caerdydd, yn unig fab i David Davies, casglwr trethi lleol, a Clara Novello Davies. Mynychodd ysgol Mrs. Soulez gerllaw a chafodd wersi cerdd gan ei fam a (Syr) Herbert Brewer, Caerloyw. Gyda'i lais soprano da enillodd wobrwyon mewn eisteddfodau, ac ysgoloriaeth i ysgol Coleg Magdalen, Rhydychen, pan oedd yn 10 oed. Yn fuan daeth yn unawdydd i gôr y coleg ond ni chanodd yn gyhoeddus wedi i'w lais dorri yn 16 oed. Dychwelodd adref i roi gwersi piano a chyfeilio yng nghyngherddau ei fam ond aeth i Lundain ymhen blwyddyn; parhaodd fel cyfeilydd iddi yno a dechrau cyfansoddi baledi. Yn 1913 symudodd i 11 Aldwych ac yno y cartrefodd weddill ei oes, er fod ganddo ail gartref yn Downley, swydd Buckingham, a phrynodd Redroofs, ger Maidenhead, yn ddiweddarach. Bu farw yn ddisymwth, 6 Mawrth 1951, yn fab gweddw ar frig ei yrfa.
Treuliodd ei oes ymron i gyd mewn awyrgylch gerddorol. Gweithiai'n ddi-baid, yn perfformio mewn ffilmiau neu ddramâu - llawer ohonynt o'i waith ei hun - weithiau'n ffilmio yn ystod y dydd, ar lwyfan yn yr hwyr, a threulio pob munud rydd yn ysgrifennu a chyfansoddi gweithiau newydd, bron pob un yn fwy disglair na'r rhai a'i blaenorodd. Nid oedd ond pymtheg oed pan, o dan yr enw Ivor Novello, y cyhoeddwyd ei gân gyntaf, 'Spring of the year'. Yn un ar hugain oed daeth yn enwog fel cyfansoddwr 'Keep the home fires burning' i eiriau Lena Guilbert Ford. Ysgrifennodd a chyfansoddodd tua 60 o faledi a chaneuon, 'We'll gather lilacs' yn eu plith. Ymunodd â llu awyr y llynges yn 1916 ond methodd fel peilot a throsglwyddwyd ef i'r Weinyddiaeth Awyr. Yn y cyfamser cyfansoddodd gerddoriaeth i'r sioe Theodore & Co. Anfonwyd ef ar daith lwyddiannus i Sweden yn 1918 fel difyrrwr i wrth-wneud effaith propaganda Almaenig yn y wlad honno. Wedi ei ryddhau yn 1919 cymerodd y brif ran mewn ffilm Llundeinig, The Call of Blood; wedi hynny enwogodd ei hun fel prif actor mewn tuag 16 o ffilmiau ym Mhrydain a'r Amerig. Ei ddyhead pennaf oedd bod yn actor ar lwyfan a gwireddwyd ei freuddwyd yn 1921, pryd y cafodd ran fechan yn Deburaut. Profodd The Rat, ei ddrama gyntaf (a ffilmiwyd wedyn), yn llwyddiant iddo ef fel awdur a chwaraewr. Ysgrifennodd a chymerodd ran mewn llawer o ddramâu eraill cyn troi at gyfansoddi miwsig i gomedïau cerdd, ynghyd ag ysgrifennu'r geiriau i rai ohonynt. Dyma ei weithiau mwyaf poblogaidd, gan ddechrau gyda Glamorous Night (1935), a'r seithfed a'r olaf, King's Rhapsody (1949) yn goron ar y cyfan. Yr oedd yn ddyn golygus iawn ac wrth ei fodd yn difyrru pobl. Er nad oedd yn actor mawr, cafwyd tystiolaeth ddigamsyniol mai ef a ddenai'r tyrfaoedd pan fyddai'n un o'r chwaraewyr. Gweler Sandy Wilson, Ivor (1975), am restr ryfeddol o'i ganeuon, dramâu, ffilmiau a chomedïau cerdd, ei berfformiadau niferus ar lwyfan ac mewn ffilm, a'i waith fel cynhyrchydd a rheolwr; hefyd am gyfeiriadau at fywgraffiadau cynharach. Gosodwyd penddelw ohono yn Theatre Royal, Drury Lane, a chofebau i nodi man ei eni a'i gartref yn Llundain lle y bu farw.
Roedd Ivor Novello yn ddyn hoyw agored, a bu'r actor Robert 'Bobbie' Andrews (1895-1976) yn gymar iddo am 35 mlynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.