Fe wnaethoch chi chwilio am *
Ganwyd yn Wolverhampton 7 Tachwedd 1888, yn fab i John Fairs a Mary Emma Robinson. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Wolverhampton a phrifysgol Caergrawnt, lle yr oedd yn ysgolor o goleg Caius (B.A. 1910). Am ddwy flynedd bu'n aelod o staff Ysgol Amaethyddiaeth Caergrawnt, ac yn 1913 gwnaeth arolwg o amaethyddiaeth a phriddoedd sir Amwythig. Yn 1912 penodwyd ef yn gynghorydd mewn cemeg amaethyddol tros adran Gogledd Cymru tan y Bwrdd Amaethyddiaeth yng ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor. Daliodd y swydd hon hyd nes i'r gwasanaeth gael ei ad-drefnu yn 1946. Yn 1926 penodwyd ef yn athro cemeg amaethyddol ym Mangor. Yr oedd ei ymchwil cynnar yn ymwneud â phriddoedd palaeosoig Gogledd Cymru, ac â'r dadansoddiad mecanyddol o briddoedd. Sefydlodd ysgol ymchwil yn ei adran ym Mangor, cychwynnodd arolwg o briddoedd Cymru, a hyfforddodd nifer fawr o raddedigion at y gwaith hwn ym Mhrydain a gwledydd tramor. Ef oedd cyfarwyddwr cyntaf y ' National Soil Survey ' yn Lloegr a Chymru, swydd a ddaliodd o 1939 hyd 1946, pan symudwyd canolfan y gwasanaeth i Rothamsted. Yr oedd yn ŵr amlwg yng Nghymdeithas Ryngwladol Gwyddor Pridd. Yr oedd yn bresennol yng nghyngres gyntaf y gymdeithas yn yr Unol Daleithiau yn 1925, a bu'n llywydd ei chomisiwn cyntaf am lawer blwyddyn. Teithiodd lawer yn Ewrob, India'r Gorllewin, yr Unol Daleithiau ac Affrica, ac yn 1949 ymwelodd ag Awstralia a New Zealand fel cynrychiolydd y Gymdeithas Frenhinol i Gyngres Wyddonol y Pacific. Yr oedd yn ieithydd medrus. Medrai ddarlithio mewn Ffrangeg, Eidaleg a Chymraeg, ac yr oedd ganddo wybodaeth o Almaeneg, Is-Almaeneg a iaith Portiwgal. Carai Sbaen a'i hiaith, ac yr oedd yn aelod anrhydeddus o'r ' Consejo Superior de Investigaciones Cientificas '. Dyfarnwyd iddo fathodyn y cyngor hwnnw. Ymddiddorai hefyd yn y clasuron, ac yr oedd yn llywydd cangen Gogledd Cymru o'r Gymdeithas Glasurol yn 1928.
Ei gyfrol Soils, their origin, constitution and classification (1932), oedd y gwerslyfr Saesneg cyntaf ar briddeg. Yn 1937 cyhoeddodd Mother Earth, ar ffurf cyfres o lythyrau at yr Athro (Syr) R. G. Stapledon, cyfrol y datguddiwyd ynddi ei agwedd Fersilaidd at y wlad. Ysgrifennodd lawer o erthyglau technegol mewn cylchgronau gwyddonol. Enillodd radd Sc.D., Caergrawnt yn 1936, a gwnaed ef yn gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol ac yn C.B.E., yn 1948. Yr oedd yn ustus heddwch dros Sir Gaernarfon, a gwasanaethodd ar y Pwyllgor Adrannol ar Addysg Gwlad yng Nghymru (1928-30), ac ar y Cyngor Ymgynghorol Canolog dros Addysg yng Nghymru. Yr oedd yn aelod ffyddlon o'r Eglwys yng Nghymru, a bu'n gadeirydd Pwyllgor Addysg Grefyddol Esgobaeth Bangor ac yn aelod o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru o 1939. Yr oedd yn is brifathro coleg y Brifysgol, Bangor, yn 1947-8, ac yn ddeon y gyfadran wyddoniaeth o 1948.
Yn 1913 priododd Winifred Annie Rushworth o Louth, swydd Lincoln, a bu iddynt un mab a thair o ferched. Yn 1949 priododd Mary Isabel, merch y diweddar Dr. H. L. James, Deon Bangor. Bu farw 6 Mai 1950, ym Mangor.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.