Fe wnaethoch chi chwilio am 1941

Canlyniadau

NORTH, HERBERT LUCK, (1871 - 1941), pensaer

Enw: Herbert Luck North
Dyddiad geni: 1871
Dyddiad marw: 1941
Priod: Ida Maude North (née Davies)
Rhiant: Fanny North
Rhiant: Thomas North
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pensaer
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Ganwyd yng Nghaerlŷr yn 1871, yn fab i Thomas a Fanny North. Addysgwyd ef yn ysgol Uppingham a Choleg Iesu, Caergrawnt, lle y graddiodd yn B.A. Yn 1897 priododd Ida Maude Davies, a bu iddynt un ferch. Daeth i fyw i Lanfair Fechan, Sir Gaernarfon, ac ymddiddori yn hen adeiladau ardal Eryri. Cyhoeddodd The Old Churches of Arllechwedd, Bangor, 1906. The Old Cottages of Snowdonia, Bangor, 1908 (gyda H. H. Hughes fel cyd awdur), a The Old Churches of Snowdonia, Bangor, 1924 (eto gyda H. H. Hughes fel cyd awdur). Bu farw 9 Chwefror 1941.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.