Ganwyd 15 Medi 1875 yn yr Onllwyn, ger Castell Nedd, Sir Forgannwg, ond tra'r oedd yn blentyn symudodd y teulu i'r Porth yng Nghwm Rhondda. Addysgwyd ef yn ysgol y Porth, ac am ysbaid, ar ôl gadael yr ysgol, bu'n glerc yng ngwasanaeth Bwrdd Dŵr Pontypridd. Yna aeth i academi Pontypridd ac oddi yno i goleg y Bedyddwyr a choleg y Brifysgol, Caerdydd. Graddiodd gydag anrhydedd mewn athroniaeth a Groeg ac aeth yn ei flaen yn 1902 i goleg Mansfield, Rhydychen, lle yr enillodd radd mewn diwinyddiaeth. Cafodd ysgoloriaeth o Ryd ychen i astudio ymhellach ym mhrifysgol Marburg yn yr Almaen. Yn 1906 derbyniodd alwad i fugeilio eglwys Gymraeg y Bedyddwyr yn Castle Street, Llundain, ac wedi chwe blynedd yno ymadawodd yn 1912 i gymryd bugeiliaeth eglwys Tyndale ym Mryste. Tra'n weinidog yno bu'n ymgeisydd aflwyddiannus dros y blaid Lafur am sedd Castell Nedd yn etholiad seneddol 1918. Nid oedd ei ysbryd heddychol ef yn gymeradwy yn hinsawdd yr etholiad hwnnw. Yn 1920 penodwyd ef yn gyfarwyddwr Adran Efrydiau Allanol, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, a gwasanaethodd yn y swydd honno hyd iddo ymddeol yn 1940. Yn 1945 etholwyd ef yn llywydd Undeb y Bedyddwyr Cymreig. Er ei fod ef ei hun yn rhyddgymunwr, ym mlwyddyn ei lywyddiaeth glynai'n dynn wrth argyhoeddiad ei enwad. Cyhoeddodd ef a J. Jenkins Esboniad ar Esaiah xl-xliii a lii, liii, (Caerfyrddin, 1908). Cyhoeddwyd hefyd rai o'i ddarlithiau megis The Church and the Social Problem (Caerfyrddin, 1911), Housing and Public Welfare (1912), Reason and Religion (1946). Yn 1919 ymddangosodd ei lyfr ar The Social Task in Wales (Llundain), a dwy flynedd yn ddiweddarach cyhoeddodd ef a Nathaniel Micklem, Christ and Caesar, cyfrol a ddisgrifid fel ymchwiliad i ddyletswyddau cymdeithasol. Bu farw 22 Medi 1946 yn 72 oed.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.