Ganwyd 31 Mai 1874, mab David a Margaret Roberts (gynt Jones). Yr oedd ei dad yn weinidog ar eglwys y Methodistiaid Calfinaidd, Rhiw, Blaenau Ffestiniog. Addysgwyd ef yn Liverpool Institute High School, coleg y Brifysgol, Aberystwyth, a choleg diwinyddol y Bala. Bu'n weinidog gyda'r Symudiad Ymosodol yng nghylch Caerdydd, 1896-98. Yna, bu'n gynorthwywr ac ysgrifennydd i'r Prifathro T. C. Edwards y Bala, 1899-1900. Bu'n weinidog ar eglwys Gymraeg Willesden Green, Llundain, 1900-03. Priododd ag Anne Catherine Thomas yn 1902 a bu iddynt dair o ferched. Bu'n weinidog ar eglwys Bresbyteraidd S. Paul's Bayswater, 1903-10 ac eglwys Bresbyteraidd Crouch Hill, 1910-15. Etholwyd ef yn Gadeirydd Ffederasiwn Eglwys Rydd y Brifddinas yn 1911. Yr oedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas y Cymod a bu'n Ysgrifennydd iddi, 1915-16. Ymfudodd i'r Amerig lle bu'n weinidog ar Eglwys y Pererinion, Brooklyn, Efrog Newydd, 1917-21; Eglwys Bresbyteraidd yr Amerig, Montreal, 1921-26; Eglwys Sherbourne, Toronto, 1927-38. Yr oedd yn ddarlithydd mewn diwinyddiaeth yng ngholeg Emmanuel, Toronto, 1929-32. Ymunodd ag Eglwys Unedig Canada pan gwblhawyd yr Undeb yn 1925. Bu'n Llywydd Eglwys Unedig Canada, 1934-36.
Gwnaeth waith mawr gyda Chynadleddau Mudiad Cristnogol y Myfyrwyr, Cynhadledd C.O.P.E.C. a'r Mudiad Eciwmenaidd. Traddododd yr ' Wood Lecture ' ym Mhrifysgol Mount Alison, Canada, yn Hydref 1944 ar y testun ' Rhyddid a Chymdeithas '.
Yn 1937 derbyniodd radd D.D., er anrhydedd gan Brifysgol Cymru.
Symudodd ef a'i briod i Efrog Newydd ac yno y bu farw 10 Ebrill 1945.
Yr oedd yn llenor toreithiog. Ceir ysgrifau ganddo yn Cymru (O.M.E.), The Hibbert Journal &c. a chyhoeddodd lawer o lyfrau. Yn eu plith ceir: Robert Owen, (traethawd buddugol yn eisteddfod Genedlaethol Lerpwl 1900) ' Llyfrau ab Owen ', ymddangosodd rhan I yn 1907 a rhan II yn 1910. The Renascence of Faith, 1912; The Church in the Commonwealth, 1916; The Unfinished Programme of Democracy, 1919; The Jesus of Poets and Prophets, 1919; The Untried Door, 1920; The New Man and the Divine Society, 1923; The Gospel at Corinth, 1924; The Christian God, 1928; The Preacher as Man of Letters, 1930; The Strange Man on the Cross, 1934; The Contemporary Christ, 1938 &c.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.