HUGHES, JOHN (1787 - 1860), archddiacon Ceredigion, clerigwr efengylaidd, a llenor

Enw: John Hughes
Dyddiad geni: 1787
Dyddiad marw: 1860
Plentyn: Richard Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: archddiacon Ceredigion, clerigwr efengylaidd, a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Daniel Williams

Ganwyd yn Llwynglas, Llanfihangel Geneu'r Glyn. Addysgwyd ef yn Ystrad Meurig yn nyddiau John Williams, mab ' Yr Hen Syr.' Wedi hynny, bu'n athro cynorthwyol yn ysgol Putney, ger Llundain, am 18 mis. Ordeiniwyd ef yn ddiacon ac offeiriad gan esgob Llanelwy yn 1811. Ei guradiaeth gyntaf oedd Llandrillo-yn-Rhos, ger Colwyn. Bu yno chwe mlynedd a'r wlad ogylch yn tyrru i'w wrando. Derbyniodd guradiaeth Foleshill, ger Coventry, yn 1817. Yn 1822 (ar farw'r periglor) anfonwyd deiseb gan y plwyfolion at y noddwr (Arglwydd Eldon) yn deisyfu ei benodi i'r fywoliaeth; gwrthodwyd y cais oherwydd syniadau efengylaidd y curad poblogaidd. Derbyniodd guradiaeth Deddington, ger Rhydychen. Cyrchai efrydwyr y brifysgol i wrando arno, ac yn eu plith John Henry Newman. Daeth yn ôl i Gymru, gan dderbyn perigloriaeth Aberystwyth, a churadiaeth Llanbadarn Fawr yr un pryd, a thrachefn ficeriaeth y lle olaf yn 1833. Ei waith cyntaf oedd adeiladu eglwys fawr S. Michael. Cyn hyn (1832) daeth cais ato i ddilyn William Howels yr efengylydd poblogaidd, yn Long Acre, Llundain, eithr dewisodd aros yng Nghymru. Rhoddes esgob Tyddewi (Jenkinson) iddo gadair brebendaidd yng Ngholeg Crist, Aberhonddu, ac yn 1859 penodwyd ef gan Connop Thirlwall yn archddiacon Ceredigion. Daliodd y swyddi hyn hyd ei farw ar 1 Tachwedd 1860. Bu yn gefnogydd cyson i Gymdeithas y Beiblau, ac ymwelodd â phentrefi Lloegr (i ddechrau) a Chymru i ddadlau ei hawliau o bulpud ac oddi ar lwyfan. Cyhoeddodd gyfrolau o bregethau yn Gymraeg a Saesneg. Bu darllen cyffredinol ar ei Nabl, casgliad o salmau ac emynau Cymraeg. Cyfieithodd Esboniad ' Henry a Scott ' hyd dros lyfr Deuteronomium, a Myfyrdodau yr Esgob Hall ar y Testament Newydd. Ymysg ei gynhyrchion Saesneg y pwysicaf ydyw Esther and her People, 1832; Ruth and her Kindred, 1839; The Self Searcher, 1848. At y cwbl, rhestrid ef ymysg pregethwyr mawr ei gyfnod.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.