JONES, DAVID TAWE (1885 - 1949), cerddor

Enw: David Tawe Jones
Dyddiad geni: 1885
Dyddiad marw: 1949
Priod: Elizabeth Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: John Hughes

Ganwyd yn Rhyd-y-fro, Pontardawe. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Abertawe a choleg y Brifysgol, Caerdydd. Bu'n organydd yn eglwysi Presbyteraidd Llanrwst, Caerdydd, Caerfyrddin, a Holloway Road (Llundain). Bu'n arwain a beirniadu llawer iawn ar hyd a lled Cymru ac yn Lloegr, ac yn ystod blynyddoedd olaf ei oes yr oedd yn Athro Llais yn y Guildhall School of Music, Llundain. Ymhlith ei gyfansoddiadau ceir llawer o weithiau corawl a chaneuon (amryw ohonynt yn fuddugol yn yr eisteddfod genedlaethol), ynghyd â rhai cyfansoddiadau offerynnol. Cafodd ei gyfansoddiadau le amlwg fel darnau prawf yn yr eisteddfod genedlaethol o dro i dro. Yr oedd yn llym ei feirniadaeth ar ddiffyg menter y corau Cymreig; ni welai unrhyw arwydd o gynnydd yn eu canu, a dyheai am glywed côr Cymreig a ansawdd Cor Huddersfield. Byddai'r rhestr gyflawn o'i gyfansoddiadau yn rhy hir i'w chynnwys yn yr ysgrif hon.

Dioddefodd gryn lawer o ganlyniadau Rhyfel 1914-18 pan glwyfwyd ef yn ei ben, a bu'n dioddef yn hir hefyd o effeithiau'r nwy gwenwynol. Ychydig cyn ei farw gorffennodd opera bum act, ' The Enchantress ', yn seiliedig ar y thema feiblaidd, ' Jesebel '; sgrifennwyd y libreto gan J. Dyfnallt Owen a chyfieithiwyd hi i'r Gymraeg gan William Evans (Wil Ifan). Sgoriwyd yr opera i gerddorfa lawn. Bu farw yn ei gartref yn Golders Green, Llundain, 3 Mai 1949, a chafodd ei gladdu yn Rhyd-y-fro.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.