mab John a Margaret Rowland; ganwyd 1 Mehefin 1877 ym Mhenbont-fach, Tregaron. Cafodd ei addysg yng ngholeg technegol Caerdydd a choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac ar ôl gorffen ei gwrs coleg yn 1904 aeth yn athro ysgol i Gaerdydd. Yno cymerodd ran flaenllaw yn y bywyd crefyddol a diwylliannol, a thynnu sylw David Lloyd George. Daeth yn ysgrifennydd preifat i'r gŵr hwnnw yn 1905 a dal y swydd hyd 1912. Yn 1911 penodwyd ef yn aelod o'r Comisiwn Yswiriant yng Nghymru, ac yn 1930 codwyd ef yn gadeirydd Bwrdd Iechyd Cymru. Ymddeolodd o'r swydd hon yn 1940; bu farw yng Nghaerdydd, 2 Ionawr 1941, a'i gladdu ym mynwent y ddinas.
Priododd 1902, Mair, merch David Lewis, Llanafan, a bu iddynt dri mab. Gwnaed ef yn M.V.O. yn 1911, C.B.E. yn 1918, a C.B. yn 1922; urddwyd ef yn farchog yn 1938.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.