Ganwyd 9 Chwefror 1881 yn Llundain, mab hynaf Arthur Griffith Poyer Lewis, bargyfreithiwr, o Henllan, Narberth, Sir Benfro, ac Annie Wilhelmine, ei wraig, ac ŵyr y Gwir Barchedig Richard Lewis, Esgob Llandaf o 1883 i 1905. Addysgwyd ef yn Eton a Choleg y Brifysgol, Rhydychen, lle y graddiodd mewn hanes yn 1903. Galwyd ef i'r Bar gan yr Inner Temple yn 1908 a bu'n gwasanaethu yng nghylchdaith De Cymru hyd 1914. Rhwng 1914 a 1919 gwasanaethodd fel swyddog yn y fyddin, a chafodd ddau sylw anrhydeddus a'i wneud yn O.B.E. Ar ôl y rhyfel symudodd i Lundain lle y bu'n llwyddiannus iawn fel bargyfreithiwr. Arbenigodd yn y gyfraith eglwysig, a bu'n ganghellor esgobaeth Llandaf, 1914-35, esgobaeth Mynwy, 1921-35, esgobaeth Manceinion a Blackburn, 1929-35, ac esgobaeth Caerwrangon 1930-35. Yn 1930 gwnaed ef yn gynghorydd (Junior Counsel) i'r Trysorlys, ac ym mis Gorffennaf 1935 penodwyd ef yn farnwr yn Llys Mainc y Brenin, a'i urddo'n farchog. Ar ei gylchdaith gyntaf clywodd achos y ' Tân yn Llŷn ' yng Nghaernarfon pryd y methodd y rheithwyr â chytuno ar ddedfryd. Gwasanaethodd fel ustus heddwch, cadeirydd y sesiwn chwarter a dirprwy raglaw yn Sir Benfro. Priododd ddwy waith - yn gyntaf yn 1908, Margaret Annie (bu farw 1932), merch Syr John Eldon Bankes, Soughton Hall, Northop, Sir y Fflint, ac yn ail yn 1934, Elizabeth, merch Dr. David Barty King o Lundain. Bu farw 15 Mawrth 1950.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.