HUGHES, HENRY HAROLD (1864 - 1940), hynafiaethydd

Enw: Henry Harold Hughes
Dyddiad geni: 1864
Dyddiad marw: 1940
Priod: Charlotte Elisabeth Hughes (née Baker)
Rhiant: Richard Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant
Awdur: Ellis Davies

Ganwyd yn Lerpwl, mab Richard Hughes, ficer eglwys S. Catherine, Edge Hill, ac wyr John Hughes (1787 - 1860). Aeth i'r Liverpool College, a chafodd ei hyfforddi yng nghrefft pensaer dan Arthur Baker, F.R.I.B.A., a atgyweiriodd amryw eglwysi yng Ngogledd Cymru, merch yr hwn, sef Charlotte Elisabeth, a briododd. Cychwynnodd fel arch-adeiladydd ym Mangor tua 1891, a daeth yn A.R.I.B.A. Yn 1900 penodwyd ef yn arolygydd adeiladau'r esgobaeth. Arddangoswyd yn 1892 ddarlun dyfrliw o'i eiddo, ' The Bar Gate, Southampton ' yn y Royal Academy. Yr un flwyddyn ymunodd â'r ' Cambrian Archaeological Association.' Cymerai gryn ddiddordeb mewn hen hanes, a chyfrannodd nifer mawr o erthyglau gwerthfawr i Archaeologia Cambrensis. Yn 1926 gwnaed ef yn gydolygydd y cylchgrawn hwn, ac yn 1930 efe oedd llywydd y gymdeithas. Cymerodd ran yn yr archwiliad a wnaethpwyd ar wersylloedd cyn-hanesol Treceiri a Phenmaenmawr. Cyhoeddodd, gyda H. L. North, The Old Cottages of Snowdonia, 1908, a The Old Churches of Arllechwedd, 1924. Bu'n gyfrifol am atgyweirio llawer o eglwysi yn esgobaeth Bangor. Yr oedd yn F.S.A., ac anrhydeddwyd ef gan Brifysgol Cymru â'r radd o M.A. yn 1928.

Yr oedd Hughes yn is-lywydd y Royal Cambrian Academy, yn aelod o gyngor yr Amgueddfa Genedlaethol o'r dechrau, ac yn aelod o'r ' Royal Commission on Ancient Monuments (Wales) ' o'r flwyddyn 1935. Bu farw 7 Ionawr 1940, a chladdwyd ef ym mynwent Llandysilio, Porthaethwy, dan gysgod y groes Geltaidd fawr a gynlluniwyd ganddo yn gofadail i'r rhai a laddwyd yn y rhyfel mawr cyntaf (1914-8).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.