Ganwyd yng Nghastell-nedd, Awst 1882 yn fab i Richard a Catherine Davies, Abaty, Castell-nedd. Dechreuodd ddysgu nodiant y Tonic Sol-ffa yn blentyn, a phasiodd dystysgrif A.C. yn 12 oed, a'r matriculation yn 15eg oed. Yn 1890 aeth i Lundain am gwrs o addysg gan Dr. David Evans, (1874 - 1948), a phan benodwyd y doctor yn athro yng ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, llwyddodd yr efrydydd, yn 20 oed, i ennill ysgoloriaeth o £40 y flwyddyn am dair blynedd. Yn 1905 enillodd radd Baglor mewn Cerddoriaeth (Mus. Bac.), a B.A. yn 1906. Wedi cwrs blwyddyn o hyfforddiant arbennig yn Llundain ymsefydlodd yn athro cerddoriaeth yng Nghastell-nedd, ac apwyntiwyd ef yn organydd a chôrfeistr eglwys M.C. Bethlehem Green. Bu'n arweinydd Cymdeithas Operataidd Castell-nedd am 36 mlynedd, ac hefyd gôr meibion Castell-nedd. Efe oedd arweinydd côr yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yng Nghastellnedd 1934, a bu galw mawr am ei wasanaeth fel beirniad ac arweinydd cymanfaoedd canu. Cyfansoddodd nifer fawr o ranganau, anthemau, a thonau cynulleidfaol a thonau plant. [Cyfrannodd y dôn ' Bethlehem Green ' yn arbennig i Y Caniedydd Cynulleidfaol Newydd, 1921 ]. Bu farw 23 Tachwedd 1947, a chladdwyd ef ym mynwent Llanilltud Fach, ger Castell-nedd.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.