Ganwyd 30 Mai 1866, yn fab i Griffith ac Elizabeth Hughes, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog. Wedi gadael yr ysgol fwrdd bu'n llythyrgludydd am ysbaid, ac yna'n glerc mewn swyddfa cyfreithiwr ym Mlaenau Ffestiniog. Oddi yno aeth i Borthmadog, i swyddfa'r Meistri William a David Lloyd George. Trigai ar y pryd ym Mhentrefelin, ac yno yng nghapel Cedron y dechreuodd bregethu. Addysgwyd ef yng Nghlynnog, Bangor, a'r Bala; ac yn ddiweddarach, pan weinidogaethai yn Aberteifi, bu ym Mhrifysgol Leipzic lle y graddiodd yn M.A., Ph.D. Ordeiniwyd ef yn 1895. Priododd Mya, merch Mr. a Mrs. Walter Lewis, Llangadog; a bu iddynt 6 o blant. Bugeiliodd Bethlehem Green, Castell Nedd (1894-96); Aberteifi 1896-1917); Parkfield, Birkenhead (1917-1936). Traddododd 'Y Ddarlith Davies' ar 'Addoli' yn 1935, a'r un flwyddyn etholwyd ef yn llywydd Y Gymanfa Gyffredinol at 1936. Golygodd Y Drysorfa, 1934-1938. Bu farw 25 Mehefin 1944, o fewn ychydig fisoedd i'w briod, a chladdwyd ef yn Llangadog.
Daeth i sylw gyntaf fel bardd. Cyhoeddodd, yn ifanc, bedair cyfrol o ganiadau. Yn yr ail o'r rheini ymddangosodd ei ddau emyn adnabyddus; ' Pwy a'm dwg i'r ddinas gadarn? ' a ' Fy Nhad o'r Nef O! gwrando 'nghri. Heblaw'r Caniadau cyhoeddodd Yr Athro o Ddifrif, 1903, Cofiant a Phregethau'r Parch. Griffith Davies, Aberteifi, (cydolygiaeth â'r Dr. J. Cynddylan Jones), Llewyrch y Cwmwl, Anfarwoldeb yr Enaid, A New Method for the Study of the German Language, Pedair Cymwynas Pantycelyn, 1922, Mr. Saunders Lewis a Williams Pantycelyn, 1928, Addoli, 1935, Pregethau Moelwyn, 1925. Yr oedd yn dra chymeradwy fel darlithydd a phregethwr.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.