EVANS-WILLIAMS, LAURA (1883 - 1944), cantores

Enw: Laura Evans-williams
Dyddiad geni: 1883
Dyddiad marw: 1944
Priod: R.T. Williams
Rhiant: Ellen Evans
Rhiant: John Evans
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: cantores
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

merch hynaf John ac Ellen Evans, Henllan, sir Ddinbych; ganwyd yn Bryn Meirion, Henllan, 7 Medi 1883. Bu'n ddisgybl yn ysgol Howell yn Ninbych, ac aeth wedyn i'r Royal Academy of Music yn Llundain. Dechreuodd ganu fel contralto, ac enillodd wobrau mewn amryw eisteddfodau; ond pan aeth i'r Academy fe'i hyfforddwyd gan Edward Iles, a daeth yn soprano 'delynegol'. Enillodd gryn fri fel datgeinydd mewn cyngherddau ac mewn oratorio; canai hefyd ganeuon operataidd yn bur effeithiol, a hoff iawn ganddi oedd canu alawon Cymreig, gan gynnwys alawon gwerin. Yn ystod rhyfel 1914-18 aeth ar daith ganu gyda'r gontralto enwog Clara Butt. Fe'i gwahoddwyd hi i ganu cân y cadeirio yn Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead, 1917; a phan gyhoeddwyd bod y bardd buddugol (Ellis H. Evans, Hedd Wyn (1887 - 1917) wedi ei ladd ar faes y gad, dewisodd ganu ' I Blas Gogerddan ', a oedd yn hynod addas. Nid yn fuan yr anghofia'r rheini ohonom a oedd yno y digwyddiad hwnnw. Un mlynedd ar bymtheg yn ddiweddarach, yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, fe'i gwahoddwyd hi eto i ganu cân y cadeirio, a'r tro hwn bu raid iddi ail-ganu - yr oedd hynny'n beth anghyffredin iawn. Yr oedd hi'n un o'r datgeiniaid cyntaf o Gymry, onid y gyntaf, i ddarlledu o Savoy Hill. Aeth ar daith ganu i Daleithiau Unedig yr America yn 1926, ac yn 1940 dychwelodd o Lundain i Fae Colwyn i fyw. Bu'n dysgu canu yno nes iddi farw 5 Hydref 1944. Claddwyd ei chorff yn Henllan. Priododd, yn 1905, R. T. Williams, a ganwyd iddynt ferch a mab.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.