Ganwyd 20 Ionawr 1873 yn y Dinas, Cwm Rhondda, Morgannwg. Yn fuan wedi ei eni symudodd ei rieni i fyw i Ben-y-graig, ac yno y magwyd ef. Wedi derbyn ei addysg yn yr ysgol elfennol aeth i weithio i'r lofa, a chafodd gwrs o addysg i'w gymhwyso i fod yn swyddog glofa. Yn 1900 priododd Kate Ann, merch Thomas Roberts, prif gyfrifydd yn Chwarel Oakeley, Blaenau Ffestiniog. Ymsefydlodd mewn masnach ym Mhont Rhondda, ac wedi hynny yn Llundain ac yn Abertyleri, sir Fynwy. Penodwyd ef i swydd gyfrifol mewn swyddfa cwmni yswiriant yn Llundain, lle y gwasanaethodd hyd ei ymneilltuad yn 1941, pan ddaeth i fyw i Brestatyn, Sir y Fflint. Wedi colli ei briod yn 1945, aeth i fyw at ei ferch, priod yr Athro R. H. Evans (Prifysgol Leeds), Headingley, Leeds. Yr oedd yn fardd a llenor da. Ysgrifennodd lawer i'r cylchgronau, ac enillodd wobrwyon yn yr eisteddfodau cenedlaethol canlynol: - Lerpwl, 1929, ar y cywydd ' Machlud Haul '; ym Mhwllheli, 1925, ar yr englyn ' Balm '; Abertawe, 1926, ' Ty to Gwellt ', (cyd-fuddugol ag ' Eifion Wyn'); Treorci, 1928, ' Colyn '; Aberafan, 1932, ' Cyfaill '. Cyfansoddodd amryw o emynau, ac ystyrir ei emyn ' O Fab y Dyn, Eneiniog Duw, fy Mrawd ' yn un o emynau mwyaf y ganrif. Bu farw 1 Medi 1950 yn nhŷ ei ferch yn Leeds, a chladdwyd ef ym mynwent Willesden Green, Llundain, 6 Medi 1950.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Ei enw iawn oedd GEORGE REES HEYCOCK a hanai ei rieni o ardal Pont-rhyd-y-fen, a Phwll-y-glaw, Cwmafan, Morgannwg. Newidiodd ei enw yn Llundain pan ddechreuwyd ei gymysgu â gwerthwr llaeth arall â'r cyfenw Maycock. Gweler Ser. Cymru, 21 Hydref 1973. Casglwyd gwaith George Rees gan Brynley F. Roberts, O Fab y Dyn (1976).
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.