Ganwyd 6 Ebrill 1872, mab Enoch Jones, Cefnmaelan, Dolgellau, Meirionnydd, a Jane ferch Lewis Jones, Maesbryner. Cafodd ei addysg yn ysgol ramadeg Dolgellau a choleg amaethyddol Aspatria; cymerodd radd M.Sc. Prifysgol Durham ac etholwyd ef yn Gymrawd o'r Highland and Agricultural Society of Scotland.
Apwyntiwyd ef gan Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn ddarlithydd cynorthwyol i fod yn gyfrifol am ddosbarthiadau allanol mewn amaethyddiaeth yn siroedd gogledd Cymru yn 1893. Yn 1899 penodwyd ef yn ddarlithydd yng Ngholeg Armstrong (King's yn awr) yn Newcastle-upon-Tyne. Yn 1890 sefydlodd Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ei adran amaethyddol ac fel ym Mangor flwyddyn yn gynharach cyfunwyd addysg fewnol ac addysg allanol. Syrthiodd yr adran i anhrefn ar ymadawiad y darlithydd cyntaf ac yn 1907 cymerodd y coleg y cam hyderus o apwyntio Bryner Jones gyda'i gymwysterau a'i brofiad amlwg ac yntau eto ond ieuanc, i Gadair amaethyddiaeth. O hyn ymlaen bu llewyrch ar yr adran ac ar fferm y coleg yr oedd ef yn gyfarwyddwr arni, a daeth yntau'n arweinydd diamheuol addysg amaethyddol yng Nghymru. Daeth i'r rheng flaenaf hefyd fel gweinyddwr. Yn 1912 dechreuwyd cydnabod anghenion arbennig Cymru. Trefnwyd ymddiried datblygiad dau gynllun swyddogol dros addysg amaethyddol a gwella ansawdd da byw i gomisiynydd amaethyddol yn cael ei gynghori gan Gyngor Amaethyddol i Gymru. Bryner Jones oedd y dewis amlwg i'w apwyntio'n gomisiynydd a chadeirydd y Cyngor, ac yn ei ddoethineb cytunodd y coleg y gallai weithredu yn y swyddi hyn a pharhau yn Athro Amaethyddiaeth. Gyda dechrau'r Rhyfel yn 1914 bu raid newid pwyslais, ac ymdrôdd yntau fwyfwy yng ngwaith pencadlys yr adran gynhyrchu bwyd. Yr oedd y profiad helaethach a'r cysylltiadau personol a enillodd i droi'n fantais fawr i Gymru yn nes ymlaen.
Yn 1919 rhoddwyd teitl newydd i'r Bwrdd Amaeth a dyletswyddau eangach; daeth yn Weinyddiaeth Amaeth a Physgodfeydd. Sefydlwyd adran Gymreig yn Aberystwyth gyda Bryner Jones, a ymddeolodd yn awr o'i swydd fel Athro, yr ysgrifennydd Cymreig cyntaf. Dros yr ugain mlynedd nesaf o heddwch llywyddodd dros adran a dyfodd yn araf ond yn gyson fel y datblygai y Weinyddiaeth. Er hynny, parhaodd i ystyried addysg amaethyddol a gwaith cynghori ar bob lefel, ynghyd â gwella ansawdd da byw, fel ei phrif gyfrifoldebau. Daeth un o ganlyniadau llesol y polisi hwn, ac arweiniad yr Ysgrifennydd, i'r amlwg yn ystod Rhyfel Byd II. Galluogwyd pwyllgorau gweithredol sirol amaethyddiaeth holl-bwysig cyfnod y rhyfel yng Nghymru i fanteisio ar gorff anghyffredin o ffermwyr hyfforddedig, profiadol, a swyddogion technegol yn y gwaith hanfodol o gynyddu cynnyrch bwyd.
Diolch i'w gorff cryf gallodd Bryner Jones barhau i weithio'n llawn hyd ei farw. Ar ôl blynyddoedd egïol y rhyfel o 1939 i 1944, pan ymddeolodd yn swyddogol, parhaodd i weithredu fel swyddog cyswllt y Gweinidog a chadeirydd pwyllgor sir Drefaldwyn o hynny hyd 1947. Ond nid honno oedd pennod olaf ei yrfa faith. O 1948 i 1953 ef oedd dirprwy gadeirydd y Comisiwn Tir Amaethyddol newydd dros Loegr a Chymru, a chadeirydd yr Is-Gomisiwn Tir Cymreig. Yn ystod y cyfnod hwn cynhaliodd yr Is-Gomisiwn arolwg pell-gyrhaeddol o amodau amaethu yng nghanolbarth Cymru. (Fe'i cyhoeddwyd yn 1955 yn The Mid-Wales Investigation Report). Hefyd trefnodd, a dechrau adfer, adran Glan-llyn o stad Wynnstay, ar ôl ei throsglwyddo fel rhandaliad o drethi ar farwolaeth.
O'r pryd y daeth gyntaf i Aberystwyth cymerodd olwg eang ar ei gyfrifoldebau. O ganlyniad yr oedd yn ymwneud â chylch o weithgareddau a osodir yn awr yn aml i staffiau llawn-amser. Felly yr oedd yn llywydd Cymdeithas Llyfr Diadelloedd Defaid mynydd Cymru o 1913 i 1919, a chydnabuwyd ei ddiddordeb brwd yn y gwartheg duon Cymreig pan etholwyd ef i lywyddiaeth y Gymdeithas yn 1944-45. Sefydliad arall a fu'n drwm yn ei ddyled oedd y 'sioe genedlaethol' - y Sioe Amaethyddol Gymreig Frenhinol yn awr. Ef oedd ei chyfarwyddwr mygedol yn 1908, 1909 ac 1910, cadeirydd ei chyngor o 1944 i 1953, a'i llywydd yn 1954. Ei ddiddordebau eraill dros ei oes oedd Ysgol Dr. Williams, Dolgellau, y rhoddodd wasanaeth hael iddi fel cadeirydd y llywodraethwyr am 25 mlynedd a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yr oedd yn aelod o gyngor y coleg o 1920 hyd ei farw. Bu ganddo ran fawr mewn cael Bridfa Blanhigion Cymru, gyda George Stapledon yn gyfarwyddwr cyntaf ac Athro Botaneg Amaethyddol, i Aberystwyth. Fel cydnabyddiaeth o'i wasanaeth i addysg uwchradd rhoes Prifysgol Cymru radd LL.D. er anrhydedd iddo yn 1938. Gweddus oedd cydnabod ei yrfa swyddogol gyda dyfarnu iddo C.B.E. yn 1920, C.B. yn 1934, a'i urddo'n farchog yn 1947.
Syr Bryner oedd awdur y llyfr Cymraeg cyntaf ar Egwyddorion gwrteithio (1907); golygydd Livestock of the farm a nifer o adroddiadau ar arbrofion amaethyddol. Cyfrannodd i'r Welsh Jnl. of Agriculture a gyhoeddwyd gyntaf yn 1925 ar ran y Gynhadledd ar Addysg Amaethyddol yng Nghymru yr oedd ef yn gadeirydd iddi.
Bu farw yn ddibriod 10 Rhagfyr 1954, a chladdwyd ef yn y Brithdir, lle y buasai ei daid, Cadwaladr Jones, yn weinidog (A).
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.