Ganwyd 13 Rhagfyr 1867, yng Nghwm Croesor, Sir Feirionnydd, mab John Jones, tyddynnwr, a Mary Roberts ei wraig; yr oedd yn ŵyr i Robert Roberts, Erw Fawr, sefydlodd yr ysgol sul yn Llanfrothen. Wedi iddo adael yr ysgol yn 12 oed, aeth i weithio mewn chwarel. Treuliodd ei oes bron yn gyfangwbl ym Mlaenau Ffestiniog; yng nghydol amser daeth i ddal swydd o gyfrifoldeb mewn chwarel. Dysgodd elfennau barddoniaeth gan Richard Jones Owen ('Glaslyn ' 1831 - 1909), a chyn bod yn 20 oed yr oedd wedi ennill amryw wobrwyon; cafodd ei dderbyn i Orsedd y Beirdd yn 1890. Enillodd 64 o gadeiriau eisteddfod, ac 8 o goronau arian; yr oedd hefyd yn anfon cynhyrchion i Cymru (O.M.E.) a'r Genhinen. Fel arweinydd eisteddfodau nodweddid ef gan ffraethineb a'i allu i gadw cynulleidfaoedd mawr mewn trefn. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o ganeuon - Telynau'r Wawr a Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill. Priododd (1893) Mary Eleanor Williams a bu iddynt 5 o blant. Bu farw 22 Ionawr 1947.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.