Ganwyd yn Rhuthun 13 Ebrill 1865 yn fab i Joseph David Jones, ysgolfeistr a cherddor adnabyddus; a'i fam oedd Catherine, merch Owen Daniel, Caethle, Tywyn, Meirionnydd, amaethwr cyfrifol. Brodyr iddo oedd Owen D. Jones, pennaeth Cwmni Yswiriant, Syr H. Haydn Jones a fu gyfnod maith yn aelod seneddol dros Feirion, a'r Parch. D. Lincoln Jones. Bu farw ei dad yn 1870 ac aeth y teulu i fyw i Dywyn lle y buasai ei dad yn ysgolfeistr un adeg. Ailbriododd ei fam yn 1877 â'r Parch. David Morgan Bynner, gweinidog gyda'r Annibynwyr yn Chorley ac yno yr aethant i gartrefu. Llanc 12 oed ydoedd pan adawodd Gymru ac yn Lloegr y treuliodd ei fywyd hyd nes iddo ymddeol yn 1937 a dychwelyd i Feirion am weddill ei oes. Gyda'r Methodistiaid Calfinaidd y magesid ef yn Nhywyn dan gysgod ei daid a'i nain a dug yntau nodau'r ffydd honno gydol ei oes.
Addysgwyd ef yn academi Tywyn, ysgol ramadeg Chorley, Owen's College, Manceinion, gan ennill yno ei radd M.A. (Vic), ac yn y Lancashire Independent College, lle y bu un adeg yn cynorthwyo fel athro a chafodd yn ddiweddarach yn 1912 a 1921 gynnig cadair Prifathro yno.
Urddwyd ef yn weinidog yn 1889 ar eglwys Newland, Lincoln, a bu yno hyd 1898 pryd y symudodd i eglwys Richmond Hill, Bournemouth, gan ddilyn Cymro arall, J. Ossian Davies. Priododd Emily Cunliffe, Chorley, a bu iddynt fab a fu farw yn Affrica a merch, Myfanwy, a fu farw'n fuan ar ôl ei thad. Collodd ei briod yn 1917 ac yn 1933 ymbriododd ag Edith Margery Thompson o Bournemouth. Ymddeolodd yn 1937 a daeth i fyw i Fryn Banon ger y Bala.
Enillodd iddo'i hun safle anrhydeddus eithriadol ym mywyd crefyddol Lloegr a pharhaodd ei boblogrwydd i'r diwedd. Cydnabuwyd ef gan y brenin yn 1927 drwy ei wneud yn Gymrawd Anrhydeddus (C.H.) a rhoed iddo radd Doethur mewn Diwinyddiaeth er anrhydedd gan brifysgolion S. Andrews, Manceinion a Chymru. Etholwyd ef ddwywaith yn Gadeirydd Annibynwyr Lloegr a Chymru sef yn 1909 a 1925; cyfeirid ato fel Archesgob Independia.
Cymerth ei le gyda phrif ddoniau pulpud Lloegr yn ei ddydd a meddai ddawn hudolus a dynnai dyrfaoedd i'w wrando. Cyfrifid ei eglwys yn Richmond Hill gyda'r enwocaf o'r cynulleidfaoedd ymneilltuol yn yr holl wlad. Dichon er hynny, mai fel arweinydd â chyfluniwr enwadol y gwnaeth ei waith mwyaf a dwg Annibyniaeth Lloegr ei ddelw am yn hir. Ef yn anad neb a wnaeth fwyaf ynglŷn a chynhaliaeth y weinidogaeth serch i'w gynlluniau'n aml, yn nhŷb rhai, sawru o bresbyteriaeth onid esgobyddiaeth.
Pan ddaeth i dreulio'i brynhawnddydd i Gymru cafodd weled Cymru newydd wedi ymddeffroi i'w hymwybyddiaeth genedlaethol ac anodd oedd ganddo ddygymod â hynny gan mor llwyr yr aethai dan ddylanwad dosbarth canol cefnog Lloegr.
Cyhoeddodd gryn ddwsin o gyfrolau, pregethau gan mwyaf a hunan-gofiant.
Bu farw yn y Bala, 19 Ebrill 1942, a chladdwyd ef yn Bournemouth.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.