STAPLEDON, Syr REGINALD GEORGE (1882 - 1960), gwyddonydd amaethyddol

Enw: Reginald George Stapledon
Dyddiad geni: 1882
Dyddiad marw: 1960
Priod: Doris Stapledon (née Wood Bourne)
Rhiant: Mary Stapledon (née Clibbert)
Rhiant: William Stapledon
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwyddonydd amaethyddol
Maes gweithgaredd: Natur ac Amaethyddiaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Llywelyn Phillips

Ganwyd 22 Medi 1882 yn Northam, gogledd Dyfnaint, yn fab ieuangaf William a Mary Stapledon. Cafodd ei addysg yn yr United Services College, Westward Ho, a Choleg Emanuel, Caergrawnt, a graddio yn M.A. mewn botaneg yn 1904. Gweithiodd yn swyddfa fasnachol y teulu yng Nghairo am tua dwy fl., ac ar ôl hynny bu'n ddisgybl am flwyddyn ar fferm fawr yn tyfu ffrwythau yng Nghaint. Yn 1908 aeth yn ei ôl i Gaergrawnt i ddilyn cwrs diploma mewn amaethyddiaeth, a hwn oedd y trobwynt yn ei hanes a'i cyfeiriodd at waith mawr ei fywyd gyda thir glas. Bu'n Athro Botaneg Amaethyddol yng Ngholeg Brenhinol Amaethyddol Cirencester, 1909-12, ac yn ystod y cyfnod hwn yr amlygodd ei ddiddordeb eithriadol mewn ecoleg tir glas, mewn perthynas, yn arbennig, ag effaith haf sych 1911 ar borfeydd cynhenid y Cotswolds.

Fe'i penodwyd yn 1912 yn gynghorydd mewn botaneg amaethyddol dan y Bwrdd Amaethyddiaeth a Physgodfeydd i siroedd cylch coleg Aberystwyth, a dyna ddechrau'i gysylltiad hir ag amaethyddiaeth Cymru. Rhan o'i ddyletswyddau yn ystod ei ddwy flynedd gyntaf yn y swydd honno fu gwneud arolwg o dir glas gogledd Ceredigion fel rhan o arolwg gyflawn gan Cadwaladr Bryner Jones ar amaethyddiaeth, O.T. Jones ar ddaeareg, ac R.A. Yapp ar fotaneg. Rhwng 1916 ac 1918 bu'n gyfarwyddwr yr Orsaf Swyddogol i roi Profion ar Hadau, a sefydlwyd yn y cyfnod hwnnw yn Llundain. Yna, yn 1919, fe'i penodwyd yn gyfarwyddwr cyntaf Bridfa Blanhigion Cymru ac yn bennaeth yr Adran Botaneg Amaethyddol a sefydlwyd bryd hynny yng Ngholeg Prifysgol Cymru.

Yn y Fridfa rhwng 1919 ac 1942 gyda chydweithwyr ymroddedig o'i ddewis ei hun y cyflawnodd Stapledon waith mawr ei fywyd — gwaith a ddylanwadodd yn ddirfawr ar grefft a gwyddor ac, yn wir, ar athroniaeth tir glas ar bum cyfandir. Yn ystod y blynyddoedd hyn y sefydlwyd Biwröau Amaethyddol yr Ymerodraeth (y Gymanwlad ar ôl hynny) gyda Stapledon yn gyfarwyddwr yr un ar gyfer Tir Glas a Chnydau'r Maes a sefydlwyd yn Aberystwyth yn 1927. Ef ydoedd cyfarwyddwr y Cahn Hill Improvement Scheme a gychwynnwyd yn 1933 i droi canlyniadau mân arbrofion ar wella tir uchel ar fryndir Ceredigion yn waith ymarferol ar raddfa helaeth ar ran o ystad Hafod Uchtryd yng Nghwmystwyth. Gadawodd Aberystwyth yn 1942 er mwyn canolbwyntio ar ei swydd newydd fel cyfarwyddwr Gorsaf Gwella Tir Glas a sefydlwyd yn Stratford-on-Avon yn 1940, ac ar ôl ymddeol o'r swydd honno yn 1945 bu'n gynghorydd ac yn un o gyfarwyddwyr Dunn's Farm Seeds Ltd., Caersallog, tan i lesgedd a byddardod llwyr ei oddiweddyd yn ei flynyddoedd olaf.

Nid oes amheuaeth nad Stapledon yn ei gyfnod ydoedd gwyddonydd amaethyddol mwyaf adnabyddus y byd a'r awdurdod pennaf ar dir glas. Dan ei arweiniad eneiniedig ef daeth Bridfa Blanhigion Cymru yn sefydliad ymchwil o'r pwys pennaf ym Mhrydain a thros y môr mewn astudiaethau tir glas a bridio planhigion. Fe'i hanrhydeddwyd â'r C.B.E. yn 1932, fe'i hurddwyd yn farchog ac yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol (F.R.S.) yn 1939, a chafodd radd D.Sc. er anrhydedd gan Brifysgolion Cymru a Nottingham. Enillodd fedal aur Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Lloegr, ac ef oedd llywydd y Bedwaredd Gynhadledd Ryngwladol ar Dir Glas a gynhaliwyd yn Aberystwyth yn 1937.

Cyhoeddodd liaws o ysgrifau gwyddonol ac amaethyddol, a golygodd gyfrolau ar dir glas ac ar wella tir. Cyhoeddodd (ymhlith pethau eraill): Grassland, its improvement and management (gyda J.A. Hanley, 1927); A tour in Australia and New Zealand: grassland and other studies (1928); The hill lands of Britain: development or decay? (1937); The plough-up: policy and ley farming (1941); Make fruitful the land: a policy for agriculture (1941); The way of the land (1943); Disraeli and the new age (1943). Ond, yn ddiamau, ei bennaf camp ydoedd ei lyfr The land now and tomorrow (1935).

Priododd, 1913, Doris Wood Bourne, ond ni fu iddynt blant. Bu farw yng Nghaerfaddon 16 Medi 1960, a chynhaliwyd gwasanaeth coffa amdano ym Mridfa Blanhigion Cymru, ger Aberystwyth. Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Goffa Stapledon i alluogi gwyddonwyr amaethyddol ieuainc o'r naill wlad i wneud gwaith ymchwil mewn gwlad arall o'r Gymanwlad.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/