Ganwyd yn Hendy, Pontarddulais, 8 Hydref 1872, yn fab i John ac Elizabeth Jenkins. Dechreuodd bregethu gyda'r Bedyddwyr yn 1891, ac wedi bod am dymor dan addysg ' Watcyn Wyn ' aeth yn 1892 i Fangor ac oddi yno (1896) i Goleg Caerdydd; yn y naill le a'r llall ymroes i bregethu ac i brydyddu ar draul dibrisio arholiadau. Yn 1897 dechreuodd ei gyfeillgarwch ag Edward Thomas, ac o 1897 hyd 1905 bu'n cynorthwyo ' Watcyn Wyn ' yn ysgol y Gwynfryn. Aeth i Goleg Iesu yn Rhydychen yn 1905, a graddiodd yn yr ysgol ddiwinyddol yno yn 1908 - ymhellach ymlaen, enillodd B.Litt (1917) a D.Litt. (1932) Rhydychen. Drwy gydol y blynyddoedd hyn, bu'n diwyd farddoni a llenora, pregethu a darlithio. Nid oedd ynddo dynfa at y fugeiliaeth (gwrthododd dair galwad), ac er bod gwrandawyr effro a meddylgar yn mawrhau ei bregethu, yr oedd ei barabl gorgyflym, a'i syniadau blaengar, braidd yn dramgwydd i'r cyffredin. Fel bardd, ni lwyddodd yn y mesurau caethion - pryddestau a enillodd gadeiriau taleithiol iddo dro ar ôl tro, a'i unig lwyddiant yn yr eisteddfod genedlaethol oedd y goron a gafodd yn 1901 (Merthyr Tydfil). Wedi gadael Rhydychen, cymerodd at ysgol y Gwynfryn yn lle ' Watcyn Wyn '; yn 1910 priododd Mary E. Lewis (cawsant ddwy ferch). Penodwyd ef yn 1914 yn olygydd Seren Cymru - fe'i golygodd hyd 1927, ac ailgydiodd ynddi o 1933 hyd ei farw. Rhoes rhyfel 1914-8 derfyn ar ei ysgol, ac aeth yntau i Gaerdydd yn 1917, ar y cychwyn yn gynorthwywr i Thomas Powel, athro Cymraeg y coleg, wedyn yn ddirprwy-athro pan oedd y gadair yn wag, ac yna (1919) yn ofalwr ar ' Llyfrgell Salesbury.' Daeth terfyn ar ei symudiadau yn 1923, pan etholwyd ef yn athro'r Testament Newydd yng Ngholeg y Bedyddwyr (ac yng Ngholeg y Brifysgol) ym Mangor. Gwnaeth swm dirfawr o waith ym Mangor, gan gyhoeddi yn 1928 Arweiniad i'r Testament Newydd, yn 1934 gyfrol o Ganiadau, a golygu Seren Gomer o 1930 hyd 1933. Ond heb unrhyw amheuaeth, ei brif orchest oedd ei gyfrol ar hanes diwinyddiaeth Cymru, a gyhoeddwyd yn 1931 dan y teitl (camarweiniol braidd) Hanfod Duw a Pherson Crist, ffrwyth ymchwil mewn maes nad oedd fawr neb o'i flaen (ar wahân efallai i Owen Thomas) wedi ymboeni o ddifrif ag ef. Ceir rhestr o'i weithiau eraill, yn farddoniaeth ac yn rhyddiaith, gyda detholiad o'i bregethau, yn y Cofiant gan E. Cefni Jones, 1937. Etholwyd ef yn archdderwydd yn 1931. Bu farw 16 Mai 1936, a chladdwyd ym mynwent hen gapel Annibynnol Llanedi. Gŵr llon, ar waethaf mwy nag un siom, oedd 'Gwili,' a chwmnïwr diddan, ac ychwanegai ei drwstaneiddiwch mewn manion at hoffter ei gyfeillion ohono.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.