Ganwyd 9 Rhagfyr 1862, yn Llanberis. Cafodd ei addysg yn ysgol elfennol Llanberis ac aeth i'r chwarel wedi gadael yr ysgol. Cystadleuodd mewn cyfarfodydd llenyddol, ac ymddiddorai yn y ddrama; yr oedd yn aelod o'r cwmni drama Cymraeg cyntaf a ffurfiwyd yng Nghymru, sef cwmni Llanberis. Yn ystod streic Llanberis 1886, hysbyswyd ef gan Tecwyn Parry, gweinidog Gorffwysfa, a ofalai am y golofn farddol yn Y Faner, fod ar Thomas Gee angen gohebydd ieuanc yn ei swyddfa. Cafodd J. J. Evans y swydd, ac wedi dyfod i Ddinbych ymroes i weithio a dysgu llawfer. Daeth yn newyddiadurwr medrus yn y ddwy iaith. Yn ddiweddarach apwyntiwyd ef yn ysgrifennydd cyfrinachol i Mr. Gee, ac yn ystod yr amser hwn cyfrannodd lawer o erthyglau i'r Gwyddoniadur Cymreig. Ymhen blynyddoedd daeth yn olygydd Y Faner ac yn ddiweddarach y North Wales Times. Rhoes adroddiadau o holl brif gyfarfodydd Dyffryn Clwyd am dros hanner can mlynedd, a chynrychiolodd Y Faner, heb gymorth neb, yn yr eisteddfod genedlaethol am flynyddoedd maith. Yr oedd yn bresennol yng nghyfarfod cyntaf cyngor sir Ddinbych, a bu'n bresennol ym mhob cyfarfod hyd oni chadwai dyletswyddau golygydd ef yn ei ystafell. Bu am gyfnod hir yn gyfieithydd i'r frawdlys ac i'r frawdlys chwarterol. Bu'n ohebydd Dyffryn Clwyd i'r Liverpool Daily Post, Liverpool Echo, a'r Manchester Guardian am dros hanner canrif. Priododd 1864, Margaret Evans, Henllan, a bu iddynt saith o blant. Bu farw 22 Ebrill 1942, yn Ninbych mewn canlyniad i ddamwain.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.