Ganwyd 12 Awst 1882 yn y Pwll, ger Llanelli, mab John ac Elizabeth Rogers, ac yno y dechreuodd bregethu yn bymtheg oed pan oedd yn ddisgybl yn yr ysgol sir. Enillodd wobr Dan Isaac Davies a graddiodd gydag anrhydedd mewn Cymraeg yng ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Enillodd gadair ei goleg a chadeiriau eraill, ond cefnodd yn fuan ar farddoni, a throes at ddiwinyddiaeth.
Ordeiniwyd ef yn Soar, Pontlotyn, yn 1906; aeth yn weinidog Rhos, Aberpennar, yn 1908, ac oddi yno yn 1915 i Gapel Gomer, Abertawe, lle'r arhosodd nes ymddeol yn 1948.
Cyhoeddodd ei lyfr Y Deyrnas a'r Ail Ddyfodiad yn 1914, ac ugain mlynedd yn ddiweddarach rhoes Prifysgol Cymru y radd M.A. iddo am draethawd ar Athrawiaeth y Diwedd, a chyhoeddwyd ei lyfr ar yr un testun y flwyddyn honno. Cyhoeddwyd ei esboniad Datguddiad Ioan yn 1944, a chyfrol o'i bregethau graenus, A'r Drws yn Gaead, yn 1948. Ysgrifennodd lawer i gyfnodolion, a chyfrannodd i'r Geiriadur Beiblaidd. Bu ei gyfrolau, Llyfr Gloywi Cymraeg (1920) a Camre'r Gymraeg (1926) yn boblogaidd a buddiol.
Bu'n aelod o Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, Gorsedd y Beirdd, pwyllgor crefydd y B.B.C., a phwyllgor Llyfrgell Gyhoeddus Abertawe. Am gyfnod bu'n brifathro Ysgol Baratoi Ilston, ac yn Llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru a Mynwy am 1946-47. Golygodd yr emynau i'r Llawlyfr Moliant Newydd, ac ef oedd golygydd Seren Cymru o 1936 hyd ei farwolaeth 21 Chwefror 1950.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.