JONES, WILLIAM ('Gwilym Myrddin '; 1863 - 1946), bardd

Enw: William Jones
Ffugenw: Gwilym Myrddin
Dyddiad geni: 1863
Dyddiad marw: 1946
Priod: Elizabeth Jones (née Jones)
Rhiant: Evan Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Ganwyd ar fferm Llwyndinawed ym mhlwyf Cil-y-cwm ger Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin, 12 Ebrill 1863, yn fab i Evan Jones. Prin a fu ei ddyddiau ysgol oherwydd gofynion y fferm. Yn 1886 priododd Elizabeth Jones, Pumpsaint, Sir Gaerfyrddin, a thua diwedd 1898 gadawodd ei fro enedigol, a symud i'r Betws, Rhydaman. Bu am ysbaid yn feili ar fferm ger Rhydaman ac yn ddiweddarach cafodd swydd fel gofalwr lampau yng nglofa Pantyffynnon yn yr ardal honno. Collodd ei iechyd ac ymddeol yn 1924. Yr oedd yn eisteddfodwr brwd ac enillodd ei gyfansoddiadau barddonol nifer o wobrwyon. Ef a enillodd y goron yn eisteddfod Genedlaethol Llanelli, 1930, am bryddest i Ben Bowen. Yn 1902 cyhoeddodd Pryddest a Chan yn cynnwys dwy bryddest ' Porth y Nefoedd ' ac ' Angladd Crist ', a dau ddarn arall, ac yn 1938 ' Y Ferch o'r Scer ' a ' Peniel ', yn cynnwys dwy gerdd a ddanfonwyd i gystadleuaeth y goron yn eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1938. Casglwyd a chyhoeddwyd nifer o'i weithiau dan y teitl Cerddi Gwilym Myrddin yn 1948. Bu farw yn y Betws ger Rhydaman, 10 Ionawr 1946.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.